Skip to main content
  1. Hafan
  2. CLIP
  3. Cyfres Ddysgu Mai 2021

Cyfres Ddysgu Mai 2021

Os mai newid yw'r cysondeb newydd, sut gallwn ni baratoi ein hunain a'r rhai o'n cwmpas ni i berfformio'n dda yn yr amgylchedd yma?

 

Wrth i’r cyfyngiadau lacio ac wrth i ni weithio gyda'n cymunedau i agor mwy o gyfleoedd ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol, bydd yn hawdd i ni ddechrau rasio ar olwyn y bochdew unwaith eto! 

Yn ystod y Gyfres Ddysgu hon cawsom gyfle i fuddsoddi amser ac ystyried gyda’n gilydd sut gallwn fod ar ein mwyaf dyfeisgar mewn amgylchedd sy'n esblygu'n barhaus.

Gallwch ddarganfod ac ailwylio cynnwys y gyfres isod.

Rhoi Amser i Adlewyrchu 

Rydym yn eich gwahodd i adlewyrchu ar eich profiad o'r Gyfres Ddysgu - 

  • Beth yw’r prif bethau allweddol rydych chi wedi’u dysgu o'r Gyfres Ddysgu?
  • Pa negeseuon oedd yn taro deuddeg gyda chi fwyaf?
  • Ystyriwch dair neges, sut allwch chi eu cymhwyso i'ch rôl? I'ch bywyd?

Os ydych yn hapus i rannu byddem wrth ein bodd yn clywed yr hyn rydych wedi'i ddysgu a sut rydych yn bwriadu cymhwyso'r dysgu hwn. 

Cysylltwch a rhannu eich adborth!

Dyma’r Gyfres Ddysgu gyntaf i ni ei chynnal a byddem wir yn hoffi clywed eich barn. Pan mae gennych amser, mae gennym ddiddordeb mewn cael gwybod:

  • Beth fyddech yn hoffi gweld mwy neu lai ohono?
  • Pe baem yn cynnal sesiynau heddiw eto beth allem ei wneud yn wahanol yn eich barn chi?
  • Beth wnaeth yr amser wnaethoch ei dreulio yn ein sesiwn (sesiynau) yn amser gwerth ei dreulio?
  • Beth yw’r pethau mwyaf rydych chi wedi’u dysgu o’r sesiwn (sesiynau)?
  • Unrhyw beth arall yr hoffech ei rannu.

 

Os yw’n well gennych chi sgwrsio drwy eich adborth, cysylltwch â Claire Ewing (claire.ewing@sport.wales) neu Eleanor Ower (Eleanor.ower@sport.wales) a gallwn drefnu amser i ni siarad.                 

Rydym wedi mwynhau dysgu gyda chi, diolch i chi am eich amser a’ch egni!

Diolch yn fawr

#DysguGydanGilydd