Bydd Tesni Evans yn teithio i Gairo yn nes ymlaen y mis yma, gan obeithio creu hanes yn amgylchedd dramatig priodol pyramidiau'r Aifft.
Hi yw'r fenyw gyntaf o Gymru eisoes i fod ymhlith 10 uchaf chwaraewyr sboncen y byd a bydd Evans yn gobeithio codi rhyw fymryn yn y safleoedd wrth iddi gystadlu ym Mhencampwriaethau Byd y Merched PSA (Hyd 24 - Tach 1).
Mae newydd ddathlu ei phen blwydd yn 27 oed ac mae'n un o sêr chwaraeon byd-eang mwyaf nodedig ond lleiaf cydnabyddedig y wlad yma. Mae'n teimlo wedi ymlacio'n braf. Ar un adeg, cyfaddefodd ei bod yn mynd i hel meddyliau pan oedd ei diffyg amynedd yn cael y gorau arni, ond treuliodd yr enillydd medal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yr haf diwethaf yn gweithio ar ei chorff a'i meddwl.