Skip to main content

Chynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus

  1. Hafan
  2. Cefnogaeth i Athletwyr
  3. Chynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus

Yn 2023, fe wnaethom ymuno â Chynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus i gefnogi athletwyr perfformiad uwch yng Nghymru.

Mae'r Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Dawnus (TASS) wedi bod yn cefnogi athletwyr dawnus ers 2005. Mae'r rhaglen hon, a gefnogir gan Sport England, yn darparu gwasanaethau cymorth arbenigol, a ddarperir gan ymarferwyr profiadol i gannoedd o athletwyr bob blwyddyn. Mae TASS yn ymroddedig i ddatblygu ei rwydwaith o arbenigwyr chwaraeon perfformio.

Mae perthynas newydd rhwng Chwaraeon Cymru a TASS yn golygu y bydd athletwyr Cymru sydd â’r potensial i gyrraedd lefel safon rhyngwladol o fewn dwy neu dair blynedd bellach yn cael cynnig gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio i’w helpu i gyflawni eu potensial chwaraeon.

Bydd yr athletwyr hyn yn derbyn pecyn cymorth wedi’i arwain gan anghenion, gyda sicrwydd ansawdd, gan gynnwys cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, datblygiad personol, maetheg a seicoleg chwaraeon. Bydd athletwyr hefyd yn elwa o Gynllun Meddygol TASS, sy'n darparu mynediad cyflym i driniaeth feddygol breifat yn achos salwch neu anaf sy'n gysylltiedig â chwaraeon, a chymorth Iechyd Meddwl trwy ein partner Sporting Chance.

Bydd y gefnogaeth yn cael ei darparu ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe i ddechrau gydag athletwyr enwebedig o chwe champ yn gallu manteisio ar y gefnogaeth yn ystod 2023 - badminton, hoci, hwylio, triathlon, saethu a saethyddiaeth. Bydd mwy o Gyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) yn gallu enwebu athletwyr yn unol â’u hamserlenni eu hunain, drwy gydol y flwyddyn.

Os ydych chi'n athletwr ac eisiau gwybod mwy am TASS - cysylltwch â'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer eich camp.

Newyddion Diweddaraf - Chwaraeon Perfformiad Uwch

Sut perfformiodd athletwyr Cymru ym Mharis 2024?

Wel mae wedi bod yn haf gwych! Efallai bod Paris 2024 wedi dod i ben, ond bydd atgofion Olympiaid a…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy