Skip to main content

Nofio am ddim

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Nofio am ddim

Beth yw’r Fenter Nofio Am Ddim yng Nghymru? 

Lansiwyd Nofio Am Ddim am y tro cynraf yng Nghymru yn 2003. Hon oedd y rhaglen nofio am ddim genedlaethol gyntaf yng Nghymru. Y nod? Cael mwy o bobl ifanc (16 oed ac iau) a phobl dros 60 oed i ddysgu nofio a nofio’n fwy rheolaidd.

Mae’n fenter sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru, ei rheoli gan Chwaraeon Cymru a’i chyflwyno gan y 22 o Awdurdodau Lleol.

Galwodd adolygiad annibynnol yn 2019 am newid y ffordd mae’r rhaglen yn gweithredu.

Newidiadau i’r Fenter Nofio Am Ddim yng Nghymru

Yn dilyn yr adolygiad annibynnol a’r canllawiau gan Lywodraeth Cymru, mae Nofio Am Ddim yn parhau i dargedu pobl ifanc a phobl hŷn dros 60 oed, ond nawr mae’n rhoi blaenoriaeth i’r rhai o ardaloedd o amddifadedd.

Y nod yw helpu’r bobl sy’n wynebu’r rhwystrau mwyaf o ran cyrraedd pwll nofio, felly rydym yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu sgil bywyd a nofio’n fwy rheolaidd. 

Daeth y newidiadau i rym ym mis Hydref 2019, gan sicrhau bod y Fenter Nofio Am Ddim yn addas i bwrpas.

Mae pob awdurdod lleol a’u partneriaid darparu’n gyfrifol yn awr am ddarparu safon ofynnol o un sesiwn sblash am ddim i bobl ifanc bob penwythnos, ym mhob pwll nofio sy’n cael ei weithredu gan Awdurdod Lleol. 

Ac yn ystod gwyliau’r haf, bydd disgwyl i bob pwll ddarparu dau sesiwn am ddim yn ystod yr wythnos yn ychwanegol at y sesiwn penwythnos. 

Hefyd bydd pyllau’n cynnig sesiynau am ddim a gyda chymorth ariannol o bosib i bobl dros 60 oed. 

Local Authorities - and their Bydd Awdurdodau Lleol – a’u partneriaid darparu, fel ymddiriedolaethau hamdden – yn gallu penderfynu sut i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa hon a chreu cynigion sy’n gwneud y defnydd gorau o’r cyllid yn lleol. Bydd hyn yn cynnwys opsiwn nofio am ddim, ond gall hefyd gynnwys cynigion nofio a/neu aml-chwaraeon gyda chymorth ariannol. 

Pam gwneud newidiadau?

Nododd yr adolygiad annibynnol nad oedd y Fenter Nofio Am Ddim yn addas i bwrpas mwyach.

Er ei bod wedi helpu miloedd o bobl ledled Cymru i nofio ers ei sefydlu yn 2003, daeth yr adolygiad i’r casgliad nad oedd y fenter yn gost-effeithiol. Hefyd, tynnodd sylw at y ffaith nad oedd yn gwneud y cyfraniad mwyaf at gynyddu lefelau gweithgarwch. 

Roedd nifer y bobl ifanc oedd yn elwa o’r cynllun yn dirywio’n sylweddol ers 2013-14. O ran y grŵp oedran 60 +, roedd yr adolygiad yn amcangyfrif mai dim ond 6% o’r boblogaeth darged oedd yn defnyddio’r rhaglen. 

Yn erbyn y cefndir hynod heriol hwn y penderfynwyd ar newidiadau polisi gan Lywodraeth Cymru.

Diweddariadau i gyfleusterau nofio

Bydd y fenter newydd yn cael ei chyflwyno gyda chyllideb lai, sef £1.5m y flwyddyn o fis Ebrill 2020 ymlaen ac mae disgwyl i’r cyllid hwn gael ei wario ar sicrhau bod y ddarpariaeth yn briodol i bob grŵp targed. 

Fodd bynnag, yn ystod 2019-20, bydd gan Awdurdodau Lleol fynediad i gyfran o £1m mewn buddsoddiad cyfalaf, fel eu bod yn gallu diweddaru cyfleusterau nofio lle mae angen. Rhaid defnyddio’r cyllid hwn cyn diwedd y flwyddyn ariannol i wella profiad cwsmeriaid mewn rhai pyllau.

Rhagor o Wybodaeth

I gael gwybod mwy, cysylltwch â’ch pwll cyhoeddus lleol am fwy o wybodaeth ac amserlenni newydd.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy