Gyda threfn rhywun yn diflannu dros dymor yr ŵyl, mae ymarfer corff a symud yn tueddu i syrthio i waelod eich rhestr o flaenoriaethau. O fynd am dro yn y gaeaf i fentro i’r dŵr, mae cymaint o bethau am ddim y gallwch chi eu gwneud yng Nghymru i gadw’n actif.
Dyma rai gweithgareddau i gael eich corff i symud a rhoi hwb i’ch lles dros y Nadolig.
Rhoi cynnig ar fentro i ddŵr oer gyda nofio Nadoligaidd
Am ias oer o endorffinau, ymunwch ag un o’r torfeydd ar draeth yng Nghymru am nofio rhewllyd fel rhan o’r traddodiad Nadoligaidd yma.
Mae nofio dŵr oer yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn chwilio amdano erbyn hyn i roi hwb i’w hiechyd meddwl. Ond mae’r poblogrwydd yn ei anterth yn ystod wythnos olaf mis Rhagfyr pan fydd miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn nofio Nadoligaidd ar hyd a lled y wlad.
Gallwch gymryd rhan mewn nofio Nadoligaidd ym Mhorthcawl ar Ddydd Nadolig, Dinbych-y-pysgod ar Ŵyl San Steffan, neu Abersoch ar Ddydd Calan. Neu cymerwch ran gyda grŵp nofio dŵr oer cymunedol fel y Dawnstalkers neu'r Bluetits ar ddyddiau eraill dros yr ŵyl.
Edrychwch ar y nofio Nadoligaidd y gallwch roi cynnig arno yng Nghymru yma.
Am fwy o wybodaeth am Nofio Dŵr Agored, ewch i wefan Nofio Cymru.
Mynd â’r plant i nofio am ddim
Ydi hi’n well gennych chi gynhesrwydd pwll nofio na thymheredd rhewllyd y môr? Yn ystod gwyliau’r ysgol, gallwch fynd â’ch plant i nofio am ddim mewn pyllau nofio lleol ledled Cymru. Dewch â thaid a nain hefo chi hefyd, oherwydd mae pobl dros 60 oed yn gallu elwa hefyd o sesiynau am ddim neu gyda chymorth ariannol.
Mae sblasho a nofio yn eich pwll lleol nid yn unig yn fuddiol i'ch corff chi, ond mae hefyd yn ffordd wych o glirio'r meddwl a lleihau eich lefelau straen.
Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig nofio am ddim i ofalwyr ifanc a’r lluoedd arfog. Cysylltwch â’ch pwll cyhoeddus lleol i gael rhagor o wybodaeth ac amserlenni nofio am ddim i bawb dan 16 a thros 60 oed.
Cymryd rhan yn parkrun
Iawn, efallai eich bod chi wedi clywed am y traddodiad Nadoligaidd o fentro i’r môr ond nawr mae parkrun wedi dechrau cynnig rhywbeth tebyg. Os ydych chi’n chwilio am ychydig o ymarfer corff gyda bwrlwm cymunedol, bydd y digwyddiadau 5k yma’n cael eu cynnal ledled Cymru ar Ddydd Nadolig a Dydd Calan.
Bydd Casnewydd, Llyn Llech Owain ac Aberystwyth yn cynnal eu parkruns ar y ddau ddiwrnod a bydd lleoliadau eraill yn dewis dim ond un diwrnod arbennig i droedio’r llwybr. Os yw Dydd Nadolig a Dydd Calan ychydig yn rhy brysur i chi, mae’r rhan fwyaf o parkruns yn cael eu cynnal am 9am bob dydd Sadwrn a gall plant gymryd rhan mewn ras 2k ar ddyddiau Sul.
A pheidiwch â chael eich twyllo gan yr enw. Os yw’n well gennych chi beidio â rhedeg, gallwch gerdded, loncian neu hyd yn oed fod yn wirfoddolwr Nadoligaidd – mae hetiau Siôn Corn yn ddewisol ond yn cael eu hannog.
Edrychwch ar y rhestr yma i weld ble gallwch chi gymryd rhan mewn parkrun dros yr ŵyl.
Mynd i redeg eich hun
Does dim angen i redeg fod ar ddiwrnod arbennig, does dim angen ei drefnu a does dim angen iddo fod yn rhan o grŵp hyd yn oed. Weithiau rydych chi jyst eisiau rhoi eich esgidiau ymarfer am eich traed, dewis eich rhestr chwarae a mynd eich hun. Fe allwch chi osod y cyflymder sydd fwyaf addas i chi heb boeni am orfod sgwrsio â phartner hyfforddi.
Os ydych chi'n meddwl dechrau rhedeg, gall Couch to 5K y GIG eich helpu chi i roi cychwyn i’ch siwrnai. Byddwch yn mynd ar ôl y gorau personol yna yn gynt nag ydych chi’n ei feddwl.