Skip to main content

Adlewyrchu ar Newid

Carly Jackson, Seicolegydd Chwaraeon

Pan ofynnwyd i mi ysgrifennu’r darn yma sylwais fy mod yn cael fy nhynnu i ddechrau at y syniad o ‘googlo’ y diffiniad o ‘Newid’ fel man cychwyn. Ond wedyn gofynnais i mi fy hun, “ydi newid yr un peth mewn gwirionedd i bawb?”.

Dydw i ddim yn honni fy mod i’n arbenigwr ar Newid; ond rydw i wedi profi Newid yn fy mywyd; mae pob un ohonom ni wedi profi hynny. Rydw i’n credu bod beth yw Newid yn dibynnu ar yr ystyr mae rhywun yn ei wneud o'r digwyddiad neu'r profiad o Newid. Ni yw’r arbenigwyr ar ein profiad ein hunain o Newid. Gan gofio hyn, rydw i'n cynnig rhai adlewyrchiadau personol ar yr hyn y mae Newid yn ei olygu i mi, a'r hyn rydw i wedi sylwi arno am Newid yn fy rôl fel Seicolegydd Clinigol sy'n cefnogi eraill ar adegau o ofid.

Rydw i'n credu bod Newid yn brofiad unigol. Er enghraifft, mae rhai pobl yn cyhoeddi eu bod yn hoffi Newid, ac eraill byth eisiau i Newid ddigwydd. Rydw i'n chwilfrydig am beth sy'n caniatáu i bobl brofi gwahanol berthnasoedd â Newid. Tybed ydi Newid yn teimlo'n fwy cyfforddus pan rydyn ni’n teimlo bod gennym fwy o reolaeth drosto? Neu pan welwn fod gennym fwy o bŵer na'r broses Newid ei hun?

Ond mae Newid yn digwydd o'n cwmpas ni, neu i ni, drwy'r amser dydi. Os felly, sut ydyn ni'n ymdopi neu'n rheoli neu ddim yn sylwi ar hyn hyd yn oed? Pam y gall Newid fod yn gyfrwys fel hyn weithiau?

Rhedwyr Parkrun

 

Mae newid yn teimlo'n llai cyfrwys pan gawn ein tynnu i ddiffinio dau bwynt mewn amser a'n hannog i wneud cymariaethau rhwng y rhain. Wedyn daw’n ddeniadol llunio barn rhwng y ddau bwynt yma, fel arfer: ‘Da’; neu ‘Drwg’. Ni allaf beidio â phendroni: Pryd mae'r farn yma’n ddefnyddiol neu o help? Oes barn arall y gallem ei mabwysiadu? Pam rydyn ni'n cael ein denu neu ein hannog i lunio barn? Pa swyddogaeth sydd gan hyn? Ac i bwy?

Un profiad diweddar o Newid yw byw gyda COVID-19. Pan oedd yn newydd i’n bywydau ni roeddem yn siarad yn llawn dyhead am ‘ddychwelyd i normal’ oherwydd ein bod wedi sylwi ers y cyfnod clo cychwynnol bod pethau wedi Newid er gwaeth. Ond wrth i amser fynd heibio, fe wnaethon ni ddechrau dweud ‘normal newydd’. I mi mae hwn yn Newid diddorol mewn iaith. Efallai ei fod yn adlewyrchu pa mor gyfforddus rydyn ni wedi dod ar ôl dod i arfer â'r gwahaniaeth y mae COVID-19 wedi'i greu yn ein bywydau ni, neu ddod yn gyfarwydd ag ef. Ond ni ddaeth y Newid yma’n hawdd. Rydyn ni’n gorfod byw drwy gyflwr o argyfwng, anesmwythyd ac ansicrwydd gyda'n gilydd i gyrraedd y pwynt yma.

Yn gyffredinol, mae Newid yn golygu symud amser ymlaen. Rydw i'n gweld Newid fel elfen gyson; ar adegau, yn cael ei dynnu i mewn i'n hymwybyddiaeth yn fwy nag eraill. Fodd bynnag, mae'r rheswm pam mae ein hymwybyddiaeth yn cael ei thanio’n dweud mwy wrthym am ein profiadau o Newid na'r Newid ei hun.