Skip to main content

Cyllid argyfwng yn helpu Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd i gael cae y gallant fod yn falch ohono

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Cyllid argyfwng yn helpu Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd i gael cae y gallant fod yn falch ohono

Gallai Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd fod ag un o’r arwynebau chwarae gorau yn y byd rygbi yng Nghymru yn fuan iawn – ychydig fisoedd yn unig ar ôl bod ag un o’r arwynebau gwaethaf. 

Mae cyllid argyfwng wedi galluogi’r clwb yng Nghaerllion i ddechrau trawsnewid ei gae a oedd yn edrych fel maes brwydr o’r Rhyfel Byd Cyntaf mor ddiweddar â mis Chwefror. 

Dyna pryd tarodd llifogydd difrifol Storm Dennis ardaloedd amrywiol o Gymru, gan adael llawer o gyfleusterau chwarae wedi’u difetha a’r tu mewn i adeiladau rhai clybiau’n llanast llwyr yn dilyn dŵr llifogydd budr.           

 

Mae dwsinau o glybiau rygbi, pêl droed a chriced wedi dioddef, yn ogystal â phobl hynod ofidus ar hyd a lled y wlad.   

“Roedd uchder y dŵr y tu mewn i’n clwb ni yn fetr a hanner – hyd at lefel y bar bron,” meddai ysgrifennydd clwb Old Boys, Maggie Turford.

“Roedd y difrod yn ddifrifol oherwydd roedd carthffosiaeth yn dod i mewn o’r afon oedd wedi gorlifo ar draws y caeau. Roedd yn drychinebus. 

“Fe gafodd y citiau i gyd, gan gynnwys rhai’r adrannau mini ac iau, eu difrodi yn llwyr gan eu bod nhw i gyd yn cael eu storio yma. Roedd yn ddychrynllyd.”

Wrth lwc, yn wahanol i lawer o glybiau, roedd Old Boys wedi llwyddo i gael yswiriant, felly mae’r clwb wedi cael ei lanhau a bydd yn cael ei atgyweirio yn fuan a’i ailffitio unwaith bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu llacio. 

Ond nid oedd yr yswiriant yn cynnwys y cae – sy’n golygu y byddai’r clwb wedi cael anhawster cael wyneb newydd iddo a’i ddraenio’n briodol, oni bai am grant cefnogi gwerth £3,000 o Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng drwy Chwaraeon Cymru.  

Bedwar mis yn ddiweddarach – heb unrhyw rygbi wedi’i chwarae arno ar ôl effeithiau negyddol y storm ac wedyn y cau i lawr a achoswyd gan y coronafeirws – fe allai’r cae fod yn edrych fel Cwrt Canol Wimbledon yn fuan iawn.   

Cynhaliwyd archwiliad ar y cae, gydag Undeb Rygbi Cymru’n talu amdano, a nawr mae’r clwb wedi dechrau ei atgyweirio a’i adnewyddu.         

“Mae gwaith sylweddol wedi cael ei wneud yn ystod y bythefnos neu dair wythnos ddiwethaf, ac mae llawer mwy i’w wneud, ond mae’r cadeirydd yn teimlo bod y cae’n edrych yn wych yn barod,” meddai trysorydd y clwb Andrew Turford.

“Oherwydd y llifogydd ac wedyn y cyfyngiadau symud, rydw i’n meddwl mai dim ond un gêm sydd wedi cael ei chwarae ar y cae ers mis Mawrth. Felly, fel mae pethau wedi digwydd, mae wedi cael digon o amser i adfer, ond byddai nawr yn amser da i gwblhau’r holl waith angenrheidiol arall.           

“Mae’r ffaith nad yw’r caeau draenio wedi bod yn ddigon da yn rheswm da dros eu gwella, oherwydd fe all gymryd mwy o amser i lifogydd gilio os nad yw’r draeniau hynny’n ddigonol. 

“Mae’n gyllid i’w groesawu o’r gronfa argyfwng ac mae’n golygu y gallwn ni edrych ymlaen at gael arwyneb chwarae gwych gobeithio pan fydd rygbi’n dychwelyd yn y diwedd.”

Roedd Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd yn seithfed yn Adran Dau y Dwyrain Cynghrair Genedlaethol URC pan gaeodd y llenni ar y tymor. 

Ond nid dim ond y XV cyntaf sydd wedi colli’r cyfle i chwarae. Mae gan y clwb adrannau ieuenctid a phlant, gan ddarparu rygbi ar gyfer y gymuned leol o’i ganolfan yn Yew Tree Lane, oddi ar Heol Brynbuga allan o Gaerllion. 

Gwelwyd pa mor bwysig yw’r clwb i’r gymuned yn yr help a gafodd pan darodd Storm Dennis, gan achosi difrod sylweddol i’r safle yma ac i glybiau eraill yn yr ardal, fel Brynbuga, Blackwood, Cross Keys, Bedwas a Ffynnon Taf.   

“Roedd gennym ni lawer iawn o wirfoddolwyr ac roedden ni’n lwcus mewn rhyw ffordd bod y llifogydd wedi dod jyst cyn dechrau hanner tymor,” meddai Maggie Turford.

“Fe ddaeth cymaint o rieni gyda’u rhai bach i helpu i lanhau a hefyd fe wnaeth y cefnogwyr dorchi eu llewys a chyfrannu. 

“Ond dim ond glanhau’r wyneb oedd yn bosib mewn gwirionedd. Roedden ni’n gwybod bod llawer o stwff yn mynd i fod wedi’i ddifrodi gyda phydredd ac felly mae wedi bod yn ymdrech fawr ceisio cael pethau’n ôl i fel roedden nhw – yn y clwb ac allan ar y cae.”

Er hynny, pan fydd rygbi’n dychwelyd, fe ddylai Old Boys Ysgol Uwchradd Casnewydd fod â chae i fod yn falch iawn ohono.           

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy