Skip to main content

Meddwl yn y Tymor Hir – Y Camau at Lwyddiant

Mae gweithredu’n strategol gyda chysylltiadau cyhoeddus a marchnata’n cynnig llawer o fanteision. Mae’n ein helpu ni i wneud gwell defnydd o amser ac arian ac mae’n cael effaith hir a phositif ar lwyddiant sefydliadol. Ond beth mae ‘meddwl yn strategol’ yn ei gynnwys mewn gwirionedd, a sut gallwn ni ei wneud yn well?

Alison Arnot, Cyfarwyddwr Catalyst Communications, sy’n rhannu chwe cham ar gyfer llwyddiant.

CLIP - Clipboard

 

Mae gweithredu’n strategol gyda chysylltiadau cyhoeddus a marchnata’n cynnig llawer o fanteision. Mae’n ein helpu ni i wneud gwell defnydd o amser ac arian ac mae’n cael effaith bositif a pharhaus ar lwyddiant sefydliadol. Ond beth mae ‘meddwl yn strategol’ yn ei gynnwys mewn gwirionedd, a sut gallwn ni ei wneud yn well? Alison Arnot, Cyfarwyddwr yn Catalyst Communications sy’n rhannu chwe cham ar gyfer llwyddiant.  

Mae strategaeth cysylltiadau cyhoeddus a marchnata’n adnodd pwerus, ac mae’r gallu i feddwl yn strategol yn gyfle i ni fod yn hynod gystadleuol.                    

Ond eto gyda dyddiadau terfyn ar y gorwel ac wrth i ni dicio eitemau oddi ar ein rhestr o bethau i’w gwneud, mae’n demtasiwn cymryd yn ganiataol bod y ‘strategaeth’ yn digwydd yn rhywle arall yn y sefydliad, ac mai cyfrifoldeb rhywun arall yw meddwl yn strategol. 

Mewn gwirionedd, y gwrthwyneb sy’n wir, a dim ond drwy ychydig o gamau syml, gall unrhyw un ohonom ni newid ein pwerau strategol a sicrhau mwy o ffocws a dod yn fwy effeithiol yn ein gwaith. 

Drwy gynnwys meddwl yn strategol bob dydd yn eich diwrnod gwaith, byddwch yn well am ragweld cyfleoedd, rheoli adnoddau, creu cysylltiadau ystyrlon a dangos eich gwerth i’r sefydliad ehangach.                      

Dyma chwe cham at lwyddiant:   

Edrych ar y darlun mawr 

Yn y pen draw mae meddwl yn strategol yn arwain at syniadau newydd sy’n cyflawni eich amcanion yn well mewn amgylchedd cystadleuol sy’n newid, felly mae ymchwil cadarn yn allweddol. 

Sut gallwch chi flaenoriaethu eich gweithgarwch os nad ydych chi’n gwybod sut mae’n cyd-fynd â gweledigaeth ehangach ar gyfer chwaraeon yng Nghymru? Sut gallwch chi annog pobl i ddod yn fwy actif os nad ydych chi’n gwybod am y rhwystrau maent yn eu hwynebu? Sut gallwch chi greu strategaeth cyfryngau cymdeithasol os nad ydych chi’n gwybod sut mae gwahanol apiau’n cael eu defnyddio? A sut gallwch chi roi hwb i’ch creadigrwydd eich hun os nad ydych chi’n ymwybodol o’r tueddiadau a’r datblygiadau newydd mae pawb arall yn siarad amdanynt?         

Rhaid cael y newyddion diweddaraf am ddiwydiant. Edrych ar astudiaethau achos a data a gofyn am safbwyntiau amrywiol am beth sy’n gweithio, beth sy’n llai llwyddiannus, a beth mae pobl wir yn poeni amdano er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth o’r materion gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol i’w hystyried os ydych chi am wneud cysylltiadau didwyll ac ystyrlon gyda’ch rhanddeiliaid.             

Pennu amcanion clir

Defnyddiwch eich gwybodaeth am y darlun mawr i bennu amcanion SMART (Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy, Realistig a Chyfyngedig gan Amser) sy’n cyd-fynd â’r amcanion ar gyfer eich sefydliad eich hun. Meddyliwch ynghylch pryd rydych chi angen cyflawni’r rhain, pwy neu beth fydd arnoch ei angen i’ch helpu, a sut byddwch yn goresgyn unrhyw rwystrau a ddaw i’ch rhan efallai. Os ydynt yn teimlo’n iawn o hyd, nodwch nhw ar bapur ac ymrwymo iddynt. 

Diffinio eich dull o weithredu 

Defnyddiwch yr holl wybodaeth rydych chi wedi’i chasglu er mwyn eich helpu i benderfynu pa negeseuon, straeon, sianelau a gweithgarwch fydd gwahanol bobl rydych chi angen siarad â hwy yn gallu uniaethu â hwy, ac wedyn blaenoriaethu’r syniadau sy’n cefnogi eich amcanion yn uniongyrchol gan feddwl wrth gwrs am yr amser, y costau a’r adnoddau eraill sydd ar gael i chi. 

Meddyliwch am y problemau posib yn ogystal â’r llwyddiannau posib, fel bod eich negeseuon yn taro’r nodyn iawn a’ch bod mor barod i ddelio â heriau ag ydych chi i gynyddu’r cyfleoedd a ddaw i’ch rhan.              

Edrychwch ar ganlyniadau gwahanol opsiynau a ffurfio partneriaethau gyda gwahanol siaradwyr a grwpiau dylanwadol. Addaswch eich syniadau os oes raid, ac wrth gwrs, gwnewch yn siŵr bod posib cysylltu eich holl weithgarwch arfaethedig yn ôl yn glir i’r darlun mawr.   

Sefydlu cynllun 

Ewch ati i gofnodi a threfnu eich meddyliau yn ddigidol neu yn henffasiwn gyda phapur a beiro er mwyn gallu blaenoriaethu, cyfresu a strwythuro gweithgarwch, neilltuo adnoddau, cyfeirio’n ôl at syniadau, a chadw ar y trac er mwyn cyflawni eich nodau. 

Bydd cynllun strategol da’n cynnwys yr amcanion rydych chi wedi’u pennu, y dull o weithredu y byddwch yn ei ddefnyddio, y pethau y byddwch yn eu gwneud, pryd ac am faint o arian, yn ogystal â sut byddwch yn mesur llwyddiant – felly cofiwch gynnwys yr holl wybodaeth hon ochr yn ochr â’ch rhestr o dasgau.       

Ac os ydych chi angen cynllun gweithredu syml neu ddadansoddiad cymhlethach o gerrig milltir, dibyniaeth a phwyntiau allweddol posib, cofiwch ystyried anghenion pobl yn gyntaf, cyn prosesau ac adnoddau. Mae’n well bod yn hyblyg wrth ystyried syniadau newydd na symud ymlaen yn gaeth gyda chynnwys neu weithgarwch na fydd yn gweithio cystal ag yr oeddech wedi’i feddwl yn wreiddiol efallai. 

Dal ati i ofyn cwestiynau

Wrth i chi ddechrau gweithredu eich syniadau, gofynnwch dro ar ôl tro ‘Pam ydym ni yma?’ ‘Beth sydd raid i ni ei wneud?’ ‘Gyda phwy ddylem ni siarad?’ a ‘Sut gallwn ni ei wneud yn well?’ er mwyn eich atal rhag crwydro i gyfeiriad anfwriadol ac er mwyn i chi gynnal ffocws ar eich gwerth, eich blaenoriaethau a’ch cyfleoedd i wella.              

Ac wrth i chi sicrhau mwy o wybodaeth a dealltwriaeth, ceisiwch ddal ati i fod yn chwilfrydig a chroesawu syniadau newydd. Heriwch eich rhagdybiaethau ac edrychwch ar wybodaeth newydd o wahanol safbwyntiau i weld a fydd hyn yn gallu eich helpu chi i ddod yn fwy effeithiol fyth. 

Adlewyrchu ac adolygu 

Yn olaf, cofiwch y gall monitro a gwerthuso rheolaidd eich helpu chi i wirio eich effaith a’ch effeithlonrwydd eich hun a rhoi syniadau newydd i chi ar gyfer y dyfodol. 

Os yw rhywbeth yn gweithio’n dda, glynwch wrtho. Ond os yw eich cyfathrebu’n methu cyffroi, neu’n waeth fyth, yn creu rhwystredigaeth ac annifyrwch i bobl, edrychwch eto ar sut gallwch chi ei addasu i gael ymateb mwy positif.

Pob lwc, a hir oes i’ch llwyddiant strategol!

Paratowyd ar gyfer Chwaraeon Cymru gan Alison Arnot Chart.PR FCIPR, Cyfarwyddwr, Catalyst Communications 

www.linkedin.com/in/alisonarnot/
https://twitter.com/__catalyst
www.catalyst-communications.co.uk