Skip to main content

Nofio Cyrm’n lansio cyfleodd newydd i fabanod a phlant ifanc gael dysgu nofio

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Nofio Cyrm’n lansio cyfleodd newydd i fabanod a phlant ifanc gael dysgu nofio

Mae Nofio Cymru'n lansio rhaglenni nofio Blynyddoedd Cynnar newydd cyffrous - Swigod a Sblash - sy'n cefnogi addysg Athrawon Nofio.

Amcan Nofio Cymru yw hybu cyflwyno babanod a phlant ifanc i'r amgylchedd dyfrol. Dylai cyflwyno babanod a phlant ifanc i bwll nofio fod yn broses ddiogel, ddifyr a graddol er mwyn hyrwyddo hoffter o'r dŵr am oes. Er mwyn cefnogi darparwyr Dysgu Nofio i gynnig darpariaeth yn y maes hwn, mae Nofio Cymru wedi datblygu rhaglen Blynyddoedd Cynnar newydd (0-4 oed) ac addysg gysylltiedig i athrawon.

Mae Swigod yn gyflwyniad i'r amgylchedd dyfrol i fabanod a phlant ifanc, gyda chynhaliaeth lawn gan oedolyn, sydd wedi ei anelu'n benodol at blant 0-3 oed. Mae Swigod yn cynnwys 4 o lefelau datblygu, gyda'r sgiliau dyfrol yn cynyddu ym mhob lefel. Dysgir yr oedolion cyfrifol sut i gynnal a chynorthwyo'r plentyn gyda gemau, caneuon a gweithgareddau difyr ar wahanol themâu. Cyflwynir tystysgrif am gwblhau bob lefel yn llwyddiannus.

Adolygwyd a diweddarwyd fframwaith presennol Sblash ac mae'n annog plant ifanc, gyda mwy o annibyniaeth ac arweiniad, i ddysgu am yr amgylchedd dyfrol er mwyn datblygu hyder yn y dŵr. Anelir Sblash at blant dros 3 oed yn benodol. Mae 6 o lefelau datblygu yn Sblash, gyda'r sgiliau dyfrol yn cynyddu ym mhob lefel a'r plentyn yn dod yn fwy annibynnol yn y dŵr. Argymhellir bod rhaglen Sblash yn cael ei chyflwyno mewn dwy ffordd; gellir cychwyn yn 3+ oed gydag oedolyn yn y dŵr yn dysgu hyd at 6 o blant, neu ar gyfer Sblash 1 a 2, gellir ei gyflwyno yn yr un ffordd â Swigod, gydag oedolyn cyfrifol yn y dŵr gyda phob plentyn. Mae hyn yn golygu bod y system yn llai tebygol o arafu cynnydd plant iau, a allai symud ymlaen drwy'r rhaglen yn gyflymach am iddynt gychwyn ar eu haddysg ddyfrol yn gynnar a datblygu hyder yn y dŵr.

Er mwyn cyflwyno ac asesu Fframweithiau Swigod a Sblash Nofio Cymru, rhaid i athrawon fod wedi ennill Tystysgrif Athro Nofio Lefel 2 o leiaf neu gymhwyster cyfwerth a dylid bod wedi mynychu Dosbarth Meistr perthnasol Swigod neu Sblash Nofio Cymru. Mae'r ddau ddosbarth meistr wedi eu cymeradwyo gan CIMSPA. Mae'r ddau yn hyfforddiant 8 awr sy'n cynnwys 1 awr ymarferol. Cynhwysir canllawiau arfer gorau a chanllawiau'r diwydiant ar gyfer dysgu sgiliau dyfrol i blant 0-5 oed; egwyddorion sylfaenol dysgu, datblygu a chwarae plant 0-5 oed; Fframwaith Swigod neu Sblash Nofio Cymru a dulliau cyflwyno creadigol, yn ogystal â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiad angenrheidiol i ddysgu sgiliau dyfrol i blant 0-5 oed.

Meddai Rheolwr Cenedlaethol Dysgu Nofio, Hanna Guise, "Mae'n bleser gennym ni lansio'r rhaglenni a'r cyfleoedd hyfforddi newydd yma ar gyfer darparwyr Dysgu Nofio yng Nghymru. Un o nifer o fanteision nofio yw natur gynhwysol iawn y gweithgaredd, y gamp neu'r hobi. Bydd ein fframwaith newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yn gymorth i sicrhau bod babanod a phobl ifanc yn cael mwy o gyfleoedd i gael cyflwyniad cadarnhaol a difyr i ddŵr. Bydd hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu medrusrwydd corfforol ehangach a rhoi profiad i'r plant o gymdeithasu a bondio gyda'r oedolyn sy'n eu cynorthwyo yn y dŵr. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r darparwyr presennol a rhai newydd i'w helpu a'u cefnogi i ddatblygu eu cyfleoedd Blynyddoedd Cynnar."

Er mwyn lansio Swigod a Sblash fel rhan o'ch rhaglen, cysylltwch â Datblygu Gweithgareddau Dŵr Nofio Cymru heddiw a bydd ein tîm profiadol a brwdfrydig yn barod i drafod popeth yn fwy manwl. Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr sy'n chwilio am wersi nofio i fabanod a phlant ifanc, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol neu cysylltwch â ni a gallwn argymell un o'n darparwyr cysylltiedig - [javascript protected email address] neu 01792 513636.