Skip to main content

CORONI HYFFORDDWR BOCSIO CAERDYDD YN ‘ARWR Y CYFNOD CLO’ YNG NGWOBRAU LOTERI GENEDLAETHOL 2020

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. CORONI HYFFORDDWR BOCSIO CAERDYDD YN ‘ARWR Y CYFNOD CLO’ YNG NGWOBRAU LOTERI GENEDLAETHOL 2020

Mae gŵr o Gaerdydd a drawsnewidiodd ei fywyd trwy focsio wedi cael ei goroni’n ‘arwr y cyfnod clo’ yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol 2020 am ei waith yn y gymuned yn ystod y pandemig Coronafeirws.

Enwyd Wasim Said, 29, dyn drws ac ymladdwr celfyddydau ymladd cymysg o Dre-biwt, Caerdydd fel enillydd y Categori Chwaraeon dros y DU gyfan yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni am ei waith ysbrydoledig yn helpu pobl ifanc a’i gymuned dros y misoedd diwethaf. 

Ac mae sypreis arbennig ar y gweill i Wasim heddiw, gyda chyn bencampwr pwysau trwm a phwysau godrwm y byd, David Haye (sef The Haymaker), yn anfon neges ato i ddiolch yn bersonol iddo am ei waith. 

Roedd Wasim ymysg mwy na 5,000 o unigolion anhygoel a enwebwyd ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol 2020 – yr ymgyrch flynyddol i ganfod hoff bobl a phrosiectau’r DU a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Ef yw’r unig enillydd o Gymru eleni ac enillydd cyffredinol y DU o fewn y categori chwaraeon. 

Agorwyd Clwb Bocsio Amaturaidd Bae Teigr a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol gan Wasim yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn ôl fel teyrnged i’w gyn fentor, Pat Thomas, y pencampwr bocsio. Lleolir Clwb ABC Bae Teigr yng Nghanolfan Gymunedol Yemeni yn Nhre-biwt ac yn unigryw iawn, mae wedi’i gysylltu â’r mosg lleol. Rhaid oedd cael caniatâd oedd wrth henaduriaid yn y mosg cyn y gallai’r clwb hyfforddi yno. 

Yn ystod y pandemig, mae Wasim wedi bod yn arwain tîm o wirfoddolwyr ifanc a ddosbarthodd 120 o flychau bwyd yr wythnos i deuluoedd bregus oedd yn agored i niwed ac yn diogelu eu hunain.

Dywedodd Wasim: “Mae hyn yn rhoi cymhelliad i’r bobl ifanc yn hytrach na’u bod yn eistedd yn y tŷ.

“Mae’n meithrin perthynas rhyngom ni a’n hynafiaid, mae’n helpu i gadw’r bechgyn ar y llwybr cywir ac yn eu dysgu o oedran ifanc fod rhaid i chi fod yn dda er mwyn derbyn daioni.” 

Ochr yn ochr â hyrwyddo bocsio fel camp, mae Wasim a’r hyfforddwyr hefyd yn gweithio i oresgyn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal anoddefgarwch trwy greu cymuned gydlynus o bob crefydd, hil a chenedligrwydd. Maent yn dod ag asiantaethau allanol ynghyd i gynnal sgyrsiau gyda phobl ifanc, meithrin cysylltiadau gyda chlybiau mewn rhannau eraill o’r ddinas a chaniatáu i aelodau Mwslemaidd gymryd yr alwad i weddïo tra byddant yn hyfforddi. 

Mae profiad personol gan Wasim o’r problemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn y gymuned. Collodd ei dad yn 15 mlwydd oed a throellodd ei fywyd allan o reolaeth. Aeth i drafferth ac ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, tra’r oedd ei frawd hŷn yn gwasanaethu ym Myddin Prydain. Cafodd Wasim brofiad uniongyrchol o weld trais a chyffuriau ar y strydoedd, cyn dechrau rhoi cynnig ar gelfyddydau ymladd cymysg a hyfforddi tair gwaith yr wythnos. Arweiniodd y ddisgyblaeth a’r sgiliau a enillodd at gael swydd o fewn y maes diogelwch a throdd ei gefn ar ei hen fywyd. 

Yn ychwanegol at y wobr, bydd y clwb yn derbyn gwobr ariannol o £3,000 yn awr oddi wrth y Loteri Genedlaethol i gydnabod eu gwaith. 

Dywedodd Wasim a oedd wrth ei fodd gyda’r cyhoeddiad ei fod yn enillydd y DU gyfan o fewn y categori Chwaraeon: “Mae’r wobr hon i bawb yn Nhre-biwt ac rwy’n gobeithio ei fod yn ennyn hyder yn y bobl ifanc y byddwn yn gweithio â hwy, gan ddangos fod gwaith caled a diwydrwydd o fewn eich cymuned wirioneddol yn talu ar ei ganfed. Nid ydym fel arfer yn derbyn gwobrau positif fel y rhain o fewn ein cymuned ac mae hwn yn hwb gwirioneddol i ni. Dim ond ar ddechrau ei daith mae Clwb ABC Bae Teigr ac rwy’n gobeithio y gall y wobr hon ein gwthio ymlaen tuag bethau mwy a gwell ar gyfer pobl Tre-biwt yn y dyfodol. Mae prosiect bach fel hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ac mae’r Loteri Genedlaethol wedi chwarae rhan allweddol wrth helpu i’n meithrin ac annog ein tyfiant. Hoffwn ddweud diolch yn fawr i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am y gefnogaeth hanfodol hon.” 

Gan longyfarch Wasim ar ei wobr, dywedodd David Haye, un o bencampwyr bocsio enwocaf ac mwyaf llwyddiannus Prydain o fewn y ring bocsio yn y cyfnod modern: “Rwyf wedi clywed sut mae Wasim wedi bod yn gwneud pethau anhygoel i Glwb Paffio Bae Teigr a’r gymuned ehangach. O ddosbarthu cannoedd o flychau i’r sawl sydd fwyaf agored i niwed a bod yn fodel rôl ysbrydoledig i bobl ifanc. Rwy’n gwybod o brofiad personol sut mae cadw plant ar y llwybr cywir ac oddi ar y strydoedd yn allweddol bwysig i ddyfodol nifer o blant. Mae Wasim yn destun clod i Dre-biwt, Caerdydd a dylid bod yn wirioneddol falch o’r gwaith mae wedi’i gyflawni ar gyfer y gymuned. Llongyfarchiadau ar ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol 2020 o fewn y categori Chwaraeon.” 

Mae Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn dathlu’r unigolion ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda help arian y Loteri Genedlaethol. 

Gwobrwywyd arian y Loteri Genedlaethol i Glwb Paffio Bae Teigr ym mis Chwefror 2018 i ddatblygu’r clwb. 

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi tua £30 miliwn tuag at achosion da pob wythnos. Ers dechrau argyfwng COVID-19, mae’r Loteri Genedlaethol wedi dosbarthu pecynnau cefnogaeth o hyd at £600 miliwn ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth, addysg a’r amgylchedd.