Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Telerau ac Amodau Grantiau

Telerau ac Amodau Grantiau

1. Mae’r cynnig (“Cynnig”) o gyllid grant (“Cyllid Grant”) a wnaed i chi (“Derbynnydd”) yn llythyr cynnig CChC (“y Llythyr Cynnig”) yn amodol ar y Telerau a’r Amodau hyn a bydd yn ddilys i’w dderbyn gan y Derbynnydd am gyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad gwneud y Cynnig, oni bai fod CChC wedi rhoi estyniad ar yr amser yn ysgrifenedig. Bydd amser yn allweddol yn y cyswllt hwn. Daw’r Cynnig i ben yn awtomatig ar ddiwedd y cyfnod hwnnw ac, os bydd angen cyllid o hyd gan CChC, bydd rhaid i’r Derbynnydd wneud cais o’r newydd.

 

2.       Mae’n rhaid i’r Derbynnydd ddynodi ei fod yn derbyn y Cynnig drwy lofnodi a dyddio’r ffurflen dderbyn a geir ar wrthddalen y Llythyr Cynnig a thrwy ddychwelyd yr wrthddalen i CChC. Dim ond wedi i CChC dderbyn yr wrthddalen wedi’i llofnodi fydd y cynnig yn cael ei dderbyn. Ni fydd unrhyw ddull arall o dderbyn yn effeithiol nac yn cael ei dderbyn gan CChC.

3.       Mae’r Llythyr Cynnig (ynghyd ag unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddo) a’r Telerau a’r Amodau hyn yn cynnwys y cytundeb llawn rhwng CChC a’r Derbynnydd mewn perthynas â’r Cyllid Grant (“y Contract Grant”) ac os bydd unrhyw beth yn anghyson rhwng y Llythyr Cynnig a’r Telerau a’r Amodau, cynnwys y Llythyr Cynnig fydd yn cael y llaw uchaf.

4.       Rhyddheir Cyllid Grant (yn llawn neu’n rhannol) i’r Derbynnydd ar sail y telerau, ar yr amseroedd, ac yn y dull a nodir yn y Llythyr Cynnig ac os bydd rhyddhau’r cyllid yn galw ar i’r Derbynnydd gyflawni neu gydymffurfio ag unrhyw ymrwymiad, bydd rhaid gwneud hynny mewn modd fydd er boddhad CChC.

5.       Swm y Cyllid Grant y manylir yn ei gylch yn y Llythyr Cynnig yw’r uchafswm fydd CChC yn ei dalu am y Prosiect.

6.       Mae’r cyllid y mae CChC yn ei ddosbarthu fel grantiau’n dod gan naill ai Lywodraeth Cymru neu’r Loteri Genedlaethol. Bydd dyletswydd CChC i dalu’r Cyllid Grant i’r Derbynnydd yn amodol bob amser ar CChC yn derbyn y cyllid gan Lywodraeth Cymru neu’r Loteri Genedlaethol, fel y bo’r achos.

7.       Bydd y Derbynnydd yn gwneud y canlynol:-

7.1      defnyddio’r Cyllid Grant ar gyfer y diben a nodir yn y Llythyr Cynnig (“y Prosiect”), fel y’i diwygiwyd neu yr amrywiwyd gyda chymeradwyaeth a chaniatâd ysgrifenedig CChC;

7.2      rhoi gwybod yn ysgrifenedig i CChC os yw’r Prosiect, ar ôl ei gwblhau, wedi cael ei gwblhau am lai na’r swm y lluniwyd cyllideb ar ei gyfer yn wreiddiol. Bydd hysbysiad o’r fath yn manylu ynghylch swm y tanwariant ar y Prosiect ac, os bydd CChC yn dweud bod hynny’n ofynnol, bydd y Derbynnydd yn ad-dalu neu, fel arall, yn rhoi cyfrif i CChC am y gyfran briodol (fel y penderfynir yn rhesymol gan CChC ond, fel rheol, bydd yn gyfran o gyfanswm y costau Prosiect y cyllidwyd ar eu cyfer ac y mae’r Cyllid Grant yn eu cynrychioli) o’r tanwariant ac, mewn unrhyw achos, ni fydd yn ofynnol i CChC dalu i’r Derbynnydd unrhyw ran o’r Cyllid Grant sydd heb ei dynnu i lawr bryd hynny;

7.3      cyflwyno i CChC adroddiadau ar gynnydd y Prosiect (gan gynnwys, heb gyfyngiad, gwybodaeth ariannol) yn unol â chais CChC o dro i dro, ynghyd ag unrhyw adroddiadau y manylir yn eu cylch yn y Llythyr Cynnig;

7.4      monitro llwyddiant y Prosiect a darparu i CChC unrhyw wybodaeth y mae ei hangen yn rhesymol er mwyn bodloni CChC bod y Prosiect yn cael ei weithredu’n briodol ac yn unol â thelerau’r Llythyr Cynnig;

7.5      caniatáu i CChC gynnal ymweliadau monitro neu werthuso perthnasol i’r Prosiect a bydd y Derbynnydd yn cydweithredu’n llawn â CChC yn y cyswllt hwn;

7.6      sicrhau y cydymffurfiwyd â’r holl ofynion monitro ac adrodd yn ôl mewn perthynas â’r Prosiect cyn cyflwyno unrhyw gais yn y dyfodol am gyllid grant mewn perthynas ag unrhyw brosiect arall. Ni fydd CChC yn ystyried unrhyw gais am grant yn y dyfodol os bydd unrhyw ofynion monitro neu adrodd yn

ôl heb eu bodloni;

7.7      cadw a chynnal llyfrau a chofnodion ariannol digonol mewn perthynas â’r Prosiect (gan gynnwys, heb gyfyngiad, y defnydd o’r Cyllid Grant) ac, ar gais, sicrhau bod llyfrau a chofnodion o’r fath ar gael ar gyfer eu harchwilio gan CChC neu unrhyw asiantau a enwebir ganddo;

7.8      ymatal rhag gwneud unrhyw newid neu amrywiad sylfaenol i’r Prosiect heb sicrhau caniatâd a chymeradwyaeth ysgrifenedig gan CChC;

7.9      rhoi gwybod ar unwaith i CChC am unrhyw newid sylfaenol yn amgylchiadau’r Derbynnydd neu am unrhyw beth a all effeithio ar y Prosiect; ac

7.10    arddangos, gosod neu gydnabod mewn unrhyw ffordd y Cyllid Grant sydd wedi’i ddarparu ar gyfer y Prosiect, fel y pennir gan CChC o dro i dro.

8.       Yn amodol ar gymalau 9 a 10 isod, bydd rhaid i’r Derbynnydd ad-dalu’r Cyllid Grant ar unwaith, a bydd unrhyw ymrwymiad ar ran CChC i wneud unrhyw daliadau pellach yn dod i ben ar unwaith, wedi i CChC roi rhybudd ysgrifenedig i’r Derbynnydd os bydd unrhyw un o’r digwyddiadau a ganlyn (“Achlysur o Dorri Cytundeb”) yn digwydd ar unrhyw adeg (boed cyn neu wedi talu’r Cyllid Grant yn llwyr i’r Derbynnydd):-

8.1      y Derbynnydd yn rhoi’r gorau i weithredu (oni bai ei fod yn uno â chorff arall neu fod corff arall yn cymryd ei le a bod y corff hwnnw’n gallu cwblhau’r Prosiect er boddhad CChC);

8.2      y Derbynnydd yn cael ei ddatgan yn fethdalwr, yn cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr neu’r derbynyddion, dan gytundeb gwirfoddol neu’n cael ei ddiddymu;

8.3      y Derbynnydd yn methu defnyddio’r Cyllid Grant ar gyfer y Prosiect;

8.4      y Derbynnydd yn methu cwblhau’r Prosiect oddi mewn i’r amser a nodir yn y Llythyr Cynnig neu oddi mewn i amser rhesymol, fel y pennir gan CChC;

8.5      y Derbynnydd wedi llenwi ei ffurflen gais ar gyfer y Cyllid Grant yn dwyllodrus, yn anghywir neu’n gamarweiniol o ran unrhyw fanylion sylfaenol;

8.6      os bydd y Derbynnydd, ar ôl derbyn y Llythyr Cynnig, yn ymddwyn ar unrhyw adeg yn dwyllodrus neu’n esgeulus, i’r graddau lle mae twyll neu esgeulustod o’r fath, ym marn CChC, yn cael effaith sylfaenol ar y Prosiect;

8.7      y Derbynnydd yn torri unrhyw rai o amodau’r Contract Grant; neu

8.8      ceir newid ym mherchnogaeth neu reolaeth y Derbynnydd.

9.       Os ceir Achlysur o Dorri Cytundeb mewn perthynas â Phrosiect sydd â nifer o elfennau amrywiol, bydd gan CChC hawl i gyflwyno hysbysiad o dan gymal 8 uchod mewn perthynas â’r elfen neu’r elfennau o’r Prosiect sydd wedi’u heffeithio, ond dal ati i gefnogi’r elfennau o’r Prosiect sydd heb eu heffeithio gyda Chyllid Grant.

10.      Os bydd CChC yn cyflwyno hysbysiad o dan gymal 8 uchod, wrth benderfynu ar swm y Cyllid Grant i’w ad-dalu, rhoddir ystyriaeth i unrhyw ran o’r Prosiect sydd, ym marn CChC, wedi’i gwblhau’n llwyddiannus cyn yr Achlysur o Dorri Cytundeb.

11.      Os bydd y Derbynnydd yn sicrhau (yn llwyr neu’n rhannol) neu’n adfer, yn gwarchod neu’n gwella asedau gan ddefnyddio Cyllid Grant (“Asedau”), bydd y Derbynnydd yn sicrhau nad ydynt yn cael eu gwerthu na’u gwaredu yn ystod eu hoes economaidd (fel y penderfynir gan CChC) (“Oes Economaidd”) oni bai fod (a) CChC yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig ymlaen llaw o’r gwerthu a (b) bod eu gwerth llawn ar y farchnad gyfredol yn cael ei wireddu. Ni fydd asedau’n cael eu gwerthu na’u gwaredu yn ystod eu Hoes Economaidd am bris llai na’r gwerth llawn ar y farchnad gyfredol heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CChC.

12.      Os bydd rhaid gwerthu neu waredu Asedau yn ystod eu Hoes Economaidd, bydd CChC yn derbyn cyfran briodol o’r elw net. Yn gyffredinol, bydd cyfran o’r fath ar gyfrannedd uniongyrchol i gyfran cost berthnasol yr Ased a dalwyd gyda’r Cyllid Grant. Gall CChC, yn unol â’i fympwy ei hun yn llwyr, ildio’r hawl yma os yw’n credu y byddai’n amhriodol o ystyried yr holl amgylchiadau. Hefyd, gall CChC ildio’r hawl yma ymlaen llaw, cyn unrhyw fwriad gwirioneddol i werthu neu waredu Asedau, ar yr amod bod:-

12.1    elw’r gwerthu neu’r gwaredu’n cael ei ddefnyddio er budd y Prosiect; a bod

12.2    trefniadau yn eu lle sy’n foddhaol ym marn CChC ar gyfer delio ag elw’r gwerthu neu’r gwaredu os yw’n fwy neu’n llai nag a ragdybiodd CChC yn wreiddiol.

13.      Ni fydd unrhyw Ased (gan gynnwys unrhyw dir neu adeiladau, heb gyfyngiad) yn cael ei ddefnyddio i godi morgais neu ffi yn ystod ei Oes Economaidd heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CChC.

14.      Os defnyddir unrhyw elfen o’r Cyllid Grant at ddiben recriwtio staff, personél neu wirfoddolwyr mewn cysylltiad â’r Prosiect (“Recriwtiaid”), cyfrifoldeb y Derbynnydd, ac nid CChC, fydd unrhyw Recriwtiaid o’r fath. Heb ragfarn i gyffredinoledd yr uchod, bydd holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau’r cyflogwr mewn perthynas â’r Recriwtiaid yn gorwedd gyda’r Derbynnydd yn unig, gan gynnwys, heb gyfyngiad, y cyfrifoldeb am unrhyw ddiswyddiadau, materion disgyblu, cwynion a materion ailddosbarthu. 

15.      Bydd y Derbynnydd yn sicrhau indemneb llawn i CChC rhag ac yn erbyn unrhyw gostau a thaliadau sy’n codi ym mha ffordd bynnag ac sy’n berthnasol i amddiffyn neu ddelio mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw hawliadau yn erbyn CChC a wneir gan neu ar ran unrhyw Recriwtiaid.

16.      Yn ystod cyfnod y Prosiect, bydd y Derbynnydd yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth a’r holl ddeddfau eraill perthnasol i iechyd a diogelwch, hybu cyfleoedd cyfartal, atal gwahaniaethu o unrhyw fath a sicrhau bod plant, pobl ieuainc ac oedolion bregus yn cael eu hamddiffyn, gan gynnwys, heb gyfyngiad, wrth ddenu Recriwtiaid.

17.      Os bwriedir caffael nwyddau, gwasanaethau neu waith gan ddefnyddio’r Cyllid Grant, bydd y Derbynnydd yn sicrhau bod gweithdrefn dendro gystadleuol yn cael ei gweithredu wrth ddyfarnu pob contract i gyflenwyr neu gontractwyr, oni bai fod CChC yn cytuno’n ysgrifenedig i ildio’r gofyniad hwn. Heb gyfyngu ar hawl CChC i

ganiatáu neu wrthod unrhyw ildio, fel y gwêl yn dda, efallai y caniateir ildio dan amgylchiadau fel contractau a fydd yn syrthio o dan y lefelau de minimis a bennwyd gan CChC neu am resymau technegol neu artistig neu i amddiffyn hawliau eithriol.

18.      Os yw’r Derbynnydd yn gorff cyhoeddus, bydd y Derbynnydd yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gartref ac Ewropeaidd berthnasol mewn perthynas â chaffael gan ddefnyddio Cyllid Grant.

19.      Mae’r Contract Grant yn bersonol i’r Derbynnydd ac ni all y Derbynnydd drosglwyddo nac aseinio ei ddiddordeb yn y Contract Grant heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan CChC. Gall CChC aseinio neu drosglwyddo ei ddiddordeb yn y Contract Grant ar unrhyw adeg heb ganiatâd y Derbynnydd.

20.      Bydd gan CChC hawl i ddatgelu unrhyw wybodaeth y mae wedi’i sicrhau gan y Derbynnydd yn ystod y cais am Gyllid Grant ac unrhyw wybodaeth y mae’n ei sicrhau gan y Derbynnydd yn unol â’r Contract Grant (“Gwybodaeth”) i sefydliadau atal twyll ac unrhyw sefydliadau eraill at ddibenion atal twyll. Gall sefydliadau o’r fath rannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill at ddibenion atal twyll. Gall y wybodaeth gynnwys data sy’n ddata personol dan ddarpariaethau Deddf Diogelu Data 2018.

21.      Bydd y Derbynnydd yn gwneud pob ymdrech resymol i gynorthwyo CChC i gydymffurfio â rhwymedigaethau o’r fath, fel y gorfodir ar CChC gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

22.      Bydd pob hysbysiad yn ysgrifenedig ac yn cael ei anfon gyda phost dosbarth cyntaf neu drwy ffacs, ar yr amod bod unrhyw ffacs yn cael ei gadarnhau o fewn pedair awr ar hugain (24) gan gopi cadarnhaol a anfonir gyda phost dosbarth cyntaf. Cymerir yn ganiataol bod hysbysiadau sydd wedi’u cyfeirio’n gywir ac a anfonir gyda phost dosbarth cyntaf wedi’u dosbarthu ymhen deugain ac wyth (48) o oriau wedi postio a chymerir yn ganiataol bod ffacs a anfonir i’r rhif cywir wedi’i dderbyn ar unwaith wrth ei yrru, ar yr amod ei fod yn cael ei gadarnhau fel y nodir uchod. Nid yw’n ddilys cyflwyno hysbysiadau drwy e-bost.

23.      Os bydd CChC yn methu gweithredu neu rannol weithredu unrhyw ddarpariaeth yn y Contract Grant, ni fydd hynny’n cael ei ystyried fel ildio unrhyw hawliau o dan y Contract Grant. Dim ond os yw’n ysgrifenedig fydd ildio unrhyw hawl dan y Contract Grant yn effeithiol a dim ond i’r amgylchiadau mae’n cael ei gyflwyno y bydd yn

berthnasol.

24.      Bydd unrhyw gyfeiriad yn y Telerau a’r Amodau hyn at y gyfraith yn gyfeiriad at y gyfraith a weithredir o dro i dro, gan roi ystyriaeth i unrhyw ddiwygiad, estyniad, cais neu fesurau ailfabwysiadu ac mae’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth eilradd berthnasol sydd mewn grym ar y pryd.

25.      Rheolir y gwaith o ffurfio, creu, cyflawni a gwirio dilysrwydd pob agwedd ar y Contract Grant gan gyfraith Cymru a Lloegr ac mae pawb sy’n rhan o’r contract yn ildio i awdurdod eithriol llysoedd Cymru a Lloegr.

Diogelu Data a Hysbysiadau Preifatrwydd   

26.      Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (sy’n masnachu fel Chwaraeon Cymru) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd a’ch gwybodaeth bersonol. Mae’r polisi hwn (ynghyd â’n telerau ar gyfer defnydd o’r wefan, ac unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) yn gosod y sail ar gyfer prosesu unrhyw ddata personol y byddwn yn eu casglu gennych chi, neu yr ydych yn eu darparu i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein harferion ynghylch eich data personol a sut byddwn yn eu prosesu. Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau (gan gynnwys ymweld â’r wefan hon), rydych yn derbyn ac yn rhoi eich caniatâd i’r arferion sy’n cael eu disgrifio yn y polisi hwn. 

27.      At ddibenion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol ((EU) 2016/679) (GDPR), y rheolydd data yw CYNGOR CHWARAEON CYMRU, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW. Rhif cofrestru ICO: Z5769715

28.      At ddiben y cais hwn am grant, y cynnig a’r broses, dyma’r wybodaeth rydym yn ei chasglu: 

  • Eich enw a’ch manylion cyswllt
  • Eich dewis o iaith
  • Eich sefydliad os yw’n berthnasol

 

Hefyd rydym yn casglu data cyfle cyfartal dienw am unrhyw hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ategol a fydd yn elwa o’r grant o bosib. Chwaraeon Cymru fydd Rheolydd Data’r wybodaeth hon.             

Os ydych yn gwneud cais am grant i Athletwr Elitaidd, byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich perfformiad a’ch iechyd i’n cynorthwyo ni gyda phrosesu eich grant.

29.      O ran pob un o’ch ymweliadau â’n safleoedd, efallai y byddwn yn casglu’r wybodaeth ganlynol yn awtomatig: 

  • gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys y cyfeiriad protocol (IP) Rhyngrwyd a ddefnyddiwyd i gysylltu eich cyfrifiadur â’r Rhyngrwyd, eich gwybodaeth mewngofnodi, y math o borwr a’r fersiwn, y gosodiad parth amser, y mathau a’r fersiynau plygio i mewn o borwr, y system weithredu a’r llwyfan;
  • gwybodaeth am eich ymweliad, gan gynnwys clicffrwd y Lleolyddion Adnodd Unffurf (URL) i, drwy ac o’n safle (gan gynnwys dyddiad ac amser); cynhyrchion neu wasanaethau rydych chi wedi edrych arnynt neu chwilio amdanynt; amseroedd ymateb tudalennau, camgymeriadau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau penodol, gwybodaeth am ryngweithio mewn tudalennau (fel sgrolio, cliciadau a chyrchu llygoden) a’r dulliau a ddefnyddiwyd i bori o’r dudalen ac unrhyw rif ffôn a ddefnyddiwyd i ffonio ein rhif gwasanaethau cwsmeriaid.

30.      Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni:

  • cyflawni ein rhwymedigaethau sy’n codi o lunio contract grant rhyngoch chi a ni a rhoi i chi’r gwasanaethau a’r wybodaeth rydych yn gofyn amdanynt gennym ni;
  • at bwrpas atal twyll a chyflawni dyletswyddau cyfreithiol eraill y mae’n ofynnol i Chwaraeon Cymru ymgymryd â hwy;
  • eich hysbysbu am newidiadau i’r safle neu i’n gwasanaethau;
  • sicrhau bod cynnwys o’n gwefan(nau) yn cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol ar eich cyfer chi a’ch cyfrifiadur.

 

31.      Ble rydym yn storio eich data personol: 

  • Mae gennym fesurau technegol a sefydliadol priodol yn eu lle i warchod rhag prosesu heb awdurdod neu anghyfreithlon ar eich gwybodaeth neu os caiff ei cholli, ei dinistrio neu ei difrodi’n ddamweiniol.
  • Mae’r holl wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni’n cael ei chadw ar weinyddion diogel yn Ardal Economaidd Ewrop, a ddarperir gan ein darparwyr gwasanaeth trydydd parti.
  • Os ydym wedi rhoi cyfrinair i chi (neu os ydych wedi dewis cyfrinair) sy’n galluogi i chi gael mynediad at rannau penodol o’n gwasanaethau, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yn gyfrinachol. Rydym yn gofyn i chi beidio â rhannu’r cyfrinair ag unrhyw un.

 

32.      Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi’r hawl i’r canlynol i chi:

  • gweld gwybodaeth sy’n cael ei chadw amdanoch chi, ond gallwn wrthod neu godi ffi am geisiadau sy’n ddi-sail neu’n ormodol.
  • cael gwybod pa fath o wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi.
  • cywiro unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi (er enghraifft, os yw’n anghywir).
  • dileu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, yn amodol ar ein rhwymedigaethau cyfreithiol.
  • cyfyngu ar sut rydym yn prosesu unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
  • trosglwyddo unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi i drydydd parti.
  • gwrthwynebu i ni gasglu, prosesu neu storio unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi.
  • peidio â bod yn destun penderfyniadau awtomatig (gan gynnwys proffilio).

 

Os ydych chi’n dymuno ymarfer unrhyw rai o’r hawliau hyn, anfonwch e-bost i [javascript protected email address] a byddwn yn fwy na pharod i helpu.

33.      Bydd unrhyw newidiadau a wneir gennym ni i’n polisi preifatrwydd o dro i dro yn cael eu nodi ar wefan Chwaraeon Cymru yn: www.privacy.sport.wales

34.      At ddibenion ymholiadau Diogelu Data cyffredinol neu er mwyn cysylltu â’n Swyddog Diogelu Data penodol, anfonwch e-bost i [javascript protected email address] neu ysgrifennwch at y Swyddog Diogelu Data, Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.