Skip to main content
  1. Hafan
  2. CYNLLUNIAU TEITHIO COVID-19 CHWARAEON CYMRU
  3. ADDYSG AC YMDDYGIAD

ADDYSG AC YMDDYGIAD

  • Defnyddiwch wybodaeth ddibynadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth am bandemig COVID-19 ar gyfer athletwyr a'r rhai sy'n ymwneud â'u gofal.
  • Yn dilyn y sesiwn un i un gydag athletwyr a staff, os oes unrhyw anghenion addysgol penodol yn dod i’r amlwg, gall Chwaraeon Cymru helpu i gyfeirio a dosbarthu unrhyw wybodaeth ddiweddar berthnasol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Rheoli ymddygiad gartref neu y tu allan i'r swigen hyfforddi yw un o'r heriau mwyaf i ni o hyd. Mae pawb wedi gweithio'n eithriadol galed i greu amgylcheddau hyfforddi diogel i'r athletwyr a'r staff dros y misoedd diwethaf. Er mwyn i chwaraeon barhau i hyfforddi fel hyn, mae'n hanfodol bod yr ymddygiadau hyn yn cael eu cynnal wrth deithio dramor y tu allan i'r swigen hyfforddi.
  • Rhaid cael deialog agored gydag athletwyr ynghylch disgwyliadau ac ymddygiad wrth deithio.
    • Byddai'n fuddiol cwblhau hyn ymhell cyn gadael.
    • Gallai sesiynau grŵp fod yn fwy defnyddiol i hyrwyddo trafodaethau.
    • Os yw'n bosib, dylid ymarfer ymddygiadau priodol cyn teithio fel bod athletwyr a staff yn dod yn gyfarwydd â phrotocolau
    • Gwneud amser yn barhaus/rheolaidd i adolygu ymddygiadau wrth deithio, i roi sylw i unrhyw faterion neu bryderon yn brydlon.
    • Bod yn glir ynghylch canlyniadau peidio â glynu wrth unrhyw brotocolau a gweithdrefnau.
    • Cyfleu negeseuon cyson a chlir i athletwyr.
    • Creu cyfleoedd i athletwyr rannu straeon am eu profiadau teithio ar draws gwahanol chwaraeon.

 

Edrychwch ar ein graffeg gwybodaeth sy’n cynnwys cyngor i athletwyr sy’n teithio yn ystod COVID-19.