Skip to main content

Warburton yn mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth wrth i rygbi gynnig mwy na bwrlwm Cwpan y Byd i ysgolion

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Warburton yn mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth wrth i rygbi gynnig mwy na bwrlwm Cwpan y Byd i ysgolion

Mae Sam Warburton yn credu bod posib i Gymru greu atgofion a fydd yn para am byth yn ystod y chwe wythnos nesaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd.

 

Mae cyn-gapten Cymru a'r Llewod, Warburton - wnaeth ymddeol oherwydd anaf yr adeg yma y llynedd - wedi bod yn helpu Undeb Rygbi Cymru gyda chynllun i sicrhau bod manteision Cwpan y Byd i'w teimlo mewn ysgolion ledled Cymru.

Ond nid sgiliau rygbi ar y cae yw'r ffocws, ond dysgu a datblygiad personol fel rhan o "Dosbarth Digidol URC".

Y syniad yw defnyddio rygbi a Chwpan y Byd i gynorthwyo gyda chwe maes dysgu. Y rhain yw: y celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; y dyniaethau; ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg.

Mae mwy na 250 o ysgolion cynradd wedi cofrestru ac aeth Warburton i ymweld ag un ohonyn nhw - Ysgol Santes Tudful, ym Merthyr - i helpu i lansio'r rhaglen.

Fe wnaeth y disgyblion ddangos sut maen nhw'n defnyddio rygbi fel rhan o'u dysgu yn gyffredinol, ond hefyd cafodd negeseuon pob lwc gwych i'w trosglwyddo i gyn gydaelodau ei dîm.

Wedyn, wrth adlewyrchu ar groeso brwd iawn, dywedodd y cyn-chwaraewr gyda Gleision Caerdydd ei fod yn teimlo'n sicr bod pŵer rygbi yng Nghymru - a'r effaith mae'n gallu ei chael ar blant ledled y wlad - yn rhywbeth oedd yn cael ei ffrwyno'n llawn o'r newydd.

"Mae llawer o'r mentrau yma'n gallu teimlo fel cefnogaeth heb wneud fawr ddim yn ymarferol, ond mae mynd i mewn i ddosbarthiadau a gweld plant y dosbarth derbyn yn rhedeg o gwmpas gyda pheli rygbi - a rhai ohonyn nhw heb gyffwrdd pêl rygbi o'r blaen efallai - yn bwerus iawn," meddai.

"Felly hefyd eu clywed nhw'n siarad mewn trafodaethau grŵp am yr emosiynau mae chwaraewyr rygbi yn eu dangos. Mae'n rhoi hyder iddyn nhw siarad am deimladau ac mae'n braf bod rygbi ac URC yn gallu annog hynny.

"Dyma'r pethau sy'n gallu gwneud rygbi yn gamp genedlaethol go iawn. Nid dim ond oedolion yn mynd i gêm rygbi ryngwladol wyth gwaith y flwyddyn yw hyn. Pan mae pawb o dan y lefel honno'n gwirioni ar rygbi, dyna pryd allwn ni wir ei galw hi'n gamp genedlaethol.

"Pan rydw i'n mynd i ysgolion cynradd, y peth cyntaf rydw i'n siarad amdano yw am fod yn nerfus a bod hynny'n iawn. Mae plant yn gweld archarwyr ar y teledu ac yn meddwl bod eu harwyr chwaraeon nhw yr un fath - bod nhw'n bobl arwrol heb ddim emosiwn sydd byth yn mynd yn nerfus.

"Mae pobl yn meddwl nad oes unrhyw beth yn poeni sêr y byd chwaraeon ond roeddwn i wastad yn mynd yn nerfus cyn bob gêm. Roedd yn normal teimlo felly, fel mae'n normal i deimlo'n nerfus cyn prawf mathemateg.

"Os gallwn ni wneud i blant sylweddoli bod teimladau nerfus yn gwbl berffaith - bod pawb yn eu cael nhw - fe allwn ni eu helpu nhw i fod yn bobl fwy hyderus. Does dim rhaid bod yn Ddyn Haearn i wneud daioni yn y byd yma. Fe allwch chi fod yn berffaith normal."