Skip to main content

Fy mrofiad o Gyfres Ddysgu Chwaraeon Cymru

  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Croeso i rifyn mis Gorffennaf o 'Rhoi Amser'
  4. Fy mrofiad o Gyfres Ddysgu Chwaraeon Cymru

Beverley Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru

Os mai newid yw'r cyson newydd, sut allwn ni baratoi ein hunain a'r rhai o'n cwmpas i berfformio'n dda yn yr amgylchedd hwn?

Dyma'r cwestiwn y gwnaethom geisio edrych arno’n fanwl drwy gydol y gyfres. Nod pob sesiwn ac adran o'r gyfres oedd rhannu syniadau, straeon, adnoddau a thechnegau y gellid eu defnyddio yn ein cyd-destunau unigol. Roedd yn gyfle i neilltuo amser o'n tasgau a'n cyfarfodydd dyddiol, gan gysylltu fel sector i feddwl tybed sut gallwn ni fod ar ein mwyaf dyfeisgar.

Roedd y Gyfres Ddysgu’n ffordd newydd o rannu a dysgu, creodd yr amgylchedd rhithwir gyfle i recordio sesiynau byw, felly maent ar gael fel adnodd i'w rannu neu i edrych arno eto pan fydd angen. Roedd cynnig i gymryd rhan yn y rhaglen yn llawn, rhoi ychydig o sesiynau yn y dyddiadur neu gadw amser pan oedd yr amser yn briodol i chi.

Beverley Lewis, Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru

Beverley Lewis sy’n rhannu ei meddyliau am y gyfres:

Beth oedd eich agwedd chi at y gyfres ddysgu a pham wnaethoch chi benderfynu gwneud hyn?

Fel unigolyn daeth y Gyfres Ddysgu ar amser da i mi, pan oedd canolbwyntio ar yr hunan yn bwysig. Mae wedi bod yn flwyddyn anodd fel Prif Swyddog Gweithredol Triathlon Cymru gyda heriau proffesiynol a phwysau cyffredinol rheoli argyfwng.

Rydw i hefyd eisiau annog a chefnogi aelodau’r staff i feithrin eu gwytnwch, sydd wedi dod i’r amlwg gen i yn ystod Covid, a datblygu sgiliau a dealltwriaeth a ddysgais i yn ddiweddarach mewn bywyd, ac rydw i'n dal i ddysgu! Fe hoffwn i iddyn nhw ddysgu'r sgiliau hyn nawr a bod yn hyddysg mewn hunanadlewyrchu, gwytnwch, cynllunio hyblyg, ymddygiadau cynhwysol a meithrin perthnasoedd a fydd yn gwella eu bywyd personol a'u sgiliau cyflogaeth.

Felly, fe wnes i ymgysylltu â'r rhaglen ac annog y staff i wneud yr un peth.

Beth ydi’r prif bethau rydych chi wedi’u dysgu?

  1. Dydych chi byth yn stopio dysgu
  2. Mae llawer o'r sesiynau hyn yn gwella'ch bywyd chi, nid dim ond eich amgylchedd gwaith
  3. Nid yw popeth at ddant pawb, neu nid i bawb nawr, yn eu gofod dysgu cyfredol
  4. Rhowch amser i stopio a meddwl. Mae ffyrdd i bawb gofleidio adlewyrchu hyd yn oed os ydych chi'n berson egnïol iawn sy'n canolbwyntio ar atebion fel fi
  5. Dewch ag eraill gyda chi i helpu i gefnogi'ch siwrnai a chreu'r diwylliant priodol o'ch cwmpas chi
  6. Rhowch gynnig ar bethau newydd - gallant weithio neu beidio, ond maen nhw'n cadw amgylcheddau yn ffres a gallwch chi gael eich synnu'n fawr gan yr hyn sy'n gweithio
  7. Mae rhai o'n gweithgareddau ni wedi rhoi egni newydd i’r tîm mewn ffyrdd nad oeddwn i wedi dychmygu.
Cystadleuwyr yn rhedeg yn ras Triathlon Cymru yn Abergwaun

 

Beth ydych chi’n ei wneud yn wahanol?

Fel tîm rydyn ni wedi edrych ar yr Amgylchedd Meddwl. Cawsom sesiwn ymarferol i’w dreialu yn rhoi sylw i bwnc sydd o ddiddordeb mawr i'r sefydliad ac o hynny daeth syniadau gwych ar gyfer datrys y materion yr oeddem yn eu hwynebu a hefyd fformat newydd ar gyfer ein cyfarfodydd staff. Roeddwn i'n ymwybodol ein bod wedi ceisio rhoi lle i bawb siarad mewn cyfarfodydd staff ond nawr mae gennym ni ddealltwriaeth o sut a pham rydyn ni'n gwneud hyn ac mae pawb yn gefnogol. Roedd y rhai sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw lais wrth eu bodd, mae gan y rhai sy'n teimlo bod rhai pobl yn rheoli’n llwyr ateb, mae gennym ni ffordd o ddelio â thrafodaethau estynedig ac rydw i’n credu y byddwn ni’n fwy cynhyrchiol hefyd gyda phawb yn teimlo eu bod yn cael gwrandawiad.

Yn y sesiwn Cynllunio Hyblyg, rydw i wedi dysgu ein bod ni’n gwneud hyn ond nawr mae gennym ni enw a dealltwriaeth o'r hyn rydyn ni’n ei wneud a sut i'w fframio'n well mewn adnoddau.

Fel grŵp rydyn ni’n angerddol am fod yn gamp gynhwysol ac mae'r sesiwn gyda Ladi Ajayi ac Amanda Bennett wedi ein helpu ni i gael sgyrsiau a herio mewn llefydd diogel. Byddwn yn defnyddio'r cysylltiad rhwydwaith sydd wedi’i wneud ac yn parhau gyda gwell dealltwriaeth ar y cyd.

Ar beth ydych chi am edrych ymhellach?                 

Rydyn ni newydd ddechrau creu ein sesiynau ein hunain o amgylch y gyfres ddysgu a byddwn yn gweithio drwy'r sesiynau a apeliodd fwyaf at y staff . Yr un nesaf yw adborth – mae’r staff yn edrych ymlaen at yr un yma eisoes!

Yn bersonol, rydw i’n rhoi cynnig ar adlewyrchu fesul cam!

Bydd y sesiynau i’r staff ar bynciau estynedig o'r Gyfres Ddysgu yn parhau a byddwn yn defnyddio llawer mwy ar dechnegau Bwrdd Crwn. Mae gennym ni gyflwyniad BTF LGBTQ + fues i ynddo i'w rannu gyda'r staff ar gyfer Mis Pride a byddaf yn ei ddosbarthu i'r holl staff ei wylio cyn sesiwn. 

Unrhyw beth arall?

Mae sesiynau dysgu byr fel y rhain yn ddefnyddiol iawn i ysgogi sgwrs yn y sector a rhannu syniadau mewn lle diogel.

Mae rhoi caniatâd i chi'ch hun pan fyddwch chi'n brysur i neilltuo amser i ystyried safbwyntiau eraill a syniadau newydd, ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf, mewn fformat lled sgyrsiol / cyflwyniadol yn bwysig iawn i mi. Mae'n fy nghadw i'n arloesi ac yn ymwybodol.

Os gwnaethoch chi golli’r Gyfres Ddysgu neu os ydych chi’n awyddus i edrych ar y cynnwys ymhellach, gallwch weld popeth yma: Cyfres Ddysgu Chwaraeon Cymru 2021

Ar ôl i chi wylio neu wrando ar sesiwn, ystyriwch y canlynol efallai: 

  • Beth yw’r tri pheth allweddol rydych chi wedi’u dysgu o’r sesiwn (sesiynau)?
  • Pa negeseuon ydych chi’n uniaethu â hwy fwyaf? 
  • Nodwch dair neges, sut gallwch chi eu defnyddio yn eich rôl? Yn eich bywyd?
  • Os ydych chi'n hapus i rannu, byddem wrth ein bodd yn cael clywed am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu a sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r dysgu hwn.

Hoffem glywed eich adborth ar y gyfres lawn hefyd, dyma'r Gyfres Ddysgu gyntaf i ni ei chynnal a byddem wir yn gwerthfawrogi clywed eich meddyliau. Pan fydd gennych eiliad mae gennym ddiddordeb mewn cael gwybod: 

  • Beth fyddech yn hoffi mwy neu lai ohono?
  • Pe baem yn cynnal y gyfres eto, beth allem ei wneud yn wahanol yn eich barn chi?
  • Beth wnaeth eich presenoldeb yn y sesiwn (sesiynau) yn amser buddiol?
  • Beth ydi’r peth mwyaf rydych chi wedi’i ddysgu o’r sesiwn (sesiynau)? 
  • Unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu 

Os yw’n well gennych chi sgwrsio drwy eich adborth, cofiwch gysylltu â Claire Ewing (claire.ewing@sport.wales) neu Eleanor Ower (Eleanor.ower@sport.wales) a gallwn drefnu amser i sgwrsio.        

Rydyn ni wedi mwynhau dysgu gyda chi, diolch i chi am eich amser a’ch egni! 

Diolch

#DysguGydanGilydd