Skip to main content

Sylw i Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru

Pan neidiodd Lynn Davies i'r llyfrau hanes yn 1964, fe wnaeth fwy na dod yr athletwr cyntaf o Gymru i ennill medal aur Olympaidd unigol.

Hefyd, fe ddangoswyd yn berffaith gan 'Lynn the Leap' - llysenw a gafodd ar y pryd, ac mae'n dal i gael ei alw'n hynny ar y stryd hyd heddiw - pam y dylai cenedl chwaraeon anrhydeddu ei harwyr.

Mae Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru wedi bod yn gwneud hynny ers 30 o flynyddoedd a'r wythnos hon bydd pump arall yn dod yn aelodau o'r clwb arbennig a safonol iawn yma o 141 o aelodau.

Yn fachgen, cafodd Davies ei ysbrydoli i redeg yn gyflym a neidio'n bell drwy wylio'i arwr, Ken Jones, yn sbrintio dros Brydain Fawr ac yn chwarae rygbi dros Gymru.

Y cyswllt rhwng ifanc a hen, o fod yn dyheu am gyflawni cystal i fod wedi gwneud y cwbl, yw holl nod yr Oriel Anfarwolion, yn ôl un o'r 10 gwreiddiol a ddaeth yn rhan ohoni yn ôl yn 1989.

"Y wefr fawr i mi wrth dyfu i fyny oedd gwylio fy arwyr, fel Ken Jones," meddai Davies, oedd yn 22 oed ac yn enillydd annisgwyl pan goncrodd y byd yn Tokyo 54 mlynedd yn ôl.

"Fe redodd Ken yn y Gemau Olympaidd fel sbrintiwr ac wedyn, wrth sgwrs, fe sgoriodd y cais enwog hwnnw yn erbyn y Crysau Duon yn 1953.

"Wrth dyfu i fyny, roeddwn i eisiau bod yn Ken Jones. Roedd ei gael yn sefyll wrth fy ochr i yn y 10 gwreiddiol yn anrhydedd enfawr. Mae'r llun dal gen i.

"Wrth edrych ar yr Oriel Anfarwolion - a'i phen blwydd yn 30 oed eleni - i mi, mae dau brif werth i'r sefydliad.

"I ddechrau, rydyn ni'n cydnabod ac yn cofio campau dynion a merched o Gymru ar lwyfan y byd, sy'n rhan o hanes ein cenedl ni

“Yn ail, mae’n ymwneud â defnyddio’r campau hynny i ysbrydoli pobl ifanc – dim ots o ble maen nhw’n dod. Fe allan’ nhw fod mewn pentrefi a threfi bach ledled Cymru, ond fe allan’ nhw gredu bod posib iddyn nhw fynd a gwireddu eu breuddwyd mewn chwaraeon.

“Roeddwn i o Nantymoel. Doedd e ddim yn Feca i chwaraeon yn sicr. Ond er ’mod i o gefndir cyffredin, roeddwn i’n meddwl y gallwn i gyflawni pethau am fy mod i wedi cael fy ysbrydoli i wneud hynny gan eraill.”

O grŵp cychwynnol o 10 – oedd yn cynnwys dwy fenyw, y chwaraewraig hoci Sheila Morrow a’r rhedwraig pellter canol Kirsty Wade – mae’r Oriel Anfarwolion wedi tyfu i gynnwys 131 o aelodau pellach.

Mae aelodau newydd yn cael eu cynnwys bob blwyddyn, gyda’r dewisiadau’n cael eu gwneud gan bwyllgor dewis. Gall unrhyw un enwebu ymgeisydd. Yr unig feini prawf yw bod rhaid iddyn nhw fod wedi ymddeol o’u camp.

Mae’r ehangder yr un mor drawiadol â’r dyfnder. Efallai bod 22 o chwaraewyr rygbi, a’r un nifer o chwaraewyr pêl droed, ond mae 28 o chwaraeon gwahanol yn cael eu cynrychioli i gyd.

Mae llai o ferched nag o ddynion o hyd – 19 allan o’r 141 – ond y llynedd, am y tro cyntaf, roedd nifer y merched a gyflwynwyd mewn blwyddyn unigol yn fwy na nifer y dynion.

Ychwanegodd Davies: “Y llynedd, fe wnaethon ni gyflwyno pedair o fenywod am eu bod nhw’n llawn haeddu bod yno. Mae mwy a mwy o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn chwaraeon, rhai chwaraeon nad oedden nhw’n chwarae llawer arnyn nhw 30 o flynyddoedd yn ôl – fel rygbi a phêl droed – felly mae’n broses sy’n esblygu.”

Y llynedd, croesawyd Roy Francis (rygbi’r gynghrair), Becky James (beicio), Jayne Ludlow (pêl droed), Kelly Morgan (badminton) a Lynne Thomas (sydd wedi chwarae criced a hoci yn rhyngwladol) drwy’r drysau.

A dweud y gwir, does dim drysau. Fel lleoliad penodol, nid yw Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn bodoli.

Yn hytrach, wrth i’r casgliad o eitemau i’w harddangos yn gysylltiedig â’r aelodau enwog dyfu, mae wedi symud o gartref i gartref. Ers 1994, mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi bod yn eu harddangos ac, yn fwy diweddar, mae rhai eitemau wedi bod yn Stadiwm y Principality Undeb Rygbi Cymru.

Mae’n uchelgais gan lawer, gan gynnwys llywydd presennol yr Oriel Anfarwolion, i ddod o hyd i gartref parhaol newydd sy’n gwneud cyfiawnder â’r trysorau chwaraeon sy’n cael eu cadw.

Ychwanegodd Davies: “Ers ymwneud â’r bwrdd, a chael fy ngwneud yn llywydd y bwrdd ac yn ymddiriedolwr y llynedd, mae wedi bod yn genhadaeth gennym ni i ddod o hyd i rywle i arddangos yr holl gofroddion a’r eitemau gweledol sy’n ein hatgoffa ni o beth mae’r aelodau wedi’i gyflawni.

“Byddai amgueddfa chwaraeon benodol yng Nghymru’n berffaith – rhywle i anrhydeddu’r 28 o gampau sy’n cael eu cynrychioli.

“Nid dim ond graddfa’r cyflawniadau sy’n gwneud amgueddfa chwaraeon genedlaethol yn ymarferol, ond ehangder y chwaraeon cysylltiedig.

“Fe fyddai rhywbeth o ddiddordeb i bawb yno.”

Mae cinio anrhydeddus blynyddol Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn cael ei gynnal am y 30fed tro yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fehefin 26.

Pan neidiodd Lynn Davies i’r llyfrau hanes yn 1964, fe wnaeth fwy na dod yr athletwr cyntaf o Gymru i ennill medal aur Olympaidd unigol.

Hefyd, fe ddangoswyd yn berffaith gan ‘Lynn the Leap’ – llysenw a gafodd ar y pryd, ac mae’n dal i gael ei alw’n hynny ar y stryd hyd heddiw – pam y dylai cenedl chwaraeon anrhydeddu ei harwyr.

Mae Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru wedi bod yn gwneud hynny ers 30 o flynyddoedd a’r wythnos hon bydd pump arall yn dod yn aelodau o’r clwb arbennig a safonol iawn yma o 141 o aelodau.

Yn fachgen, cafodd Davies ei ysbrydoli i redeg yn gyflym a neidio’n bell drwy wylio’i arwr, Ken Jones, yn sbrintio dros Brydain Fawr ac yn chwarae rygbi dros Gymru.

Y cyswllt rhwng ifanc a hen, o fod yn dyheu am gyflawni cystal i fod wedi gwneud y cwbl, yw holl nod yr Oriel Anfarwolion, yn ôl un o’r 10 gwreiddiol a ddaeth yn rhan ohoni yn ôl yn 1989.

“Y wefr fawr i mi wrth dyfu i fyny oedd gwylio fy arwyr, fel Ken Jones,” meddai Davies, oedd yn 22 oed ac yn enillydd annisgwyl pan goncrodd y byd yn Tokyo 54 mlynedd yn ôl.

“Fe redodd Ken yn y Gemau Olympaidd fel sbrintiwr ac wedyn, wrth sgwrs, fe sgoriodd y cais enwog hwnnw yn erbyn y Crysau Duon yn 1953.

“Wrth dyfu i fyny, roeddwn i eisiau bod yn Ken Jones. Roedd ei gael yn sefyll wrth fy ochr i yn y 10 gwreiddiol yn anrhydedd enfawr. Mae’r llun dal gen i.

“Wrth edrych ar yr Oriel Anfarwolion – a’i phen blwydd yn 30 oed eleni – i mi, mae dau brif werth i’r sefydliad.

“I ddechrau, rydyn ni’n cydnabod ac yn cofio campau dynion a merched o Gymru ar lwyfan y byd, sy’n rhan o hanes ein cenedl ni.

“Yn ail, mae’n ymwneud â defnyddio’r campau hynny i ysbrydoli pobl ifanc – dim ots o ble maen nhw’n dod. Fe allan’ nhw fod mewn pentrefi a threfi bach ledled Cymru, ond fe allan’ nhw gredu bod posib iddyn nhw fynd a gwireddu eu breuddwyd mewn chwaraeon.

“Roeddwn i o Nantymoel. Doedd e ddim yn Feca i chwaraeon yn sicr. Ond er ’mod i o gefndir cyffredin, roeddwn i’n meddwl y gallwn i gyflawni pethau am fy mod i wedi cael fy ysbrydoli i wneud hynny gan eraill.”

O grŵp cychwynnol o 10 – oedd yn cynnwys dwy fenyw, y chwaraewraig hoci Sheila Morrow a’r rhedwraig pellter canol Kirsty Wade – mae’r Oriel Anfarwolion wedi tyfu i gynnwys 131 o aelodau pellach.

Mae aelodau newydd yn cael eu cynnwys bob blwyddyn, gyda’r dewisiadau’n cael eu gwneud gan bwyllgor dewis. Gall unrhyw un enwebu ymgeisydd. Yr unig feini prawf yw bod rhaid iddyn nhw fod wedi ymddeol o’u camp.

Mae’r ehangder yr un mor drawiadol â’r dyfnder. Efallai bod 22 o chwaraewyr rygbi, a’r un nifer o chwaraewyr pêl droed, ond mae 28 o chwaraeon gwahanol yn cael eu cynrychioli i gyd.

Mae llai o ferched nag o ddynion o hyd – 19 allan o’r 141 – ond y llynedd, am y tro cyntaf, roedd nifer y merched a gyflwynwyd mewn blwyddyn unigol yn fwy na nifer y dynion.

Ychwanegodd Davies: “Y llynedd, fe wnaethon ni gyflwyno pedair o fenywod am eu bod nhw’n llawn haeddu bod yno. Mae mwy a mwy o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn chwaraeon, rhai chwaraeon nad oedden nhw’n chwarae llawer arnyn nhw 30 o flynyddoedd yn ôl – fel rygbi a phêl droed – felly mae’n broses sy’n esblygu.”

Y llynedd, croesawyd Roy Francis (rygbi’r gynghrair), Becky James (beicio), Jayne Ludlow (pêl droed), Kelly Morgan (badminton) a Lynne Thomas (sydd wedi chwarae criced a hoci yn rhyngwladol) drwy’r drysau.

A dweud y gwir, does dim drysau. Fel lleoliad penodol, nid yw Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru yn bodoli