Skip to main content

Pa grantiau a chyllid sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru?

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pa grantiau a chyllid sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru?

Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o grantiau a chyfleoedd cyllido ar gael i unigolion, clybiau a grwpiau.

Mae gennym ni:

  • Grantiau ar gyfer clybiau ar lawr gwlad a grwpiau cymunedol nid er elw
  • Grantiau ar gyfer athletwyr
  • Grantiau ar gyfer prosiectau a rhaglenni, fel cyllid cyfalaf ar gyfer cyfleusterau

Mae gwybodaeth fanwl am beth sydd ar gael i’w weld ar ein tudalennau Cyllido a Chefnogaeth. 

Pa grantiau a chyllid sydd ar gael ar gyfer clybiau a grwpiau chwaraeon cymunedol?

Mae gennym ni ddau gyfle cyllido ar gael:

  1. Cronfa Cymru Actif. Dyma grant sydd rhwng £300 a £50,000 i’ch helpu chi i gael mwy o bobl i gymryd rhan, neu i’ch helpu chi i gadw pobl yn cymryd rhan yn eich clwb neu eich gweithgaredd yn y dyfodol. 
  2. Crowdfunder. Mae hwn yn gyfle cyllid cyfatebol ar gyfer gwelliannau rydych chi eisiau eu gwneud yn eich clwb neu weithgaredd nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â chael pobl i chwarae neu gymryd rhan.  

Pa grantiau a chyllid sydd ar gael ar gyfer athletwyr?

Mae gan Chwaraeon Cymru ddau grant ar gael ar gyfer athletwyr:

  1. Talent Cymru. Grant sy'n helpu athletwyr gyda'r gost o gystadlu. I dderbyn cefnogaeth drwy Talent Cymru, rhaid i athletwyr ddangos bod ganddynt y potensial i ymuno â system Llwybr y DU neu fodloni’r meini prawf sy’n ofynnol gan Elite Cymru, yn ddelfrydol o fewn dwy neu dair blynedd.
  2. Elite Cymru. Rhaid i chi gael gwahoddiad i wneud cais am gyllid Elite Cymru, sy’n cael ei weinyddu drwy gorff rheoli’r athletwr. Mae’n cynnwys athletwyr unigol sy’n cystadlu mewn chwaraeon nad ydynt yn rhai Olympaidd na Pharalympaidd (e.e. carate, chwaraeon modur), chwaraeon Gemau’r Gymanwlad fel bowlio, saethu a sboncen (2 flynedd cyn y Gemau) neu chwaraeon sy’n ennill medalau ar lefel y byd fel golff.

Pa grantiau sydd ar gael ar gyfer prosiectau a rhaglenni?

Mae Chwaraeon Cymru yn darparu gwahanol gyfleoedd cyllido i fodloni heriau a phroblemau i chwaraeon yng Nghymru. Rydym hefyd yn dosbarthu cyllid ychwanegol wedi’i dargedu sy’n cael ei roi i ni gan Lywodraeth Cymru neu’r Loteri Genedlaethol.

Er enghraifft, darparwyd grantiau i Ddarparwyr Preifat (cwmnïau) a Gweithwyr Llawrydd yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Bydd unrhyw gyfleoedd cyllido agored ar gael drwy ein tudalennau cyllido a chymorth.