Skip to main content
  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Croeso i rifyn mis Gorffennaf o 'Rhoi Amser'

Croeso i rifyn mis Gorffennaf o 'Rhoi Amser'

Yn y rhifyn yma o Rhoi Amser rydym yn edrych ar adlewyrchu fel pwnc.

 

Rhoi Amser

Wrth i ni newid o gyfyngiadau i ryddid gofalus a symud i dderbyn bod COVID-19 yn rhan o fywyd, rydw i wedi bod yn pendroni am sut byddwn yn rhannu ein straeon ymhen blynyddoedd i ddod. Sut byddwn yn disgrifio'r amser yma yn ein bywydau? Sut byddwn yn siarad am y llwyddiannau a'r heriau? Sut byddwn yn rhannu'r hyn rydym wedi'i ddysgu?

Tybed a fydd, yng nghyd-destun pandemig byd-eang 2020/21, adlewyrchu ar y straeon personol yma a'u cofnodi’n rhoi mwy o wybodaeth i ni am sut i baratoi ein hunain a'r rhai o'n cwmpas i fod ar ein mwyaf dyfeisgar a chynhwysol wrth i ni barhau i deithio drwy newid. Amser am gofiant efallai?

Mae adlewyrchu wedi dod yn rhan annatod o arweinyddiaeth. Gall ein helpu i ehangu gwybodaeth amdanom ein hunain, pobl eraill a'r tîm. Drwy adlewyrchu gallwn ddatblygu sgiliau a chael gwybodaeth newydd am ein hymddygiad. Gall fod yn gyfrwng ar gyfer newid personol a chydweithredol sylweddol. Er gwaethaf hyn, mae'n anodd canolbwyntio arno weithiau ac, i rai, gall fod yn ymarfer sy’n cymryd llawer iawn o amser ac yn heriol yn seicolegol.

Mae Rhoi Amser yn newid!

Rydyn ni'n gyffrous i rannu y byddwn yn lansio'r adnodd Rhoi Amser ar ei newydd wedd yr Hydref yma ac yn newid i ryddhau'r adnodd bob chwarter. Bob chwarter bydd gennym thema newydd. Os oes gennych chi unrhyw syniadau am bynciau ar gyfer y rhifyn nesaf neu os hoffech chi gyfrannu at y cynnwys, cofiwch gysylltu â ni.

Eleanor Ower, Arweinydd Pobl yn Chwaraeon Cymru: [javascript protected email address]