Skip to main content
  1. Hafan
  2. CYNLLUNIAU TEITHIO COVID-19 CHWARAEON CYMRU
  3. DATBLYGU ASESIAD RISG PENODOL I DEITHIO

DATBLYGU ASESIAD RISG PENODOL I DEITHIO

Mae'n ofynnol i'r gamp ysgrifennu asesiad risg teithio penodol ar gyfer pob taith sy’n cael ei chynllunio. Mae angen i'r ddogfen asesiad risg ystyried yr holl senarios gwahanol a allai ddigwydd tra byddant dramor. Isod ceir canllaw ar gyfer y prif ystyriaethau wrth ysgrifennu eich dogfen asesiad risg gyda rhai dolenni defnyddiol: 

 

  • Dylai Swyddog Meddygol Covid fod yn rhan o'r broses cynllunio teithio a chytuno ar unrhyw ddogfennau asesu risg teithio a phrotocolau teithio penodol. 
  • Argymhellir bod athletwyr / staff cefnogi sydd â phroblemau iechyd sylfaenol yn datblygu cynlluniau asesu risg a lliniaru unigol. 
  • Bydd angen i Swyddog Meddygol Covid fod â'r gallu i ddarparu cefnogaeth o bell i unrhyw athletwyr neu aelodau o staff sy'n teithio os bydd ei angen arnynt. 
  • Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer sefydliadau chwaraeon ac unigolion  elitaidd yn y DU sy'n teithio i gystadleuaeth neu hyfforddiant y tu allan i'r DU yma
  • Dylid dilyn cyngor ar deithio tramor (gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws, diogelwch, gofynion mynediad a rhybuddion teithio) a’i adolygu’n achlysurol cyn teithio i sicrhau bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn gysylltiedig â COVID-19 yn cael ei chynnwys yn briodol mewn cynlluniau teithio.  
  • Ystyriwch beth fydd yn digwydd os cyhoeddir rhybudd teithio gan Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu (FCDO ). 
  • Edrychwch ar lefel bresennol yr heintiau COVID-19 yn y wlad rydych yn bwriadu teithio iddi yma
  • Edrychwch ar y cyfyngiadau lleol yn y DU ar gyfer y gallu i deithio. Bydd y cyfarwyddyd ar gyfer teithio’n amrywio ar draws lefelau rhybudd COVID-19. Ar hyn o bryd mae 4 lefel rhybudd yng Nghymru. Caniateir i’r grŵp Craidd Elitaidd barhau i hyfforddi ym mhob un o’r 4 lefel rhybudd
  • Bydd athletwyr a chwaraeon elitaidd angen caniatâd arbennig i deithio. Cymeradwyir caniatâd i deithio drwy gyfrwng y Grŵp Chwaraeon Cenedlaethol (NSG).”
  • Ystyriwch y risg o deithio yn erbyn budd. Oes unrhyw gystadlaethau domestig eraill y gallech eu mynychu? 
  • Ystyriwch yr holl gystadlu yn erbyn risgiau a gweithdrefnau gwersyll wrth gynllunio.