Skip to main content

Aml-Sgiliau a Champau'r Ddraig

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Aml-Sgiliau a Champau'r Ddraig

Rydyn ni eisiau rhoi dechrau gwych i bob person ifanc yng Nghymru. Cynlluniwyd Aml-Sgiliau a Champau'r Ddraig i wneud hynny drwy helpu plant i deimlo'n hyderus a chymwys i chwarae a mwynhau amrywiaeth eang o chwaraeon.

Mae'n rhoi cyfle i blant 7 i 11 oed ddysgu sgiliau corfforol allweddol gan gynnwys tair elfen hollbwysig - hyblygrwydd, cydbwysedd a chydsymudiad.

Unwaith y bydd y sgiliau symud sylfaenol wedi'u meistroli, mae’r plant yn symud ymlaen i Gampau'r Ddraig lle cânt eu cyflwyno i athletau, criced, pêl droed, golff, hoci, pêl rwyd, rygbi a thennis.

SESIYNAU AML-SGILIAU A CHAMPAU’R DDRAIG

Cynhelir y sesiynau gyda thiwtoriaid cymwys mewn ysgolion cynradd, canolfannau hamdden a chlybiau ledled Cymru. Mae’r plant yn dysgu sgiliau hanfodol fel taflu a dal drwy ymarferion sgiliau hwyliog a gemau.

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod pob plentyn yn datblygu ar ei gyflymder ei hun. Dyma pam mae’r sesiynau’n cael eu teilwra i ddiwallu anghenion y person ifanc i gefnogi ei ddatblygiad corfforol yn llawn.

PA ADNODDAU SYDD AR GAEL?

Mae’r adnoddau a’r hyfforddiant wedi'u cynllunio i annog rhieni, athrawon, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr i gymryd rhan.

Mae’r adnoddau’n cynnwys y canlynol:

Cardiau gweithgarwch a chanllawiau

Cit ac offer gan gynnwys:

Disgiau Aer Cydbwysedd

Cylchoedd

Cylch Mawr

Smotiau Symud i Chwarae 

Peli Foli Ysgafn

SUT GALLAF I GAEL ADNODDAU AML-SGILIAU A CHAMPAU’R DDRAIG?

Mae Citbag yn hwb dysgu ar-lein i helpu i roi’r sgiliau, yr hyder a’r profiadau chwaraeon i bobl ifanc er mwyn iddynt fwynhau chwaraeon am oes.

Mae gennym adnoddau ar gyfer:

  • athrawon
  • hyfforddwyr
  • gwirfoddolwyr
  • rhieni neu warcheidwaid
  • dysgwyr

Creu cyfrif am ddim i gael mynediad i Citbag.