Skip to main content

Y Fenter Nofio Am Ddim Newudd Yn Addo Cyflawni Newid Y Mae Ei Wir Angen

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y Fenter Nofio Am Ddim Newudd Yn Addo Cyflawni Newid Y Mae Ei Wir Angen

Bydd Menter Nofio Am Ddim ar ei newydd wedd, yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a'i chyflwyno gan Chwaraeon Cymru mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, yn cael ei chyflwyno mewn pyllau cyhoeddus ledled Cymru o fis Hydref 2019 ymlaen.

Pobl ifanc a phobl dros 60 oed o ardaloedd difreintiedig fydd y flaenoriaeth o dan yr amcanion cenedlaethol newydd. Y nod yw denu'r bobl sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf o ran cael mynediad i byllau a chyfle i ddysgu sgil bywyd a nofio'n amlach.

Mae'r fenter ar ei newydd wedd yn ganlyniad i adolygiad annibynnol o'r cynllun presennol, a ganfuwyd yn anaddas i bwrpas bellach. 

"Dangosodd yr adolygiad yn glir iawn bod angen newid", meddai Graham Williams, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cymunedol yn Chwaraeon Cymru. "Does dim gwadu llwyddiannau blaenorol nofio am ddim, na'r ffaith bod y rhaglen wedi helpu miloedd o bobl i nofio ers ei sefydlu yn 2003. Er hynny, daeth yr adolygiad i'r casgliad nad yw'r dull presennol o weithredu'n gost-effeithiol, nac yn gwneud y cyfraniad mwyaf at gynyddu lefelau gweithgarwch. Er mwyn tynnu sylw at raddfa'r perfformiad presennol, mae nifer y bobl ifanc sy'n elwa o'r cynllun yn dirywio'n sylweddol, ac mae hyn wedi bod yn digwydd ers 2013-14. Ar gyfer y grŵp oedran 60+, amcangyfrifodd yr adolygiad mai dim ond 6% o'r boblogaeth darged sy'n defnyddio'r rhaglen ar hyn o bryd. Yn erbyn y cefndir heriol iawn yma y mae newidiadau polisi wedi cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru."

O fis Hydref ymlaen, bydd y newidiadau'n arwain at ostyngiad yn y gyllideb gyffredinol sydd ar gael ac, yn ei dro, bydd hynny'n effeithio ar nifer y sesiynau sydd ar gael.  Bydd gweithredu fesul cam, gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol, gyda'r holl bartneriaid yn gweithio tuag at byllau cyhoeddus yn cynnig sesiynau am ddim ar amseroedd addas. I bobl ifanc, bydd sesiynau am ddim bob penwythnos drwy gydol y flwyddyn, gyda sesiynau ychwanegol yn ystod gwyliau'r haf. Hefyd bydd y pyllau'n cynnig rhai sesiynau am ddim a sesiynau gyda chymhorthdal o bosib ar gyfer pobl dros 60 oed.

Meddai Graham Williams wedyn: "Drwy weithio mewn partneriaeth ac yn seiliedig ar wybodaeth gyda sefydliadau lleol, fe allwn ni sicrhau bod nofio am ddim yn parhau i chwarae rhan mewn cefnogi pobl i nofio. Nid yn unig mae'n sgil bywyd, ond hefyd gall fod yn ddechrau ar berthynas bositif gyda chwaraeon a bod yn actif am oes, sy'n sicrhau cymaint o fanteision iechyd corfforol a meddyliol ychwanegol. Rydyn ni'n deall nad yw'r newid yn un positif i bawb ac yn ymddiheuro i'r rhai y bydd eu sesiynau arferol yn cael eu haildrefnu o bosib, neu am y sesiynau nad ydynt am ddim mwyach. Rydyn ni'n gweithio'n galed gyda'n cydweithwyr yn yr Awdurdodau Lleol i leihau effaith ac i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i sicrhau'r budd gorau posib."

Bydd y fenter newydd yn cael ei chyflwyno yn erbyn cyllideb is o £1.5m y flwyddyn o fis Ebrill 2020 ymlaen. Fodd bynnag, yn ystod 2019-20, bydd Awdurdodau Lleol yn cael defnydd o gyfran o £1m o fuddsoddiad cyfalaf a fydd yn galluogi iddynt ddiweddaru cyfleusterau nofio pan fo angen.

Cynghorir y rhai sydd eisiau cael gwybod mwy am beth sydd ar gael yn eu hardal leol, ac am y newidiadau i'r sesiynau presennol o dan y fenter ar ei newydd wedd, i gysylltu â'u pwll cyhoeddus lleol am fwy o wybodaeth ac amserlenni wedi'u diweddaru.