Skip to main content

Adlewyrchu a'i rôl mewn arweinyddiaeth

Simon Middlemas, Seicolegydd Chwaraeon

 

Adlewyrchu 

Mae adlewyrchu, i lawer, yn gyfystyr â hunanadlewyrchu. Rydym yn dal drych arnom ni'n hunain a'n gweithredoedd ac yn ceisio edrych yn ôl am wybodaeth. Ond mewn drych, mae adlewyrchiad yn rhoi replica union o'r hyn sydd o'i flaen. Mewn gwirionedd, mae adlewyrchu’n dangos i chi nid beth yw rhywbeth, ond yr hyn a allai fod; gwelliant ar y profiad gwreiddiol. Nid yw'n ymwneud ag edrych yn ôl mewn gwirionedd, ond gwella a thrawsnewid. Yn fwy na dim ond edrych yn ôl neu feddwl am weithgaredd, mae adlewyrchu’n emosiynol a chorfforol, ac mae'n gysylltiedig â'n gwerthoedd a'n hunaniaeth gymdeithasol.

Felly, sut mae ei wneud yn effeithiol? I geisio ateb hyn, fe hoffwn rannu stori.

Wrth ysgrifennu'r erthygl yma, fe wnes i gofio am stori ddoniol ddywedodd fy mentor cyntaf, dyn o'r enw Jim, wrtha’ i. Fe fuon ni’n gweithio gyda'n gilydd mewn clwb pêl droed proffesiynol, ac roedd yn addysgwr gwych ac yn arweinydd caredig ar bobl. Rai blynyddoedd yn ôl, wrth wynebu mynydd o straen a phroblemau, fe ddarllenodd Jim am gysyniad newydd mewn llyfr arweinyddiaeth, o'r enw Arfer Adlewyrchol. Chwalodd ei feddwl. Roedd y llyfr yn dweud, er mwyn bod yn arweinydd gwych, bod angen iddo ddod o hyd i amser i adlewyrchu bob dydd. Mynd â’r ci am dro. Eistedd mewn coedwig. Nofio milltir. Beicio i'r gwaith. Roedd Jim yn casáu cerdded (rhy araf) a nofio (rhy oer) ac fel llawer o arweinwyr, roedd yn meddwl bod eistedd yn llonydd am unrhyw gyfnod o amser yn beth eithaf gwarthus. Felly, gadawodd ei gar ar y ffordd a mynd ar gefn ei feic. Heb ei gar, ymresymodd, roedd ei siwrnai 15 munud i'r swyddfa bellach yn 60 munud; awr gyfan o amser ar ei ben ei hun heb neb yn tarfu i feddwl ac adlewyrchu. Perffaith ar gyfer dod o hyd i'r atebion i'w broblemau. Felly, roedd yn beicio drwy'r parc bob dydd gyda'i ffôn wedi’i fudo ac yn adlewyrchu ar ei hyfforddwyr anniolchgar, ei athletwyr wedi’u difetha, ei fos anghefnogol a'i gydweithwyr digymhelliant. Sut oedd datrys y problemau hyn? Ar ddiwedd ei siwrneiau ar y beic, byddai'n ysgrifennu ei feddyliau a'i gamau gweithredu, yn ôl y cyfarwyddyd. Ond erbyn diwedd yr wythnos gyntaf, roedd Jim yn teimlo'n ddig wrth feddwl am y problemau yma a'r bobl oedd yn eu hachosi. Yn rhy rhwystredig i adlewyrchu, fe lawrlwythodd gardeners question time ar ei iPod. Roedd bob amser yn ei dawelu. Drannoeth, ar goll mewn trafodaeth am gompostio rhisgl coed a phryfed genwair, fe dorrodd cebl y brêc ar ei feic. Roedd Jim yn ffrî-wilio i lawr allt serth yn llawn ofn gan blymio yn y diwedd i mewn i bwll hwyaid. Ac yno, at ei ganol mewn baw hwyaid a sbwriel, yn wlyb at ei groen ac yn teimlo cywilydd mawr, y cafodd y foment o eglurder yr oedd yn chwilio amdani. Beth os mai fi yw'r broblem? meddyliodd. Eisteddodd am eiliad neu ddwy ac wedyn chwerthin ar y sefyllfa roedd ynddi. Ugain munud yn ddiweddarach, cyrhaeddodd ei waith yn wlyb socian a rhoi'r gorau i’w swydd, gan ddweud wrth bawb a oedd yn gwrando ei fod eisiau bod yn arddwr tirweddau.

’Fydda i byth yn gwybod faint o'r stori yma sy'n wir, gan fod fy ffrind wedi marw y llynedd, ond rydw i wedi meddwl llawer am hyn yn ddiweddar, a dyma’r canlyniad. Er bod adlewyrchu’n bwysig, does dim posib ei orfodi.

Seiclo yn y mynyddoedd

 

Rydw i wedi defnyddio, addysgu, hyrwyddo ac ymchwilio i ymarfer adlewyrchol ar hyd fy oes broffesiynol. Rydw i'n credu bod ganddo bŵer go iawn, ac rydw i'n ei weld fel elfen allweddol mewn rhagoriaeth, mewn arweinyddiaeth a thu hwnt. Ond i mi, nid yw adlewyrchu’n gweithio yn y ffordd rydyn ni wedi cael ein harwain i gredu. Mae'n derm mor hollbresennol mewn iaith arweinyddiaeth fodern, ac mae'n dioddef oherwydd yr enwogrwydd yma. Mae'n anodd dod o hyd iddo. Anodd rhoi eich bys arno. Mae un peth yn wir, rydyn ni wedi cael cais i’w wneud, dro ar ôl tro ar ôl tro, ac ar brydiau, mae'n eithaf diflas. Ym myd addysg, rydyn ni’n siarad am ‘farwolaeth drwy PowerPoint’, profiad a nodweddir gan gydweithiwr yn darllen llinell ar ôl llinell oddi ar sleidiau i gynulleidfa, wrth iddyn nhw ymladd cwsg mewn darlithfa boeth. Rydw i’n credu ein bod ni i gyd wedi profi hyn, ond efallai hefyd brofiad tebyg o’r enw ‘marwolaeth drwy ddyddiadur adlewyrchu’. 

Ond beth ydw i'n ei olygu wrth ddweud adlewyrchu? Nododd Donald Schön - cyfrannwr pwysig at y pwnc yma - ddau fath o adlewyrchu: adlewyrchu wrth weithredu ac adlewyrchu ar weithredu. Wrth adlewyrchu wrth weithredu, mae'r arweinydd yn adlewyrchu ar y weithred yn syth ar ôl dod ar ei thraws (wrth gyflawni tasg, fel petai). Mewn cyferbyniad, mae adlewyrchu ar weithredu’n cael ei wneud ar ôl profi'r weithred, yn nes ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â'r cysyniad olaf hwn (adlewyrchu ar weithredu), a dyma'r un sy'n ymddangos fel pe bai ganddo enw drwg. Gyda mwy o amser, gallwn adlewyrchu i raddau mwy ar y teimladau a barodd i ni fabwysiadu dull penodol o weithredu, y ffordd y gwnaethom fframio'r broblem, neu ar y rôl rydyn ni’n ei chwarae yn niwylliant ehangach y sefydliad neu'r gymdeithas. Rydyn ni'n plymio’n ddwfn i brofiad, i archwilio ein teimladau a'n meddyliau, pa mor anghyffyrddus bynnag ydyn nhw, ac wedyn yn defnyddio gwybodaeth newydd a chwestiynau newydd mewn arferion yn y dyfodol. Mewn termau adlewyrchol, mae'r broses yn troelli ymlaen yn ddiderfyn, a chwestiynau newydd yn dod i'r amlwg i gymryd lle'r hen rai.

Ond ydyn ni wir yn newid ar ôl ein gweithgarwch adlewyrchol? Ydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth a’i gosod yn erbyn persbectif ffres, ein gwerthoedd, profiadau, credoau, a'i hystyried yn y cyd-destun mwy y codir y cwestiynau ynddo? Ydyn ni’n defnyddio ein heglurder newydd, ac yn sicrhau newid go iawn, o ran agwedd, meddwl, wrth weithredu? Y gwir ydi, nac ydyn mae'n debyg. Mae newid go iawn yn anodd. Fel bodau dynol, rydyn ni’n hoffi chwilio am brofiadau cyfarwydd a dulliau arferol o weithio. Rydyn ni'n mynd yn ôl i deip, oni bai fod y brêcs yn methu un diwrnod, ac rydyn ni'n gorffen, fel Jim, yn y pwll.

Efallai mai hyn sy’n allweddol. Mae llai yn fwy. Rhaid i ni gofio bod ein sgyrsiau adlewyrchol gyda ni'n hunain ac eraill yn cadw eu pŵer, heb gael eu llethu gan ddogma neu strwythur. O ran ymarfer adlewyrchol, efallai bod llai yn fwy. Yn hytrach nag adlewyrchu dim ond er mwyn adlewyrchu, dylem geisio chwistrellu gwybodaeth ffres, neu edrych drwy lens newydd, ar ein bywyd gwaith o ddydd i ddydd, i ysgogi adlewyrchu a thanio ein chwilfrydedd, yn hytrach na'i weld fel ffordd i sicrhau canlyniad. Gofynnwch am adborth gan y cydweithiwr sy'n gweld y byd yn wahanol, cydweithiwr sydd ddim yn eich hoffi chi efallai. Cyn i chi estyn am lyfryn arweinyddiaeth arall, oes mwy o ysbrydoliaeth i'w chael o weminar ar losgfynyddoedd neu raglen ddogfen am fywyd gwyllt? Newidiwch eich car am feic a gwrando ar gardener’s question time ar y radio (ond byth ar yr un pryd wrth gwrs). Yn gryno, canolbwyntiwch ar chwilfrydedd dim ond er mwyn bod yn chwilfrydig, yn hytrach nag adlewyrchu ei hun. Wrth wneud hynny, rydyn ni'n adlewyrchu llai fel dull neu dechneg rydyn ni'n ei chysylltu ag arweinyddiaeth wych, ond yn fwy fel rhan gynhenid ​​o'r hyn mae'n ei olygu i arwain.

Yr awdur:

Mae Dr Simon Middlemas yn Seicolegydd Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru ac yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd.            

Ffynonellau: 

Göker, S. D., a Bozkuş, K. (2017). Reflective leadership: Learning to manage and lead human organizations. Contemporary leadership challenges, 27-45.

Knapp, M. S., Copland, M. A., a Talbert, J. E. (2003). Leading for Learning: Reflective Tools for School and District Leaders. CTP Research Report.

Schön, D. A. (1987). Educating the reflective practitioner: Toward a new design for teaching and learning in the professions. Jossey-Bass.