Skip to main content

Rôl chwaraeon mewn bod yn iach ac egnïol

Gall atgofion chwaraeon bara am oes, ond yn fuan iawn gallent helpu i ymestyn a gwella bywydau ledled Cymru.

Mae'r Rhwydwaith Atgofion Chwaraeon yn un o blith 17 o brosiectau sydd wedi cael cyllid mewn ymgais i gael pobl i fod yn egnïol yn gorfforol a hefyd helpu gyda'u hiechyd meddwl

Mae'r Rhwydwaith Atgofion Chwaraeon yn un o blith 17 o brosiectau sydd wedi cael cyllid mewn ymgais i gael pobl i fod yn egnïol yn gorfforol a hefyd helpu gyda'u hiechyd meddwl

Ond mae'n syniad syml mewn gwirionedd. Cael pobl hŷn at ei gilydd i siarad am chwaraeon. Gall fod yn gamp roeddent yn ei chwarae eu hunain unwaith, neu'n gêm wych neu seren chwaraeon gofiadwy o'r gorffennol.

Wrth hel atgofion mewn sefyllfa gymdeithasol, y gobaith yw sicrhau manteision o ran mynd i'r afael â dementia, ynysu ac unigrwydd. Wedi'r cwbl, weithiau mae'n haws i rai ohonom gofio pwy oedd yn chwarae mewn rownd derfynol Cwpan nodedig na chofio ble rydyn ni wedi rhoi allweddi'r car.

Ar ôl procio'r cof, efallai y byddwch yn llwyddo i gael pobl i gymryd rhan yn gorfforol - neu eu harwain o leiaf tuag at bêl droed yn cerdded, pêl rwyd yn cerdded, neu ddartiau

Fel yr 16 prosiect arall, mae grwpiau chwaraeon yn ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect hwn, sef Sefydliad Cymunedol Dinas Caerdydd, y Gweilch yn y Gymuned, Clwb Criced Morgannwg a Chriced Cymru.

Syniad y gronfa yw newid ymddygiad, yn hytrach na dim ond cyfrannu arian at syniad sy'n rhedeg ei gwrs ac wedyn yn dod i ben pan mae'r arian yn dod i ben.

Drwy gael pobl i fod yn egnïol – pobl hŷn, neu blant, neu bobl mewn ardaloedd difreintiedig, neu’r rhai â salwch neu anabledd – y gobaith yw eu bod yn datblygu arfer a blas am barhau i fod yn egnïol hyd yn oed ar ôl i’r cyllid cychwynnol ddod i ben.

Mae’r gronfa’n bartneriaeth tair ffordd rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru, gyda dwy ran o dair o’r arian yn dod o gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Steve Woodfine, rheolwr prosiect gyda Chwaraeon Cymru ar gyfer y gronfa: “Yr hyn sy’n wahanol am y prosiect yma yw bod chwaraeon wastad wedi siarad am ei effaith ar iechyd a lles, yr economi a phob math o faterion cymdeithasol, ond yn yr achos yma, mae sefydliadau iechyd wedi rhoi eu dwylo yn eu pocedi a dweud, ‘Rydyn ni’n eich credu chi. Dyma arian tuag at y gronfa. Helpwch ni i greu manteision iechyd tymor hir ledled Cymru.’

“Rydyn ni eisiau rhoi sylw i anweithgarwch mewn rhai grwpiau poblogaeth. Nid dim ond cael pobl i roi cynnig ar rywbeth unwaith yw’r nod. Ond eu cael nhw i fod eisiau gwneud pethau, o ddydd i ddydd, yn y tymor hir, fel bod mantais hirach i’w hiechyd nhw. Mae’n dipyn o her.”

Dyma lle mae clybiau chwaraeon yn bwysig. Maen nhw’n darparu mannau cyfarfod a chroeso cynnes i wneud y gweithgaredd yn atyniadol gobeithio.

Yn ogystal â phêl droed, criced a rygbi, mae chwaraeon eraill fel gymnasteg, pêl rwyd ac athletau’n chwarae eu rhan hefyd.

Ychwanegodd Woodfine: “Ar ôl i ni fagu eu hyder a darparu’r cysylltiadau yn lleol, mae’n ei gwneud yn haws i bobl ddal ati. Dyna beth yw nod y prosiectau yma – pethau sy’n gynaliadwy.

“Dydyn ni ddim eisiau gwneud pethau fel mynediad am ddim i ganolfan hamdden am chwech i wyth wythnos ac wedyn pobl yn mynd yn ôl i’w hymddygiad arferol. Dydi hynny ddim yn cyflawni unrhyw beth.

Ymhlith yr 17 mae hefyd syniadau am Gemau Olympaidd i bobl hŷn, garddio sy'n pontio'r cenedlaethau, a gweithgaredd ar gyfer 1,000 diwrnod cyntaf bywyd person ifanc.

Efallai mai bach yw'r cyllid, ond mae'r uchelgais yn fawr ac yn yr ystyr hwnnw mae llawer o'r pwyslais ar weld beth sy'n gweithio ac edrych ar y data.

Mae help a chyngor ar gael i bob prosiect ar hyd y daith ac mae'r canlyniadau'n cael eu hasesu.

Os oes modd denu pobl hŷn ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu bobl anabl yn Wrecsam, i fod yn fwy egnïol drwy brosiect penodol, y nod yw ystyried sut gallai gweithio ar raddfa lawer mwy ledled Cymru fod o fudd i iechyd y genedl.

"Mae'n gyffrous," meddai Woodfine. "Nid prosiectau am wneud pethau yn y ffordd draddodiadol yw'r rhain, gyda phartneriaid arferol Chwaraeon Cymru.

"Mae'r sgîl-fanteision yn bwysig iawn ac rydyn ni eisiau dysgu mwy am hynny. Gobeithio y gallwn ni ddod o hyd i ffordd arloesol ac y gallwn ni gael effaith wedyn ar y polisïau sy'n ceisio rhoi sylw i'r materion yma.

"Os gallwn ni ddangos bod y prosiectau yma'n darparu manteision, efallai y gallwn ni ddarbwyllo gweinidogion i roi mwy o gyllid."

Gall cofio tîm rygbi Camp Lawn o'r Saithdegau neu pwy wnaeth Billy Jean King ei threchu mewn rownd derfynol yn Wimbledon brofi'n hanfodol er mwyn cadw'n iach o ran meddwl a chorff.