Skip to main content
  1. Hafan
  2. CYNLLUNIAU TEITHIO COVID-19 CHWARAEON CYMRU
  3. PROSES DYCHWELYD I’R DU 

PROSES DYCHWELYD I’R DU 

Wrth gynllunio teithio rhyngwladol, mae’n hanfodol cadw at y canllawiau cyfredol ar gyfer dychwelyd i Gymru o dramor

Bydd y gofynion ynysu’n amrywio gan ddibynnu ar y wlad rydych yn dychwelyd ohoni – a yw ar y rhestr GOCH o wledydd neu’r rhestr OREN o wledydd

Dyma’r gofynion ar gyfer teithio i bob teithiwr;

  1. Rhaid i chi lenwi Ffurflen Lleoli Teithiwr cyn i chi gyrraedd y DU.
  2. Rhaid i chi fod â thystysgrif prawf cyn gadael sy’n dangos prawf COVID-19 negatif o fewn 72 awr cyn gadael – edrychwch ar y canllawiau yma. Nid yw plant dan 11 oed angen prawf.
  3. Rhaid i chi fod wedi trefnu eich profion ar ôl cyrraedd ymlaen llaw, i’w cwblhau ar Ddiwrnod 2 a Diwrnod 8 eich cyfnod ynysu o 10 diwrnod – edrychwch ar y canllawiau yma.  Nid yw plant dan 5 oed angen prawf.
    Mae’r pecynnau profi’n costio £210 a gellir eu harcheb drwy Borthol CFM.*

Ar gyfer chwaraeon Elitaidd yng Nghymru mae’r cyngor fel a ganlyn:

Galwad ffôn gychwynnol gyda'r tîm Meddygaeth Chwaraeon ar ôl dychwelyd i eithrio unrhyw gyswllt posib sylweddol â COVID-19 pan oedd yr athletwr dramor gyda'r gamp (h.y. sicrhau y cadwyd at brotocolau llym pan oedd yr athletwr dramor gyda'r gamp).

Waeth beth fo'r eithriad chwaraeon elitaidd, ni ddylai unrhyw unigolion sy'n dychwelyd o unrhyw wlad dramor fynychu safle a rennir gan AChC am o leiaf 5 diwrnod ar ôl iddynt gyrraedd yn ôl yn y DU. Argymhellir yn gryf bod Cyrff Rheoli Cenedlaethol yn cadw at yr un canllawiau ar gyfer y safleoedd dan eu rheolaeth. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am hyn at y CMO perthnasol a Swyddogion COVID-19 y safle. 

Ar ôl cyflwyno prawf llif Unffordd negatif, gall yr athletwr ddychwelyd i gyfleusterau hyfforddi Elitaidd a chystadlaethau. Bydd prawf llif unffordd positif yn golygu bod prawf PCR dilynol yn ofynnol. 
 

Cwblhau holiadur symptomau drwy PDMS bob dydd hyd at ddiwrnod 14. Dylai Warden COVID y gamp fonitro’r holiadur yn ddyddiol a dylid rhoi gwybod i’r Swyddog Meddygol COVID am unrhyw bryder.

Crynhoir y broses isod:                  

  • Diwrnod 0: Diwrnod cyrraedd Cymru / y DU (waeth beth yw’r amser cyrraedd)
  • Diwrnod 2: Prawf gorfodol y Llywodraet
  • Diwrnod 5: Cyflwyno Prawf PCR / Llif Unffordd negatif i ddychwelyd i gyfleusterau hyfforddi elitaidd / cystadlaethau
  • Diwrnod 8: Prawf gorfodol y Llywodraeth