Skip to main content

Chwarae i ddysgu

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Chwarae i ddysgu

Boed yn Fathemateg, Saesneg neu Ddatblygiad Corfforol, mae plant yn dysgu drwy chwarae yn ystod y Cyfnod Sylfaen.

Chwarae i Ddysgu yw ein dull ni o annog plant 3 i 7 oed i ddysgu sgiliau symud allweddol.

Rydyn ni’n credu bod annog datblygiad corfforol yn ifanc yn hanfodol i feithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a chenedl iachach.

Mae datblygiad corfforol (neu lythrennedd corfforol) yn ymwneud ag annog datblygu sgiliau motor - fel rhedeg, neidio, dal a chicio - yn ogystal â sgiliau trin manylach, llai fel adeiladu blociau a llawysgrifen.

Mae helpu plant i ddatblygu egni a brwdfrydedd dros symud yn rhoi hyder iddynt a dechrau gwych mewn bywyd. Mae'n rhoi sylfaen gadarn i blant allu parhau â'u siwrnai chwaraeon – a'r cam nesaf yw Aml-Sgiliau a Champau'r Ddraig.

PWY ALL DDEFNYDDIO CHWARAE I DDYSGU?

Gall unrhyw un ddefnyddio Chwarae i Ddysgu – rhieni, gweithwyr iechyd proffesiynol, staff meithrinfa. Mae Chwarae i Ddysgu yn cynnwys:

Llyfrau stori llawn dychymyg sy'n annog plant i actio symudiadau creadigol gartref - o neidio tonnau ar lan y môr i ddal wyau draig

Cardiau sgiliau i helpu plant i ymarfer symudiadau fel neidiau seren, rhedeg a thaflu o dan y fraich

Cyfres o 16 o gemau hwyliog, yn ddelfrydol ar gyfer y grŵp oedran hwn, fel bod y plant yn gallu rhoi eu holl sgiliau newydd ar waith

SUT GALLAF I GAEL YR ADNODDAU CHWARAE I DDYSGU?

Mae Citbag yn hwb dysgu ar-lein i helpu i roi’r sgiliau, yr hyder a’r profiadau chwaraeon i bobl ifanc er mwyn iddynt fwynhau chwaraeon am oes.

Mae gennym adnoddau ar gyfer:

  • athrawon
  • hyfforddwyr
  • gwirfoddolwyr
  • rhieni neu warcheidwaid
  • dysgwyr

Creu cyfrif am ddim i gael mynediad i Citbag.