Skip to main content

Pont-y-pŵl Unedig – O olau cannwyll i ddyfodol disglair

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Pont-y-pŵl Unedig – O olau cannwyll i ddyfodol disglair

Mae clwb rygbi Pont-y-pŵl Unedig wedi cael cipolwg ar y dyfodol yn eu cartref ar y Maes Coffa – ac mae'n fwy disglair nag erioed o'r blaen.

Y rheswm dros hynny yw pŵer y llifoleuadau newydd cwbl fodern sydd wedi’u gosod yn eu lle yn ddiweddar yn y lleoliad sy'n gartref i 11 o dimau, o’r adrannau iau i’r plant i'r XV hŷn cyntaf.

Roedd y clwb yn llwyddiannus yn ei gais i Gronfa Cymru Actif, sy’n cael ei gweinyddu gan Chwaraeon Cymru gyda'r nod o ddarparu dyfodol cynaliadwy i glybiau chwaraeon y tu hwnt i gyfyngiadau symud presennol Covid-19.

"Pan wnaethon ni roi'r goleuadau newydd ymlaen am y tro cyntaf, roedd fel petaen ni wedi bod yn chwarae yng ngolau cannwyll tan hynny," meddai cadeirydd y clwb, Mark Jones.

Roedd Pont-y-pŵl Unedig – clwb a roddodd gychwyn i yrfa ryngwladol Dan Lydiate a Lloyd Burns yn chwarae dros Gymru – wedi bod yn mynd drwy gyfnod digalon. Doedd yr hen lifoleuadau ddim digon da.           

Wedi'u gosod yn eu lle yn ôl yn 1983, roeddent yn rhai da yn eu dydd, ond roedd angen dybryd am eu huwchraddio mewn clwb sy'n darparu cyfleoedd chwarae i gannoedd o bobl yn y gymuned.

Roeddent yn aneffeithlon hefyd, gyda biliau o hyd at £2,000 bob tro yr oedd angen newid bwlb.

Ond nawr, diolch i ddyfarniad o £30,000, llwyddwyd i osod gwerth £41,000 o oleuadau LED technolegol yn eu lle i oleuo'r ardaloedd chwarae a hyfforddi.

Wedi'u gosod gan gwmni o Gymru, sydd wedi'i leoli yn Nhonysguboriau – Floodlighting and Electrical Services – mae'r goleuadau wedi dangos, yn llythrennol, bod golau ym mhen draw'r twnnel o ran y pandemig.

"Mae'r goleuadau newydd yn anhygoel o dda ac mae'n golygu ein bod ni, am yr 20 neu 30 mlynedd nesaf, yn cyrraedd y safon yn llwyr o ran y goleuadau. Mae hynny'n golygu y gallwn ni ddarparu mwy o gemau a chyfleoedd chwarae i fwy o bobl," ychwanegodd Mark.

"Bydd ein holl dimau ni’n elwa ac mae'n golygu hefyd y gallwn ni ddenu gemau eraill yma gyda thimau cynrychioliadol o lefydd fel Sir Fynwy.

"Yn y gorffennol, fe fydden nhw wedi hoffi dod yma ond doedd y goleuadau ddim digon da. Mae eu hansawdd nhw nawr yn eithaf anghredadwy. Rydw i'n gallu gweld y cennin Pedr ar blaned Mawrth!"

Dim ond chwech oed yw chwaraewyr ieuengaf y clwb, ac mae’r chwaraewr cofrestredig hynaf yn 46 oed. Rhwng y ddau mae 260 o chwaraewyr eraill a bydd pob un ohonynt yn elwa nawr o'r dyddiau gwell sydd i ddod.

Nid yn unig mae'r ardal chwarae yn fwy diogel bellach, ac yn fwy tebygol o wella sgiliau pêl, ond hefyd mae ardaloedd hyfforddi wedi’u goleuo wrth ymyl y cae fel bod posib symud rhai sesiynau oddi ar y prif arwyneb.

Dylai hynny helpu gyda chyflwr y cae, yn enwedig mewn tywydd gwlyb.

Mae ysgrifennydd y clwb a chydlynydd y cyllid, Alan Williams, yn ddyn hapusach hefyd oherwydd dylai'r buddsoddiad fod yn un cadarn yn y tymor hir.

"’Fyddwn ni ddim yn defnyddio cymaint o ynni pan fyddan nhw'n cael eu defnyddio, felly mae'r manteision tymor hir yn amlwg," meddai Alan.

"Roedd adegau pan oedd rhaid i ni fod yn eithaf darbodus gyda'r goleuadau ar y prif gae yn y gorffennol oherwydd y costau, felly mae hyn yn mynd i newid pethau’n llwyr."

Nawr, y cyfan sydd ei angen yw i’r chwaraewyr o bob oedran ddychwelyd i'r cae a chael mwynhau’r golau newydd llachar.

Mae tîm cyntaf y clwb yn chwarae yn Adran Un Dwyrain Cynghreiriau Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru ac er bod y cynghreiriau hyn i gyd wedi dod i ben am y tymor yma, mae'r clwb yn obeithiol ynghylch ailddechrau rhyw fath o rygbi yn ddiweddarach eleni.

"Mae llawer o bobl yn negyddol am rygbi ar lawr gwlad, ond roedd y clwb yma’n ffynnu cyn y cyfyngiadau symud ac rydyn ni'n meddwl y gallwn ni ffynnu eto," meddai Mark.

"Mae diddordeb a brwdfrydedd enfawr o hyd dros rygbi ymhlith y bobl ifanc, heb os nac oni bai, ac mae'n bwysig bod pob clwb bellach yn gweithio'n galed i baratoi i'w croesawu nhw'n ôl, pryd bynnag fydd hynny."

Efallai nad oes rygbi hyd yma ym Mhont-y-pŵl Unedig, ond mae cynnwrf mawr yno – ac nid cynnwrf oherwydd y pryder bod bwlb ar yr hen lifoleuadau ar fin diffodd ydi hwnnw bellach!