Skip to main content
  1. Hafan
  2. CYNLLUNIAU TEITHIO COVID-19 CHWARAEON CYMRU
  3. DULL PERSON GANOLOG O WEITHREDU

DULL PERSON GANOLOG O WEITHREDU

  • Gall y posibilrwydd o deithio godi pryderon ymhlith athletwyr a staff, byddwch yn sensitif i'w hamgylchiadau unigol presennol yn y cyd-destun chwaraeon a’r tu allan iddo. Mae'n bwysig deall teimladau'r unigolyn am y posibilrwydd o deithio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael sgwrs gynnar a rheolaidd gyda phob aelod o'r tîm sy’n cael ei ystyried ar gyfer teithio rhyngwladol.  
  • Mae'n bwysig darparu fforwm lle gall aelodau'r tîm godi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Dylai'r gamp ystyried trefnu cyfarfod un i un gyda'r aelod o'r tîm a swyddog meddygol COVID-19 os oes unrhyw bryderon penodol am ei amgylchiadau unigol.  
  • Dylai cynlluniau asesu risg fod ar gael yn hwylus a dylid rhannu protocolau teithio gydag athletwyr/staff cyn gynted â phosib, ac yn rheolaidd yn ystod y broses o gynllunio taith. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw un a allai gael ei ystyried ar gyfer teithio yn gyfarwydd ag unrhyw brotocolau a gweithdrefnau ymhell cyn teithio. Gall hefyd helpu i dynnu sylw at unrhyw bryderon ynghylch y broses o deithio nad ydynt efallai wedi'u hystyried. 
  • Anogir chwaraeon i gasglu gwybodaeth gan athletwyr a staff ar ôl teithio, fel sail i deithio yn y dyfodol. Argymhellir rhannu gwybodaeth rhwng chwaraeon hefyd.  I gael gwybodaeth am lefydd y mae chwaraeon eraill wedi teithio iddynt eisoes, cysylltwch â [javascript protected email address]