Skip to main content

Y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng – Sut mae wedi cefnogi chwaraeon yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng – Sut mae wedi cefnogi chwaraeon yng Nghymru

Wrth i’r cyfyngiadau symud daro’r DU, daeth pethau i stop i glybiau a gweithgareddau chwaraeon ledled Cymru.

Gadawyd caeau a chyrtiau llawn bwrlwm yn wag, cafodd ystafelloedd newid eu cloi a diffoddwyd y llifoleuadau. 

Doedd dim aelodau na chyfranogwyr yn dod drwy’r drysau, ac roedd llawer o glybiau’n cyfrif cost y biliau a’r costau yr oedd angen eu talu o hyd. 

Cafwyd cefnogaeth ar ffurf y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng. Cafodd cronfa o £200,000 gan Lywodraeth Cymru ei chyfateb gan £200,000 gan Chwaraeon Cymru. Darparwyd £200,000 pellach yn y diwedd gan Chwaraeon Cymru, gan olygu bod mwy na £600,000 wedi’i roi i fwy na 300 o ymgeiswyr ar ffurf cefnogaeth ariannol mewn argyfwng ar gyfer misoedd cyntaf y cyfyngiadau symud. 

Dyma beth wnaeth y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng ei gefnogi yn eich camp a’ch ardal leol chi. 

 

 Nifer y Ceisiadau a GefnogirCyfanswm y Cyllid
Blaenau Gwent16£30,252.00 
Pen-y-bont ar Ogwr6£19,645.00 
Caerffili15£40,889.00
Caerdydd21£37,901.00
Caerfyrddin24£37,897.00
Ceredigion9£21,873.00
Conwy16£24,188.00
Sir Ddinbych11£23,454.00
Sir Fflint14£25,212.00
Gwynedd13£30,917.00
Merthyr Tydfil9£15,986.00
Sir Fynwy9£18,074.00
Castell-Nedd Port Talbot21£29,140.00
Casnewydd11£20,323.00
Sir Benfro33£59,230.00
Powys26£30,105.00
RCT17£33,308.00
Abertawe24£39,928.00
Torfaen14£24,164.00
Bro Morgannwg11£21,928.00
Wrecsam14£13,156.00
Ynys Môn9£6,165.00 
Cyfanswm343£605,235.00
 Nifer y Ceisiadau a GefnogirCyfanswm y Cyllid
Pysgota2£2,619.00
Saethyddiaeth               2£3,100.00
Bowlio Lawnt81£130,103.00
Bocsio23£27,811.00
Canŵio2£5,300.00
Criced69£110,067.00
Croce1£1,000.00
Dawnsio2£1,546.00
Deifio2£2,800.00 
Marchogaeth2£1,537.00
Ffitrwydd1£1,000.00
Pêl-droed77£96,223.00
Golff18£78,538.00
Gymnasteg15£15,100.00
Judo1£300.00
Karate1£300.00
Aml-Chwaraeon16£43,350.00 
Arall2£8,667.00
Rhwyfo3£3,231.00
Rygbi14£43,637.00 
Hwylio1£5,000.00
Sboncen2£4,918.00
Syrffio Arbed Bywyd1£739.00
Syrffio2£3,217.00 
Tenis5£6,762.00 
Triathlon1£1,500.00 
Sgïo Dŵr1£420.00
Codi Pwysau5£6,150.00
Reslo1£300.00
Cyfanswm343£605,235.00

Astudiaethau Achos y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng

Cyllid argyfwng yn helpu Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd i gael cae y gallant fod yn falch ohono

Gallai Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd fod ag un o’r arwynebau chwarae gorau yn y byd rygbi yng Nghymru…

Darllen Mwy

Mae'r dawnsio’n parhau i DanceFit Cymru, diolch i gyllid argyfwng Chwaraeon Cymru

Mae’r goleuadau ymlaen o hyd a’r dawnsio’n parhau i DanceFit Cymru, diolch i gyllid argyfwng. …

Darllen Mwy

Brickfield Rangers: Cyllid argyfwng yn helpu i warchod clwb cymunedol mawr

Fe wnaeth Robbie Savage dorri ei ddannedd – ond nid ei wallt – yn chwarae i Brickfield Rangers a nawr,…

Darllen Mwy

Mae’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng ar gau nawr.                         

Os oes arnoch chi angen cefnogaeth mewn argyfwng i ddiogelu eich clwb neu eich gweithgaredd, edrychwch ar Gronfa Cymru Actif.