Skip to main content

YMUNWCH Â NI YN DIOLCH Y LOTTERI CENEDLAETHOL AR 19eg TACHWEDD

  1. Hafan
  2. Chwaraeon Cymru a'r Loteri Genedlaethol.
  3. YMUNWCH Â NI YN DIOLCH Y LOTTERI CENEDLAETHOL AR 19eg TACHWEDD

Creu hun-lun croesi bysedd ddydd Iau 19eg Tachwedd

I ddweud DIOLCH O GALON i’r Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni’n dathlu pen-blwydd y Loteri Genedlaethol yn 26 oed y mis yma. Rydyn ni eisiau i chi gymryd rhan hefyd! 

Gan fod chwaraeon wedi wynebu un o'r blynyddoedd anoddaf yn sgil pandemig Covid-19, mae cyfraniadau’r Loteri Genedlaethol wedi helpu i ddiogelu a pharatoi chwaraeon ar gyfer dychwelyd at weithgarwch yn ddiogel. Mae hynny yn ychwanegol at y ffyrdd niferus eraill y mae’r Loteri Genedlaethol yn parhau i helpu'r sector i ffynnu, gan fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn chwaraeon yng Nghymru bob blwyddyn ar lefel strategol ac ar lawr gwlad.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws. 
 

Sut gallwch chi gymryd rhan i ddiolch i’r Loteri Genedlaethol a’i chwaraewyr 

Creu hun-lun croesi bysedd ddydd Iau 19eg Tachwedd

Bydd defnyddio’r hashnodau #DiolchIChi a #LoteriGenedlaethol hefyd

Gyda’i gilydd, bydd miloedd o bobl yn rhoi hun-lun croesi bysedd ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Iau 19eg Tachwedd 2020 i ddiolch o galon i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am eu cyfraniad aruthrol at achosion da ledled y DU, ac mae gwahoddiad i chi gymryd rhan.             

Bydd defnyddio’r hashnodau #DiolchIChi a #LoteriGenedlaethol hefyd yn hwb i’ch cyfryngau cymdeithasol ac amlygrwydd eich brand ar y diwrnod ac yn rhoi cyfle i fwy o bobl glywed am eich prosiect. 


Canllaw ymgyrch bys wedi'i groesi