Skip to main content

Tref Ironman Gorllewin Cymru

Pan mae stori yn y New York Times yn galw cymuned lan y môr yng Ngorllewin Cymru yn "Dref Haearn", rydych chi'n gwybod bod rhywbeth arbennig iawn yn y dŵr.

Pan mae stori yn y New York Times yn galw cymuned lan y môr yng Ngorllewin Cymru yn “Dref Haearn”, rydych chi’n gwybod bod rhywbeth arbennig iawn yn y dŵr.

Yn achos Dinbych-y-pysgod, cannoedd o driathletwyr yw’r ateb fel rheol, wrth iddyn nhw blymio i mewn i gwblhau cymal nofio’r her ddiweddaraf sy’n cael ei chynnal gan yr hafan i dwristiaid yn Sir Benfro.

Yn sgil llwyddiant dau o ddigwyddiadau mawr y dref - Dyn Haearn Cymru a Phenwythnos Cwrs Hir Cymru – yn ystod y degawd diwethaf, penderfynodd un o bapurau newydd enwocaf y byd anfon gohebydd i gael gwybod mwy am y chwyldro nofio, beicio a rhedeg.

Gwelodd yr awdur bod Dinbych-y-pysgod nid yn unig wedi dod yn fecca i athletwyr aml-chwaraeon o safon byd, ond hefyd bod y dref bellach yn hawlio bod ganddi fwy o driathletwyr y pen nag unrhyw le arall ar y blaned o ganlyniad i’r trigolion yn mynd ati i gefnogi’r cynnydd yn y gamp.

Nid oedd pennawd yr erthygl - “Iron Town” – yn peri syndod mawr i’r bobl leol sy’n dod allan i’r strydoedd yn eu miloedd i ddangos eu cefnogaeth.

Dechreuodd Dinbych-y-pysgod drawsnewid i fod yn lleoliad ar gyfer triathlon pan lansiwyd y Penwythnos Cwrs Hir ym mis Gorffennaf 2010.

Wrth i'r digwyddiad baratoi ar gyfer y 10fed ornest fis nesaf, dyma'r triathletwr lleol, Gareth Rees, llywydd Clwb Beicio Aces Dinbych-y-pysgod, i esbonio sut mae wedi helpu i drawsnewid y tirlun chwaraeon lleol.

Dywedodd Rees: "Dechreuodd y Cwrs Hir cyn y Dyn Haearn ac mae'r ddau ddigwyddiad yma wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar yr ardal drwy gynnydd mewn aelodaeth o glybiau lleol a thrwy ddenu athletwyr o'r tu allan i'r ardal i ddod i hyfforddi i lawr yma gyda ni.

"Yr hyn sydd amlycaf i mi, yn ystod y ddwy i dair blynedd ddiwethaf mae'n debyg, yw pan ddaeth y Cwrs Hir a'r Dyn Haearn yma i ddechrau, fe fydden ni'n gweld llawer o bobl yn cyrraedd yma tua adeg y digwyddiad, ac yn ystod y gwyliau hefyd o bosib, ond nawr rydych chi'n gweld y bobl yma i lawr yma drwy gydol y flwyddyn.

"Yn sicr, pan rydw i allan ar y beic nawr, rydw i'n gweld grwpiau mawr o bobl i lawr yma'n benodol i ymarfer ar y cwrs. Mae'n digwydd yn fwy drwy gydol y flwyddyn nawr nag o'r blaen.

"Fel clwb, fe wnaethon ni ddechrau cynnwys y triathlon tua'r un adeg â thrydedd blwyddyn y Penwythnos Cwrs Hir, oherwydd dim ond clwb beicio oedd Aces Dinbych-y-pysgod. Ers hynny, mae ein haelodaeth ni wedi dyblu."

Nid yw cwblhau’r Penwythnos Cwrs Hir cyfan i’r gwangalon. O blith y 1,000 o gystadleuwyr a geisiodd ennill y medal ychwanegol nodedig am gwblhau’r tair her cwrs hir i gyd y llynedd, dim ond eu hanner aeth adref wedi’u bodloni.

Ar gyfer y rhai’n herio’r Cwrs Hir llawn eleni, mae’r digwyddiad yn dechrau ar y nos Wener, Gorffennaf 5, pryd bydd y nofwyr yn mynd i’r dŵr ar draeth hardd y De yn Ninbych-y-pysgod i herio’r cwrs 2.4 milltir.

Ar ôl noson dda a chwbl haeddiannol o gwsg gobeithio, ymlaen i gwrs beicio Sportive Cymru sy’n 112 milltir drwy gefn gwlad hardd ac agored Sir Benfro.

Daw’r penwythnos i ben ar y dydd Sul gyda Marathon 26.2 milltir Cymru, sydd wedi’i sefydlu ei hun fel digwyddiad ar ei ben ei hun yn awr ymhlith rhedwyr pellter.

Mae’r Penwythnos Cwrs Hir wedi bod yn hwb nid yn unig i economi’r ardal, ond, hefyd, i iechyd corfforol ei thrigolion.

Dywedodd clerc Cyngor y Dref, Andrew Davies, bod y manteision i’r dref yn eang iawn.

"Mae wedi bod yn hwb aruthrol i’r dref,” meddai. “Nid yn unig yn ystod y penwythnos ei hun, ond hefyd mae wedi cynyddu twristiaeth chwaraeon yr ardal yn ddi-os.

"Mae llawer o bobl yn dod i’r dref ar adegau eraill o’r flwyddyn i ymarfer y cwrs ac i hyfforddi.

"Bydd ymwelwyr sy’n cymryd rhan yn dod i’r dref y tu allan i’r tymor i ymarfer y nofio, y beicio a’r rhedeg. Mae wedi cynyddu’r dwristiaeth sy’n gysylltiedig â chwaraeon yn y dref yn sicr.

"Mae wedi gwneud llawer i wella iechyd y dref hefyd. Erbyn hyn, mae nifer y bobl sy’n ymwneud â chlybiau beicio, clybiau rhedeg ac ati wedi cynyddu’n sylweddol ers i’r Penwythnos Cwrs Hir ddechrau.

"Mae nifer y plant sy’n cymryd rhan yn y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal i blant yn ffenomenal. Maen nhw eisiau efelychu mam a dad sy’n cymryd rhan."

Dywed Davies bod y Penwythnos Cwrs Hir yn hynod gynhwysol. "Maen nhw’n gallu dewis pa ddisgyblaeth maen nhw eisiau cymryd rhan ynddi, a pha hyd i’w redeg a pha hyd i’w feicio.

"Mae’n gyfle i amrywiaeth ehangach o bobl gymryd rhan oherwydd maen nhw’n cael dewis. Er enghraifft, maen nhw’n gallu rhedeg 10K neu 26 milltir.

"Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cystadlu eu hunain, mae pobl y dref yn codi allan i gefnogi’r holl athletwyr sy’n cymryd rhan.

"Mae pob person yn y dref yn adnabod o leiaf pedwar neu bump o bobl a fydd yn cymryd rhan. Mae gennym ni rai o aelodau iau cyngor y dref yn cymryd rhan hyd yn oed."

Ac nid dim ond Dinbych-y-pysgod sy’n ymuno yn y chwyldro triathlon. Mae trefnwyr y Penwythnos Cwrs Hir yn Hwlffordd, Activity Wales Events, wedi sefydlu cyfres o ddigwyddiadau aml-chwaraeon hynod boblogaidd ar draws De Orllewin Cymru a thu hwnt.

Fel mae pethau’n mynd, bydd rhaid i’r New York Times anfon tîm o ohebwyr i bob cwr o Gymru i sicrhau’r newyddion diweddaraf am chwyldro triathlon Cymru.