Skip to main content

Pum aelod newydd i fwrdd Chwaraeon Cymru

Mae pum aelod newydd wedi eu penodi i fwrdd Chwaraeon Cymru gan Lywodraeth Cymru.

Chwaraeon Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.

Maent yn brif gyfrifol am roi cyngor ar faterion sy'n gysylltiedig â chwaraeon i Lywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Cenedlaethol i chwaraeon elitaidd a chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru.

Roeddent yn chwilio am ymgeiswyr sydd:

  • yn hyrwyddo manteision chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'r manteision positif sydd iddynt o fewn cymdeithas amrywiol Cymru, yn unol â gweledigaeth Chwaraeon Cymru fel y prif gorff sy'n gyfrifol am bolisi y Llywodraeth ar chwaraeon;
  • yn gallu herio Chwaraeon Cymru i sicrhau eu bod yn cyflawni ei nodau, amcanion a thargedau perfformiad;
  • yn gweithredu mewn modd sy'n hybu safonau uchel o ran priodoldeb a chyllid cyhoeddus;
  • yn gwerthfawrogi neu â dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfrifoldeb corfforaethol a rheoli risg i sicrhau bod gweithgareddau Chwaraeon Cymru yn cael eu cynnal mewn modd effeithiol ac effeithlon;

Meddai yr Arglwydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae sefydliadau ar eu gorau pan mae amrywiaeth o ran diwylliant, meddylfryd a safbwyntiau. Dwi'n falch iawn o weld aelodau mor amrywiol, a phob un ohonyn nhw â phrofiad helaeth. Mae amrywiaeth a chynhwysiant ar fyrddau mor bwysig i'r agenda fusnes."

Meddai Lawrence Conway, Cadeirydd Chwaraeon Cymru

"Dwi'n falch iawn bod y Gweinidog wedi penodi pum aelod newydd i'r bwrdd i ymuno â Bwrdd Chwaraeon Cymru ym mis Medi. Gyda'i gilydd, maent yn dod â phrofiad eang ar draws amrywiol sectorau. Yn bwysicaf oll, maent yn frwdfrydig ynghylch defnyddio'r profiad hwnnw wrth inni weithio i gynnwys ein strategaeth newydd ar draws y sefydliad"

Rajma Begum

Mae gan Rajma dros 10 mlynedd o brofiad ym maes Rheoli Prosiectau. Ar hyn o bryd, mae'n Arweinydd Strategol ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad (Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig) mewn Chwaraeon ledled Cymru - (WCVA). Yn bennaf, mae'n cyflwyno hyfforddiant cynhwysiad i gyrff llywodraethu cenedlaethol, clybiau ac Ymddiriedolaethau Datblygu Chwaraeon a Hamdden Awdurdodau Lleol i addysgu pobl am rwystrau diwylliannol/crefyddol rhag chwaraeon, y Dyletswydd Cydraddoldeb, a chynnig cymorth i wneud clybiau/cyfleusterau'n gynhwysol ar gyfer cymunedau amrywiol. Yn flaenorol, bu Rajma'n gysylltiedig â gŵyl ffilmiau WOW, yn datblygu partneriaethau ac yn cefnogi dangosiadau ffilmiau ar gyfer menywod duon a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau amrywiol ledled de Cymru; yn ogystal, bu'n ymwneud â Streetgames UK, lle sefydlodd y Fforwm Chwaraeon cyntaf i Ferched a Menywod yng Nghymru.

Dafydd Trystan Davies

Mae gan Dafydd brofiad helaeth o arwain a chyflawni ym maes rheoli sefydliadau. Mae'n Gofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol Rhedeg Cymru, sy'n annog pobl i redeg yn gymdeithasol; mae hefyd yn sylfaenydd ac arweinydd (LiRF) grŵp rhedeg amlddiwylliannol ac amlieithog.  Roedd ei gyfrifoldeb blaenorol fel Prif Weithredwr Plaid Cymru yn cynnwys rheoli'r tîm o staff, y gyllideb a gweithredu'r strategaeth wleidyddol.  Mae Dafydd wedi bod yn Gadeirydd y Fenter Gymdeithasol arobryn sy'n cynnwys Cardiff Bikes Workshop, sy'n ailgylchu mwy na 500 o feiciau'r flwyddyn, a TooGoodToWaste, sy'n ailgylchu cannoedd o dunelli o ddodrefn y cartref, gan helpu dwsinau o bobl i gael gwaith bob blwyddyn.

Hannah Murphy

Graddiodd Hannah o Brifysgolion Durham a Chaerdydd, gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf Gwleidyddiaeth a Ffrangeg, a Gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, a dechreuodd ei gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil y DU, lle y cyflawnodd nifer o rolau gweithredol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ac yn yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau gynt. Symudodd Hannah i'r amgylchedd gwleidyddol, gan ddechrau fel ymchwilydd i Weinidog yr Wrthblaid ar gyfer Iechyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, cyn symud ymlaen i fod yn Uwch Gynghorydd Gwleidyddol iddo.

Delyth Evans

Ar hyn o bryd, mae Delyth yn gweithio fel ymgynghorydd llawrydd ym maes polisi cyhoeddus. Cyn hynny, bu'n Gadeirydd a chyfarwyddwr anweithredolVolunteer Space, sef cwmni cychwyn technoleg sy'n datblygu llwyfannau digidol ar gyfer gwirfoddoli yn y sector elusennol a chorfforaethol.  Roedd Delyth yn Aelod o Gynulliad Cymru, a chafodd ei phenodi'n Ddirprwy Weinidog Diwylliant, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a chyn hynny gweithiodd fel newyddiadurwr newyddion a materion cyfoes i'r BBC ac ITV, gan ddarparu adroddiadau darlledu helaeth iHTV WalesaSky News. Mae rolau gwirfoddol blaenorol Delyth yn cynnwys Aelod o Fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru ac YmddiriedolwrUnited Response (elusen anableddau dysgu sy'n gweithredu ledled y DU).

Nicola Mead-Batten

Mae Nicola yn Bartner yn y cwmni cyfraith fasnachol, Capital Law, yng Nghaerdydd, lle mae'n gyfrifol am y tîm cyfraith gyhoeddus a rheoleiddio. Mae practis Nicola yn cynnwys gwaith proffesiynol, y cyfryngau a rheoleiddio chwaraeon. Cyn dychwelyd adref i Gaerdydd, treuliodd Nicola bron degawd yn gweithio i'r cwmni rhyngwladol, Baker McKenzie - yn Llundain a Melbourne, Awstralia; bu hefyd yn gweithio'n fewnol gydag Accenture, yr Awdurdod Safonau Proffesiynol a Chronfa Bensiwn Swyddogion y Llynges Fasnachol. Mae Nicola yn briod a chanddi ddau o blant ifanc. Mae'n rhedwr brwd, yn ogystal â bod yn gefnogwr pêl-droed, rygbi'r undeb, tennis a phêl-droed rheolau Awstralaidd brwd.