Matt Richards - Nofio
Enw: Matt Richards
Ganwyd yn: Caerwrangon, Lloegr
Ysgol(ion): Coleg Esgob Perowne Eglwys Loegr, Ysgol Frenhinol Wolverhampton
Clwb (Clybiau): Clwb Nofio Droitwich Dolphins, Clwb Nofio Caerwrangon
Dull: Dull Rhydd
Chwaraeon Eraill: Rygbi, Taekwondo
Profiad Olympaidd: Cystadlu am y tro cyntaf
Medalau: Pencampwriaethau Ewropeaidd (Aur a 2 Arian 2020)
Anrhydeddau Eraill: Recordiau Prydain i ieuenctid 18 oed yn y 100m a’r 200m Dull Rhydd
Byth ers i Matt, yn 5 oed, daflu ei fandiau braich a phlymio i mewn i ben dwfn pwll y gwesty ar wyliau teuluol yn Tenerife, mae wedi byw yn y dŵr. Yn fuan ar ôl y trip, dechreuodd ei rieni fynd ag ef i wersi nofio.
Ym mha glwb wnaeth Matt ddechrau nofio?
Pan sylweddolodd Matt ei fod yn hoff iawn o herio ei hun yn ddim ond 8 oed, ymunodd â Droitwich Dolphins, sef ei glwb nofio cyntaf.
Un peth doeddech chi ddim yn ei wybod am Matt Richards
Nid yw Matt wedi cynrychioli Cymru ar lefel uwch eto felly bydd yn cael ei daflu’n syth i’r pen dwfn heb ei fandiau braich unwaith eto wrth iddo gael ei ddewis i gynrychioli Team GB yn Tokyo 2020. Ond ni fydd mewn dyfroedd dieithr oherwydd bod ei bartner hyfforddi a’i gyd-Gymro, Kieran Bird, wedi sicrhau lle yng Ngemau'r haf yma hefyd.
Ar ba ddyddiadau fydd Matt yn cystadlu yn Tokyo 2020?
Dull Rhydd 100m
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - 11.02 (BST) - Rhagbrofion
Dydd Mercher Gorffennaf 28 - 02.30 - Rownd Gynderfynol
Dydd Iau, Gorffennaf 29 - 03.37 - Terfynol
Ras Gyfnewid 4 x 100m Dull Rhydd
Dydd Sul, Gorffennaf 25 - 13.10 - Rhagbrofion
Dydd Llun, Gorffennaf 26 - 04.05 - Terfynol
Ras Gyfnewid 4 x 200m Dull Rhydd
Dydd Mawrth, Gorffennaf 27 - 12.17 - Rhagbrofion
Dydd Mercher, Gorffennaf 28 - 04.26 - Terfynol