Skip to main content
  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rhedeg, neidio a thaflu – neges fawr gan y dyn newydd yn y byd athletau

Rhedeg, neidio a thaflu – neges fawr gan y dyn newydd yn y byd athletau

Mae Fyn Corcoran eisiau rhoi cyfle i blant Cymru redeg, neidio a thaflu o oedran ifanc - a defnyddio'r sgiliau hynny drwy gydol eu hoes.

Nid dim ond datblygu'r genhedlaeth nesaf o heptathletwyr, fel y bencampwraig byd Katarina Johnson Thompson, neu ddecathletwyr fel y cystadleuydd o Gymru sydd wedi bod yng Ngemau'r Gymanwlad dair gwaith, Ben Gregory, yw nod Cydlynydd Datblygu Talent Cenedlaethol newydd Athletau Cymru.

Mae Corcoran hefyd eisiau gweld ieuenctid Cymru'n dal ati i fwynhau ac yn datblygu sgiliau bywyd sylfaenol drwy chwaraeon.

Mae'r aelod o Glwb Athletau Cwm Rhymni yn esiampl ei hun o fanteision dod i gysylltiad ag amrywiaeth eang o weithgareddau corfforol a chwaraeon.

Yn ogystal â chynrychioli Prydain Fawr mewn decathlon a chymryd rhan mewn pedair cystadleuaeth campau cyfun yn y Gwpan Ewropeaidd - fel capten tîm unwaith - mae'n bêl droediwr a chwaraewr rygbi medrus sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon i lefel uchel ochr yn ochr â'i yrfa athletau.

Dywedodd: "Mae'r holl athletwyr aml-gamp rydw i'n eu hadnabod yn aml-chwaraeon.

"Os edrychwch chi ar gyfryngau cymdeithasol Kevin Mayer, deiliad record decathlon y byd, mae bob amser yn chwarae pêl fasged a phethau eraill.

"Mae cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon yn creu plentyn cryfach, person cryfach, bob cam o pan maen nhw'n blant yr holl ffordd i fyny."

Mae Corcoran yn credu'n gryf mewn rhoi cyfle i ieuenctid ddatblygu a mwynhau cymaint o sgiliau â phosib.

Mae ei frwdfrydedd yn heintus ac meddai "Yn bennaf, rhoi cyfle i blant ddal ati i redeg, neidio a thaflu am gyn hired â phosib yn eu datblygiad yw'r nod, nid dim ond mewn athletau o angenrheidrwydd, ond rydyn ni mewn amgylchedd athletau, ond mae hefyd am oes.

"Mae'r rhain yn sgiliau esblygiadol - rhedeg, neidio, taflu. Mae'n rhan o esblygiad dynol, gallu gwneud y pethau yma, a 'dyw plant ddim yn cael cyfle i'w gwneud nhw ar ôl oedran penodol.

"Fe wnes i chwarae pêl droed am gyn hired ag y gallwn i; roeddwn i'n chwarae i dimau iau a hŷn y sir. Wedyn fe wnes i chwarae pêl droed yn y brifysgol am y ddwy flynedd gyntaf ac wedyn mynd i Awstralia gyda fy ngwraig pan oeddwn i yn fy nauddegau canol ac yn ystyried y Gemau Cymanwlad.

"Felly roeddwn i'n ymarfer yn galed mewn athletau ond dal yn chwarae pêl droed i dîm allan yn Awstralia am flwyddyn, a dal ati gyda hynny i gyd.

"Fe wnes i chwarae rygbi drwy'r adeg hefyd, i'r un safon â phêl droed a dweud y gwir, ac wedyn chwarae llawer o rygbi saith ar ôl y brifysgol. Fe es i i Ornest Saith Dubai dair neu bedair gwaith, a Gornest Saith Portiwgal ac Efrog Newydd."

"Mae cymryd rhan mewn llawer o chwaraeon yn creu plentyn cryfach, person cryfach, bob cam o pan maen nhw'n blant yr holl ffordd i fyny."

Yn y byd athletau, mae Corcoran eisiau creu llwybr i roi cyfleoedd pellach i ieuenctid addawol barhau i gystadlu fel athletwyr campau cyfun wrth iddynt symud i fyny drwy'r grwpiau oedran, yn hytrach nag arbenigo mewn un gamp yn rhy gynnar.

Dywed yr hyfforddwr lefel dau a'r tiwtor hyfforddwyr: "Ychydig iawn o gyfleoedd i gystadlu mewn campau cyfun sydd ar gael i ieuenctid dan 13 i dan 20.

"Felly, mae'n allweddol i mi fod yn darparu'r cyfleoedd yma i gystadlu. Ar hyn o bryd, does gennym ni ddim athletwyr campau cyfun oherwydd does unman iddyn nhw gystadlu.

"Does dim rhaid iddo fod yn ddecathlon cyfan, dim ond tair camp gyflym mewn awr neu ddwy ac fe fydd hynny'n cynnwys pawb.

"Dim ond darparu cyfle iddyn nhw ddod draw am bnawn a chymryd rhan mewn cystadleuaeth naid uchel, taflu ergyd ac wyth can metr, neu'r tro nesaf fe wnawn ni glwydi, disgen a rhywbeth arall.

"Fe all y rhain fod yn gystadlaethau aml-gampau bychain. Os bydd rhywbeth yn wael, does dim ots, dim ond symud ymlaen at y gamp nesaf. Rydych chi bob amser yn mynd i fod yn mynd adref yn hapus bod rhywbeth wedi mynd yn dda gobeithio.

"Felly gyda rhedeg, neidio a thaflu mor sylfaenol i'r byd athletau i gyd, mae'n golled enfawr nad yw'r cystadlaethau yma'n bodoli mewn gwirionedd ar hyn o bryd.

"Rydyn ni'n cael plant yn dod i mewn o dan 11, pan maen nhw'n cael eu hannog i redeg, neidio a thaflu, ac maen nhw'n cael eu denu i grŵp dygnedd, grŵp sbrintio neu grŵp taflu a dyna ni."

Dywed Corcoran bod Athletau Cymru wedi dechrau rhoi cynlluniau yn eu lle eisoes i geisio annog athletwyr aml-dalentog i fabwysiadu athroniaeth campau cyfun.

"Fy ngwaith i yw darparu cyfleoedd," meddai. "Rydyn ni wedi cael dyddiau datblygu yn ddiweddar yn Abertawe ac yng Nghaerdydd. Roedd pedair camp i roi cynnig arnyn nhw ac ymarfer, ac roedd ar gyfer pob lefel, o 10 i 20 oed.

"Roedd pobl ar draws y sbectrwm gallu, felly roedd pob sesiwn yn cynnwys lefelau gwahanol fel bod pawb yn cael eu herio ac fe adawodd pawb yn gwenu, sef y peth pwysig.

"Nid dim ond perfformiad sy'n bwysig - nid dyna holl ddiben athletau. Mae'n rhan fawr wrth gwrs, rhaid i chi anelu at fod y gorau un, ond rydw i bob amser yn dweud y gallwch chi ddysgu gwersi ar y trac nad oes posib i chi eu dysgu yn unrhyw le arall yn eich bywyd.

"Rydych chi'n sefyll ar y llinell gychwyn, ar eich pen eich hun, o flaen pawb. Mae gennych chi ofn oherwydd mae'n rhaid i chi redeg mor gyflym ag y gallwch chi ac mae pawb yn gwylio. Po fwyaf nerfus ydych chi cyn cychwyn, y gorau fyddwch chi'n teimlo wedyn.

"Does dim posib cael y teimlad yna mewn llawer o lefydd y dyddiau hyn. Mae'n eich paratoi chi ar gyfer popeth ... cyfweliadau am swyddi, ar gyfer unrhyw beth mewn bywyd. Mae'n drueni nad oes mwy o bobl yn sylweddoli pa mor bwysig yw'r mathau yma o sgiliau.

"Dyma'r sgiliau mae athletau yn eu dysgu i chi - gwaith caled, penderfyniad, popeth felly, a gweithio fel rhan o dîm.

"A beth sy'n digwydd pan nad yw pethau'n gweithio'n iawn, dyna'r wers bwysicaf fwy na thebyg, beth sy'n digwydd pan mae pethau'n mynd yn wael, sut mae dod allan o hynny?

"Mae cyfnodau da bob amser, nid dim ond cyfnodau drwg. Ac mae'r cyfnodau drwg yn dysgu gwersi da i chi. Fe fydd mwy o gyfnodau da nag o gyfnodau drwg yn sicr."