Mae pawb yn Chwaraeon Cymru wedi'u tristau'n fawr o glywed y newyddion am farwolaeth Llywydd Chwaraeon Anabledd Cymru, Gareth John MBE.
Dywedodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru:
"Mae chwaraeon yng Nghymru'n galaru oherwydd colli un o'n cyfranwyr gorau un.
"Gŵr a oedd yn rhoi mor barod i gymaint o chwaraeon, gan gynnwys Chwaraeon Anabledd Cymru, Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru a Gemau'r Gymanwlad Cymru. Roedd yn teimlo mor angerddol am roi cyfleoedd i bobl dim ots beth oedd eu hamgylchiadau.
"Roedd yn ddyn gwylaidd tu hwnt ac yn ŵr bonheddig, ond tu ôl i'r llenni roedd yn un o'r hoelion wyth hynny sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd i wneud chwaraeon yng Nghymru yn lle gwell i bawb arall.
"Bydd chwith mawr ar ei ôl ac rydym yn meddwl am ei deulu a'i ffrindiau, yn enwedig ei wraig, Diane."