Skip to main content
  1. Hafan
  2. CYNLLUNIAU TEITHIO COVID-19 CHWARAEON CYMRU
  3. CYNLLUNIO SENARIOS A CHYNLLUNIAU WRTH GEFN

CYNLLUNIO SENARIOS A CHYNLLUNIAU WRTH GEFN

Mae'n bwysig cwblhau'r holl gynllunio senarios ar gyfer athletwr neu aelod o staff sy'n datblygu symptomau COVID-19 neu sy'n cael canlyniad prawf positif heb symptomau wrth deithio. Rhaid cael pob cynllun wrth gefn angenrheidiol yn ei le. Dyma rai ystyriaethau pwysig:

 

• Y posibilrwydd o ganlyniadau profion positif dro ar ôl tro dros gyfnod estynedig a'r goblygiadau ymarferol a chost cysylltiedig os nad yw'r athletwr/ aelod o staff yn gallu teithio adref.

• Argaeledd profion i wladolion tramor yn y wlad rydych yn bwriadu teithio iddi.

• Gofynion mynediad y wlad rydych yn bwriadu teithio iddi mewn perthynas â phrofi a rheolau cwarantin  

• Lefel y ddarpariaeth gofal iechyd sydd ar gael yn y wlad rydych yn ymweld â hi (gofal meddygol acíwt/uned gofal dwys). 

• Ystyriwch y gost ariannol sy'n gysylltiedig pe bai cyfyngiadau symud lleol neu genedlaethol yn cael eu cyhoeddi yn y wlad rydych yn ymweld â hi. Gall hyn ddigwydd heb fawr ddim rhybudd gan arwain o bosib at aros am gyfnod estynedig yn y wlad. 

• Mae'n bwysig bod hebryngwr sy'n briodol i oedran yr athletwr yn cael ei benodi cyn teithio fel rhan o'r cynllunio wrth gefn. Dylid cynnwys y hebryngwr ym mhob cam o'r broses cynllunio i deithio. 

• Ystyriwch yr effaith ar y rhaglen hyfforddi ddomestig os bydd y swyddog COVID neu'r hyfforddwr yn datblygu symptomau/os bydd yn cael canlyniad prawf positif heb symptomau neu os oes angen iddo aros yn y wlad dramor fel hebryngwr. 

• Ystyriwch logisteg cludo gartref yn y senario waethaf bosib.