Skip to main content

Pethau am ddim i'w gwneud i gadw'n actif yr haf yma

Mae gwyliau'r ysgol bron yma. A gyda chwe wythnos yn ymestyn o’n blaen, rydyn ni wedi rhoi rhai syniadau at ei gilydd i gael y teulu cyfan i fod yn actif am ddim yng Nghymru.

Mae ymarfer corff yn ffordd wych o dreulio amser gyda’ch gilydd a does dim rhaid torri’r banc… 

1. Ewch i’ch pwll nofio lleol – am ddim

Ar ddiwrnod poeth, oes unrhyw beth gwell na phlymio i’ch pwll lleol? A'r newyddion da ydi y gall plant fynd i nofio AM DDIM yng Nghymru. Do, rydych chi wedi clywed yn iawn.

Mae nofio yn ymarfer corff gwych i’r corff cyfan. Mae hefyd yn lleihau lefelau straen ac yn lleihau gorbryder. Felly, paciwch eich bagiau nofio a chysylltwch â’ch pwll cyhoeddus lleol i gael amserlenni, a manteisiwch i’r eithaf ar nofio am ddim i bawb dan 16 a thros 60 drwy gydol yr haf. 

2. Mynd ar eich beic

Gwiriwch eich teiars, llenwch eich potel ddŵr a neidiwch ar eich beic yr haf yma. Os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd, mae gwefan Croeso Cymru yn awgrymu llawer o lwybrau beicio heb lawer o draffig a chyfeillgar i deuluoedd.

Hefyd mae digonedd o lwybrau beicio mynydd am ddim a thraciau pwmp BMX ledled Cymru. Dim beic? Mae rhai cynlluniau ailgylchu beiciau am ddim yng Nghymru fel Free Bikes 4 Kids yng Nghasnewydd a Chynllun Beiciau Am Ddim Grŵp Ynni Trefaldwyn sy’n atal beiciau rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i gartref da yn lle hynny.

Gallwch hefyd ddod o hyd i feic am ddim ar Facebook Marketplace a Gumtree – cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn neu ewch i’ch caffi atgyweirio agosaf os oes arnoch chi angen rhywfaint o gyngor.

3. Padlfyrddio

Ni fyddai unrhyw restr o bethau i'w gwneud yr haf yma yn gyflawn heb badlfyrddio. Yn boblogaidd iawn, mae'n llawer o hwyl ond gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'n ddiogel ar y dŵr. Mae gan Canŵio Cymru wybodaeth a chyngor diogelwch gwych ac mae hefyd yn cynnig cyrsiau i'ch rhoi chi ar ben ffordd.

Fel arall, chwiliwch am glwb yn eich ardal chi – yn aml mae ganddyn nhw fyrddau sbâr ar gael a thripiau padlo wythnosol.

Syrffwyr yn cerdded i'r môr

4. Syrffio a chorff-fyrddio

Ar arfordir Cymru yr haf yma? Rydych chi'n lwcus! Os ydi'r plant ychydig yn hŷn a ddim yn fodlon adeiladu cestyll tywod neu archwilio pyllau glan môr bellach, efallai y byddai'n werth buddsoddi mewn corff-fwrdd.

Unwaith eto, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'n ddiogel. Ewch i draeth sydd ag achubwyr bywydau ac arhoswch rhwng y baneri coch a melyn. Mae cyngor arbenigol ac awgrymiadau diogelwch ar gael ar wefan yr RNLI.

5. Codi allan i gerdded 

Mae cerdded yn ffordd wych o gadw'n heini a chael ychydig o awyr iach. Ac yn sicr dydyn ni ddim yn brin o lefydd i fynd iddyn nhw yng Nghymru.

Os oes angen rhywfaint o gymhelliant ychwanegol ar eich plant, ceisiwch ganu caneuon, geogelcio, chwarae gemau neu adnabod natur wrth gerdded.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwirio rhagolygon y tywydd cyn mynd allan, gorchuddiwch eich hun rhag yr haul a phaciwch eli haul, byrbrydau a digon o ddŵr.

6. Rownderi a chriced, unrhyw un?

Mae nosweithiau hir yr haf yn berffaith ar gyfer gêm o rownderi neu griced. Os ydych chi'n mynd i'r parc neu ar y traeth, y cyfan sydd arnoch ei angen yw bat a phêl.

A does dim byd gwell na dal Mam a Dad allan, nac oes?

Mae’n ymarfer gwych i gael y galon i bwmpio a gall helpu i ddatblygu sgiliau taflu, batio a dal hefyd.

7. Chwilio am eich parkrun agosaf

O Aberdâr i Ynys Môn, mae 71 o ddigwyddiadau parkrun ledled Cymru. Felly, ble bynnag ydych chi yng Nghymru, mae’n debyg nad ydych chi’n bell o un ohonyn nhw. Ewch yno ar fore Sadwrn a cherdded, loncian neu redeg 5k. Os ydych chi’n iau, mae 2k ar fore Sul sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant 4 i 14 oed.

Does dim ots pa mor gyflym (neu araf) ydych chi'n mynd a does dim ots beth rydych chi'n ei wisgo. Yn cael ei drefnu gan wirfoddolwyr, mae parkrun yn hynod gynhwysol. Ewch amdani, rhowch gynnig arni.

Chwilio am eich parkrun agosaf.

Gobeithio bydd ein rhestr o ffyrdd i fod yn actif am ddim dros wyliau'r haf yn helpu'r teulu cyfan i ddal ati i symud.

Ac os byddwch chi’n penderfynu dilyn unrhyw un o’n hawgrymiadau, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Cysylltwch â ni ar Facebook neu Twitter.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy