Skip to main content

Stwff Diddorol

Blogiau ac Erthyglau

Her Creu Arferion Tegwch Hiliol 21 Diwrnod ELA

Am 21 diwrnod, gwnewch un peth i wella eich dealltwriaeth o bŵer, braint, goruchafiaeth, gormes a thegwch.  

Ysgrifennu Cofiant

Mae Dianna Raab yn awgrymu bod proses o ysgrifennu cofiant yn un ffordd o adlewyrchu ar brofiadau, nodi'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu, sut cawson ni ein newid a sut rydyn ni'n teimlo ar hyn o bryd am yr hyn rydyn ni wedi mynd drwyddo. Efallai ei bod hi'n amser rhoi beiro ar bapur.

Cwestiynau adlewyrchu ar gyfer arweinwyr sy’n delio â COVID-19.

Gall gofyn cwestiynau meddylgar gefnogi cadarnhau’r pair o brofiadau a thynnu rhywbeth gwerthfawr ohonynt.

Newid Sengl, Dwbl a Threbl

Un o'r rhesymau pam ein bod weithiau'n ei chael yn anodd gwneud i newid ddigwydd yw ein bod yn ceisio creu'r math anghywir o newid! Mae 3 math mawr o newid, ac mae'n bwysig deall y gwahaniaethau rhyngddynt. 

 

Gwrando 

Y grefft o greu canlyniadau diymdrech, sut i ddilyn llwybr haws, pleserau symlrwydd a mwy gyda Greg McKeown ar y Tim Ferriss Show

“Os byddwch chi'n canolbwyntio ar yr hyn sydd gennych chi, rydych chi'n ennill yr hyn sy’n ddiffygiol. Ac os ydych chi'n canolbwyntio ar yr hyn sy’n ddiffygiol, rydych chi'n colli'r hyn sydd gennych chi.” Greg McKeown

Anelu’n uchel drwy gadw eich traed ar y ddaear: Tim Peake ar Bodlediad High Performance

Cyfle i wrando ar y gwersi bywyd mae Tim wedi'u dysgu o'i yrfa ryfeddol hyd yn hyn. 

 

Gwylio

Cyflwyniad i sgiliau adlewyrchu

Sesiwn o Gyfres Dysgu Chwaraeon Cymru. Yn y sesiwn yma rhannodd Sue Blight rai technegau adlewyrchu allweddol a chyflwynodd sut gallant wella eich perfformiad yn y gwaith ynghyd â chynyddu eich siawns o gyflawni nodau bywyd allweddol. Cyflwynodd Sue dechnegau a fydd yn eich rhoi chi mewn sefyllfa dda drwy gydol eich gyrfa.

Y tu mewn i feddwl meistr ar ohirio pethau gyda Tim Urban – Sgwrs TED

Mae Tim Urban yn gwybod nad yw gohirio pethau’n gwneud synnwyr, ond nid yw erioed wedi gallu cael gwared ar ei arfer o aros tan y funud olaf i wneud pethau.