Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion y cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Mercher 16 Medi 2020 (drwy gynhadledd fideo)

Cofnodion y cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Mercher 16 Medi 2020 (drwy gynhadledd fideo)

Yn bresennol: Lawrence Conway (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft (Eitemau 1-5.3), Dafydd Trystan Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Hannah Murphy, Judi Rhys (Eitemau 1-7.5), yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale

 

Y Staff Yn Bresennol: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro), Sarah Powell, Paul Randle (PR), Graham Williams (GW), Liam Hull (LH), Owen Hathway (OH), Jane Foulkes (JF), Emma Henwood, Amanda Thompson (cofnodion). Arsylwyr: Steffan Roberts a Paul Kindred (Diwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru)

 

1.  Croeso/ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Rajma

Begum.

 

2.  Datgan budd

 

•      Ian Bancroft o ran 9.3 Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cymunedol, yn rhinwedd ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol CBS Wrecsam, un o bartneriaid Chwaraeon Gogledd Cymru.

•      Brian Davies o ran adroddiad y Cadeirydd a’r Bwrdd Gweithredol, Gymnasteg Cymru.

•      O ran cyfeirnod diweddariad Gwrth Gyffuriau UKAD 5.7: SW(29)37, yr Is-gadeirydd yn rhinwedd ei swydd fel aelod o Fwrdd UKAD a Nicola Mead-Batten yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd i UKAD.

 

3.  Cofnodion, Cofnod Gweithredu, Traciwr Penderfyniadau a Materion yn Codi

 

Roedd angen cywiriadau i'r cofnodion ar gyfer:

•      Eitem 4 Yr wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad y Cadeirydd a'r Bwrdd Gweithredol ynglŷn â'r gyllideb. I nodi bod y Prif Swyddog Gweithredol wedi diolch i swyddogion Llywodraeth Cymru am beidio â thorri cyllideb Chwaraeon Cymru yn ystod y flwyddyn ac am drafod y cais am warant pensiynau.

•      Eitem 5.4 Adolygiad o Gyfleusterau Cenedlaethol Chwaraeon Cymru, i nodi bod Chwaraeon

Cymru wedi gwneud cais am tua £180k i dalu am golledion o fis Mawrth i 30 Mehefin. Ar ôl gwneud y newidiadau hyn, derbyniwyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir.

 

Materion yn codi:

•      Eitem 4 yng nghyswllt Gwarant y Goron. Roedd PK yn mynd ar drywydd y mater hwn.

•      Eitem 5 grwpiau dychwelyd at chwaraeon: Cadarnhaodd BD fod cynrychiolwyr o'r sector chwaraeon masnachol wedi cael gwahoddiad i ymuno â'r grwpiau hyn. Roedd hyn yn cynnwys UK Active, CIMSPA a chyrff eraill yn y sector preifat, gan gynnwys ymgynghorwyr ffitrwydd.

 

4.  Adroddiad y Cadeirydd a’r Bwrdd Gweithredol – SW(20)31

 

Nododd Aelodau'r Bwrdd yr adroddiad a thynnodd y Prif Swyddog Gweithredol sylw at y canlynol:

 

•      Roedd y Cadeirydd wedi cael gwahoddiad ffurfiol i ymuno â Bwrdd UK Sport a byddai'n bresennol yn y cyfarfod nesaf ar 22 Medi 2020.

 

•      Adnabod Rhywedd: Cynhaliwyd trafodaeth gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) ar adolygiad Rygbi'r Byd o bolisïau sy'n ymwneud â chwaraewyr trawsryweddol. Roedd grŵp Cydraddoldebau ar y cyd HCSC yn adolygu ei sefyllfa. Nodwyd bod hwn yn fater hynod o gymhleth a bod ymchwil a dealltwriaeth yn datblygu yn y maes hwn. Byddai Chwaraeon Cymru yn gweithio gydag asiantaethau a chyrff perthnasol i ddeall y materion yn well. Roedd cyrff chwaraeon a ffederasiynau rhyngwladol yn gyrff annibynnol a nhw fyddai'n penderfynu yn y pen draw ar y rheolau h.y. IOC. Roedd Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod chwaraeon yn gynhwysol ond roedd hefyd yn cydnabod bod angen ystyried ffactorau fel iechyd a diogelwch athletwyr hefyd.

 

•      Cydraddoldeb/Mae Bywydau Du o Bwys: byddai bob HCSC a UK Sport yn defnyddio dull gweithredu ar y cyd a byddai hyn yn seiliedig ar ddull 'chwaraeon cyfan'. Byddai dau faes yn cael blaenoriaeth yn y lle cyntaf – casglu data a gwrando ar brofiadau'r rhai y mae hiliaeth yn effeithio arnynt.

 

•      Dychwelyd at chwaraeon: Roedd mwy o weithgareddau chwaraeon wedi gallu ailddechrau.

Roedd y Sefydliad yn ystyried sut gallai hyfforddiant elitaidd barhau petai mesurau cyfyngiadau symud yn cael eu gorfodi dros yr hydref a'r gaeaf. Cynhaliwyd trafodaeth fer ar

y bwlch cynyddol o ran anghydraddoldebau. Nodwyd bod cyfran y cyfranogwyr â nodweddion gwarchodedig mewn chwaraeon yn uwch na'r gyfran o fewn ffigurau’r boblogaeth gyffredinol, felly roedd angen dull mwy penodol o ymdrin â'r unigolion hynny.

 

•      Digideiddio mewn chwaraeon: Byddai papur yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd ym mis Tachwedd yn nodi argymhellion ar gyfer cwmpas y gwaith, lefel yr uchelgais a'r adnoddau sydd ar gael.

 

•      Wythnos Dysgu Staff 14-18 Medi: cafodd nifer o sesiynau ar-lein i staff eu cynnal yn ystod yr wythnos ac roedd lefel yr ymwneud wedi bod yn gadarnhaol.

 

•      Bord Gron y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: I'w gynnal ar 12 Hydref; byddai Chwaraeon Cymru yn cael cyfle i ddangos ei fod yn gyson â Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol a pha mor bwysig yw gweithgarwch corfforol. Byddai'r Prif Swyddog Gweithredol hefyd yn annerch seminar yr Archwilydd Cyffredinol.

 

•      Gweithgarwch corfforol mewn ysgolion: Roedd Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio canllawiau ac adnoddau ar y cyd a'u hanfon ymlaen at swyddogion addysg. Roedd swyddogion Ysgolion Cymunedol yn barod i ysgolion dderbyn y rhain. Byddai OH yn holi’r adran addysg.

 

•      Gymnasteg: Roedd adolygiad British Gymnastics yn cynnwys pob rhan o’r DU, ac yn cynnwys pob lefel o'r gamp. Roedd Gymnasteg Cymru yn cymryd rhan lawn yn yr adolygiad. Byddai Chwaraeon Cymru yn ymateb fel rhan o'i gylch gwaith fel aelod o Grŵp Chwaraeon Perfformiad Uchel y DU.

 

5.  Cynllunio Strategaeth ac Adfer

 

5.1 Adroddiad Cynllun Busnes 2020/21 Ch2 – SW(20)32

 

Roedd gweithgarwch dros y chwarter diwethaf wedi cyflawni'r blaenoriaethau y bu’n rhaid

canolbwyntio arnynt eto ac y cytunodd y Bwrdd arnynt yn y cyfarfod diwethaf:

➢    Dychwelyd at Chwaraeon – addasu chwaraeon ar lefel Gymunedol ac Elitaidd wrth i gyfyngiadau newid

 

➢    Cymorth ariannol – y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng, sy'n trosglwyddo i'r Gronfa Cadernid

Chwaraeon (SRF) a oedd yn cynnwys y gronfa mynediad agored Cronfa Cymru Actif (BAWF)

➢    Parhad busnes a dychwelyd i'r Canolfannau Cenedlaethol

➢    Deall effaith Covid19 ar chwaraeon yng Nghymru

➢    Cadw mewn cysylltiad - ymgysylltu â phartneriaid a staff er mwyn cyflawni strategaeth

Chwaraeon Cymru.

 

Byddai mwy yn cael ei wneud i wella’r broses o gofnodi asesiadau effaith. Y ffocws allweddol oedd cael chwaraeon i ddychwelyd, oedd yn gorfod addasu i amgylchiadau sy'n newid yn barhaus. Yr hyn a ddysgwyd yn sgil yr SRF oedd rhoi gwybod yn gyson i Chwaraeon Cymru sut roedd sefydliadau chwaraeon yn addasu i sefyllfaoedd newydd. Roedd disgwyl nifer cynyddol o geisiadau gan weithredwyr chwaraeon ar lawr gwlad. Rhoddwyd canllawiau i'r rhai llai profiadol a oedd yn teimlo bod y broses ymgeisio'n heriol.

 

5.2 Pecyn Adfer Chwaraeon

 

Nododd BD y byddai'r Dirprwy Weinidog Diwylliant Chwaraeon a Thwristiaeth yn cyhoeddi pecyn adfer chwaraeon gwerth £14m cyn bo hir. Roedd hyn yn ychwanegol at Gronfa Caledi Awdurdodau Lleol (a oedd yn cynnwys chwaraeon a hamdden). Diolchodd Chwaraeon Cymru i TWG a phartneriaid fel WSA ac UK Active am eu cefnogaeth. Roedd Chwaraeon Cymru yn falch iawn o fod wedi sicrhau'r cymorth hwn i'r sector a byddai'n gyfrifol am ei ddosbarthu. Byddai'r adran Digwyddiadau Mawr* yn gweinyddu ei chyfran benodol. Byddai gweithredwyr sector preifat ac

ymarferwyr llawrydd hefyd yn gymwys i wneud cais. Y negeseuon allweddol ar gyfer y gronfa fyddai

'diogelu, paratoi, ffynnu', gyda'r prif nod o helpu chwaraeon i ddychwelyd yn well ac yn fwy gwydn. Byddai'r gronfa'n weithredol tan fis Mawrth nesaf a byddai dull amrywiol yn cael ei ddefnyddio i

adlewyrchu camau datblygu, adfer a sefyllfa ymgeiswyr. Roedd cais ar wahân am gymorth adfer ychwanegol i Chwaraeon Cymru hefyd wedi'i gyflwyno a byddai'n cael ei ystyried ochr yn ochr â'r cyrff eraill sy'n cael nawdd gan Lywodraeth Cymru.

 

5.3 Blaenoriaethau Cynllun Busnes 2020/21 – SW(20)33

 

Edrychodd yr adroddiad hwn ar y meysydd blaenoriaeth newydd yn fanylach.

 

Galluogi Chwaraeon Cymru i ffynnu: y flaenoriaeth oedd datblygu diwylliant mewnol y sefydliad yn dilyn y broses ailgynllunio ddiweddar a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio gartref yn teimlo mewn cysylltiad a bod lles staff yn cael ei ystyried. Roedd cael staff i ddychwelyd i'r ddwy Ganolfan Genedlaethol hefyd yn rhan o'r maes gwaith hwn.

 

Dychwelyd at chwaraeon (yn cynnwys SRF a BAWF): Dychwelyd at weithgarwch oedd prif flaenoriaeth gwaith y partneriaid ac roedd yn debygol o barhau felly hyd y gellid rhagweld. Roedd y ffrydiau buddsoddi newydd yn fwy heriol i gapasiti Chwaraeon Cymru na'r fformat traddodiadol blaenorol ac roedd angen dull gweithredu ar draws y gyfarwyddiaeth. Roedd dychwelyd at chwaraeon hefyd yn cynnwys cymorth partneriaid, cyfathrebu, rhaglen dirnadaeth CLIP, ymchwil parhaus, gwasanaethau'r Sefydliad, atebolrwydd ac eiriolaeth partneriaid.

 

Model Buddsoddi: Byddai'r galw mwyaf ar staff yn ystod chwarteri cyntaf y flwyddyn ac wrth i hynny leihau, byddai'r gwaith ymgysylltu ar gyfer CSAP yn cynyddu.

 

Meysydd gwaith a fyddai'n stopio neu'n arafu dros dro:

•      Partneriaeth Gweithgarwch Corfforol Cymru: Ni ddisgwylid unrhyw ymgysylltu wedi'i gynllunio tan fis Ionawr 2021 ar y cynharaf. Roedd hyn yn cynnwys cydweithredu i gefnogi datblygiad proffesiynol/cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Byddai'r Gronfa Iach ac Actif yn parhau.

•      Cronfa Cenedl Actif – dim gweithgarwch wedi'i gynllunio nes bydd adolygiad llawn o BAWF.

 

•      Cynnig Hamdden Actif i Bobl 60 oed a hŷn – amserlen wedi'i diwygio i'w chyflwyno o fis Ionawr 2021 ymlaen (roedd angen rhywfaint o waith cynllunio ddiwedd 2020 ond roedd angen iddo fod yn ysgafn ynghyd ag ymrwymiad cyfathrebu)

•      Gwerthusiad Nofio Am Ddim – lleihawyd mewnbwn gwerthuso a gwybodaeth i reoli diwygiadau i fewnbwn/offer data UKRCS.

•      Gwobrau Chwaraeon Cymru - gohirio yn 2020

•      Adolygiad Cyfleusterau – asesiad o SWNC i'w ohirio dros dro.

•      Recriwtio staff – fesul cam yn unig

•      Gohirio rhoi'r system gyllid newydd ar waith tan 2021

•      Adolygiad o swyddogaeth y Bwrdd Gweithredol i'w ohirio.

 

Roedd y cynllun materion cyhoeddus ac eiriolaeth a'r hwb deallusrwydd chwaraeon yn mynd rhagddynt yn unol â'r blaenoriaethau uchod. Byddai'r tîm Arweinyddiaeth yn cynnal adolygiad rheolaidd a byddai'n ymwybodol o'r galwadau uwch neu is o ran capasiti ar draws pob maes.

 

CAM GWEITHREDU:            OH i ychwanegu amserlen a rhesymeg at y siart o feysydd gwaith a gafodd eu gohirio neu eu harafu dros dro.

 

Cymeradwyodd yr Aelodau'r Cynllun Busnes diwygiedig.

 

5.4 Dull Buddsoddi Mewn Partneriaid – SW(20)34

 

Yn wreiddiol, rhagwelwyd y byddai'r newid i'r lefelau buddsoddi newydd yn dechrau o 2020/21 ond roedd ansicrwydd sylweddol ynghylch lefelau posib cyllid yn y dyfodol yn sgil Covid19 ac o bosib hefyd yn dilyn etholiad Llywodraeth Cymru yn 2021. Cynigiwyd y dylid mynd ati fesul cam i weithredu er mwyn helpu i liniaru unrhyw effaith negyddol ar y newidiadau mewn cyllid. Byddai Chwaraeon Cymru yn cefnogi partneriaid i amddiffyn eu hunain a pharatoi ar gyfer amgylchiadau sy'n newid gan rewi unrhyw ostyngiadau mewn buddsoddiad am ddwy flynedd. Dim ond am gyfnod o ddwy flynedd y byddai penderfyniadau buddsoddi'n cael eu hystyried gyda phenderfyniadau

2022/23 yn cael eu gwneud ar sail ddangosol.

 

Cynigiwyd:

•      bod yr Arolwg ar Chwaraeon Ysgol (SSS) yn cael ei ohirio tan 2022 er mwyn gallu deall effeithiau Covid19 yn llawn, gan gynnwys unrhyw newidiadau tymor hwy i gyfraddau cymryd rhan mewn chwaraeon.

•      Byddai partneriaid sydd i fod i gael cynnydd yn eu buddsoddiad yn cael cynnydd graddol hyd

at y broses ailasesu yn seiliedig ar ganfyddiadau newydd yr SSS yn 2022. Byddent yn cael cynnig cymorth i sicrhau y gallent fodloni'r gofynion angenrheidiol o ran gallu.

•      Byddai cyllid partneriaid sydd i fod i gael llai o arian yn cael ei gadw ar y lefel maent yn ei chael ar hyn o bryd (2020/21). Byddai'r broses hon o rewi cyllid yn cael ei chapio i uchafswm o ddwy flynedd. Byddai cymorth yn cael ei gynnig i'r partneriaid hyn i'w helpu i baratoi ar gyfer gostyngiad posib yn y lefelau ariannu a chymorth yn y dyfodol er mwyn ystyried ffyrdd o wella perfformiad.

•      Yn dilyn y set nesaf o ddata SSS yn 2021, byddai gan bartneriaid gyfnod o dair blynedd ar y mwyaf i drosglwyddo'n llawn i'w trefniant ariannu newydd. Byddai hyn yn rhoi cyfnod o bum mlynedd ar y mwyaf i bartneriaid drosglwyddo i'r lefelau buddsoddi newydd.

 

Gofynnwyd i'r aelodau nodi y byddai angen £500k ychwanegol am y ddwy flynedd nesaf i fodloni'r cynnig hwn.

 

Byddai sgyrsiau parhaus yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru, felly roeddent yn gwbl ymwybodol o'r newid yn y dull buddsoddi a'r effaith bosib ar y sector.

 

Roedd Chwaraeon Cymru hefyd yn manteisio ar y cyfle i adolygu ei broses apelio gyffredinol. Byddai'r adolygiad yn ystyried dilyn prosesau apelio HCSC eraill a'r angen am broses gwyno ehangach sy'n gysylltiedig ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cymeradwyodd yr aelodau'r cynnig ond fe wnaethant fynegi eu pryder ynghylch gorfod dod o hyd i adnoddau ychwanegol i fodloni'r rhwymedigaeth. Byddai diweddariad pellach yn cael ei roi i'r Bwrdd maes o law.

 

5.5 Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol – SW(20)35

 

Roedd yr adroddiad yn nodi'r camau gweithredu arfaethedig i gyflawni'r amcanion cydraddoldeb ar y cyd y cytunodd y Bwrdd arnynt ym mis Chwefror. Byddai'r camau hyn yn cael eu gosod yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol Chwaraeon Cymru (SEP) a fyddai'n cael ei gyhoeddi ar-lein ddechrau mis Hydref. Dau faes ffocws allweddol o fewn yr SEP oedd ffurfio is-grŵp Amrywiaeth y Bwrdd a'r ymrwymiad ar y cyd sy'n cael ei wneud gan Chwaraeon Cymru a'r HSCS eraill i 'Hil mewn Chwaraeon'.

 

Byddai'r Bwrdd yn cael diweddariadau rheolaidd ar gynnydd a newidiadau i'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb drwy gydol y cylch pedair blynedd. Byddai Chwaraeon Cymru hefyd yn cyhoeddi cynnydd a chynllun wedi'i ddiweddaru fel rhan o'i adroddiad integredig blynyddol ar Ddyletswydd Cydraddoldeb/Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Cymeradwyodd yr Aelodau'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Strategol.

 

5.6 Newid Hinsawdd – SW(20)36

 

Cyflwynodd yr adroddiad hwn yr achos dros gyflogi'r Ymddiriedolaeth Garbon i asesu effeithiolrwydd y mesurau presennol a nodi'r camau gofynnol (gan gynnwys anghenion buddsoddi) i symud tuag at sefyllfa Carbon Niwtral erbyn 2030. I ddechrau, byddai'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar y ddwy Ganolfan Genedlaethol. Gall cwmpasu yn y dyfodol ymestyn i'r sector chwaraeon ehangach unwaith y cytunir ar y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Byddai fforwm gweithwyr yn cael ei gyflwyno i sicrhau ymgysylltiad staff. Ystyriwyd y cynnig hwn yng nghyfarfodydd ffurfiol y Cyngor Staff a lle’r oedd cynrychiolwyr Undeb y PCS yn bresennol. Cynigiwyd rhannu'r ddau yn ddau gam gydag adolygiad ar ôl y cam cyntaf cyn cychwyn ar yr ail gam:

•      Dadansoddiad Ôl troed carbon Cwmpas 1, 2, 3, £7.5k-£12k (llai o bosib oherwydd y data a gedwir eisoes ar y systemau rheoli amgylcheddol presennol)

•      Adolygiad o'r polisi a'r strategaeth bresennol a'r camau blaenorol a gymerwyd, 10k-15k

 

Rhagwelwyd y byddai adroddiad yr Ymddiriedolaeth Garbon yn cynnwys pa gamau y gallai Chwaraeon Cymru eu cymryd i ddileu ei ôl troed carbon. Roedd gwella'r system wresogi ym Mhlas Menai yn parhau yn flaenoriaeth hollbwysig ac roedd yr adroddiad gan ymgynghorwyr allanol i fod i gael ei gyhoeddi'n fuan.

 

Cymeradwyodd yr aelodau'r argymhelliad i logi gwasanaethau'r Ymddiriedolaeth Garbon.

 

5.7 Polisi Gwrth Gyffuriau UKAD – SW(20)37

 

Rhoddodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am waith gwrth gyffuriau UKAD mewn chwaraeon a gofynnwyd iddo gytuno i'w polisi newydd. Roedd Chwaraeon Cymru wedi bod yn gweithio ar hyn gydag UKAD ers mis Gorffennaf 2019 ac roedd wedi helpu gydag ymgynghoriad peilot ar ei fframwaith sicrwydd gan gynnwys digwyddiad a gynhaliwyd yn SWNC ym mis Mawrth. Parhaodd Chwaraeon Cymru i gefnogi UKAD gyda'i waith ar yr adolygiad Polisi Gemau Glân a'i raglenni addysg a oedd yn edrych ar athletwyr talentog ac adnodd newydd i rieni.

 

Roedd y Bwrdd Gweithredol yn fodlon ar y goblygiadau i Chwaraeon Cymru a'i bartneriaid chwaraeon. Nid oedd y newidiadau a’r cyfrifoldebau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â Chwaraeon Cymru wedi newid yn sylweddol ac roedd y gwahaniaethau diriaethol ar gyfer Chwaraeon Cymru fel a ganlyn:

•      Yr angen am ddynodi aelod o staff hyfforddedig i arwain ar faterion gwrth gyffuriau.

•      Yr angen am ddynodi aelod hyfforddedig o'r Bwrdd i arwain ar wrth gyffuriau ar lefel Bwrdd.

•      Ychwanegu'r gallu i ddarparu gwasanaethau cymorth brys ar gyfer unigolion a gefnogir ar hyn o bryd sydd wedi’u cyhuddo o ddefnyddio cyffuriau. Gofynnwyd am hyn oherwydd byddai rhai ymarferwyr gwyddoniaeth a meddygaeth mewn perygl o beryglu gofynion eu corff proffesiynol yn ogystal â chael effaith hollbwysig bosib ar les unigolyn. Roedd cyfyngiadau ar y cymorth hwn ac nid oes modd caniatáu cymorth ariannol.

 

Roedd y newidiadau sy'n ymwneud â chyrff rheoli cenedlaethol yn fwy arwyddocaol, fel y nodir yn atodiad 3. Y prif newid arall oedd y cyfeiriad o fewn y Polisi, yn bennaf Cymdeithas Olympaidd Prydain, Cymdeithas Baralympaidd Prydain a Chymdeithasau Gemau'r Gymanwlad y DU, a oedd i gyd wedi cytuno i ymuno â'r Polisi diwygiedig a nodi eu cyfrifoldebau yn ffurfiol.

 

Ar ôl i UKAD gael y caniatâd angenrheidiol, byddai'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn mynd drwy ei phroses gymeradwyo gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ac wedyn byddai'r Polisi'n cael ei lansio'n ffurfiol. Gan fod cydymffurfio â'r Polisi yn

amod cymhwysedd i dderbyn gwasanaethau ac arian cyhoeddus, byddai UKAD yn parhau i gysylltu â

Chwaraeon Cymru o ran statws cydymffurfio cyrff rheoli cenedlaethol a ariennir. Dylai bod modd cynnig gwell dealltwriaeth o amseru'r camau hyn ar ôl i bob HCSC gymeradwyo'r Polisi.

 

Cymeradwyodd yr Aelodau'r argymhelliad i ymrwymo i'r Polisi newydd. Dewiswyd Leigh Robinson fel arweinydd y Bwrdd. Roedd yr aelod o staff fyddai'n gyfrifol am arwain ar faterion gwrth gyffuriau i'w gadarnhau.

 

5.8 Cydnabyddiaeth Padel Prydain – SW(20)47

 

Roedd y papur hwn yn gofyn i'r Bwrdd gefnogi argymhelliad Panel Cydnabod y DU i gydnabod Padel fel disgyblaeth tennis a'r Gymdeithas Tennis Lawnt (LTA) fel ei gorff rheoli

cenedlaethol. Cymeradwyodd Bwrdd Chwaraeon Lloegr yr argymhelliad yn ei gyfarfod ar 6 Mai.

Roedd nodyn i egluro sut roedd y gamp yn darparu ar gyfer athletwyr anabl ac yn sicrhau bod y gamp yn gynhwysol yn ei dull gweithredu.

 

Cymeradwyodd yr aelodau'r argymhelliad.

 

6.  Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc

 

Nid oedd unrhyw gynrychiolydd o Grŵp Llywio’r Llysgenhadon Ifanc yn bresennol gan fod oedi wedi bod o ran y broses ddethol. Nododd yr aelodau'r adroddiad ac roedd faint o waith yr oedd y Llysgenhadon Ifanc wedi gallu ei wneud, er gwaethaf amgylchiadau anodd, wedi creu argraff arnynt.

 

CAM GWEITHREDU:            GW/JO i annog yr Youth Sport Trust a'r YASG i ddatblygu’r fenter Panel

Ieuenctid.

 

7.  Cyllid, Risg a Sicrwydd

 

7.1 Cyfrifon Statudol 2019/20 – SW(20)38

 

Cafodd y Bwrdd dair set o gyfrifon wedi’u harchwilio.

•      Cyngor Chwaraeon Cymru ac Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru (a archwilir gan

Archwilio Cymru)

 

•      Cyfrif Dosbarthu’r Loteri Cyngor Chwaraeon Cymru (a archwilir gan y Swyddfa Archwilio

Genedlaethol)

•      Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru (a archwilir gan Archwilio Cymru)

 

Cafodd y Bwrdd hefyd:

•      Archwiliad o’r Adroddiad Cyfrifon a Llythyr Rheoli gan Archwilio Cymru

•      Adroddiad Cwblhau Archwiliad Cyfrif Dosbarthu’r Loteri Cyngor Chwaraeon Cymru 2019/20 - Datganiad Ariannol gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol

 

Adolygwyd y cyfrifon wedi’u harchwilio gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn eu cyfarfod diwethaf ar 31 Gorffennaf ac argymhellodd y Bwrdd eu cymeradwyo.

 

Mae naratif McCloud yn y 'Digwyddiadau ar ôl y Cyfnod Adrodd' bellach wedi'i ddileu gan fod prisiad AON yn ddigonol i gydnabod atebolrwydd McCloud. Adolygodd tîm technegol Swyddfa Archwilio Cymru hyn a dywedodd nad oedd gwahaniaeth sylweddol rhwng yr addasiad a fyddai'n cael ei gyfrifo o dan yr ateb arfaethedig a'r hyn a ddarparwyd yn wreiddiol gan AHN Hewitt. O ganlyniad,

nid oedd angen unrhyw addasiad cyfrifyddu, ac nid oedd angen y PBSE (datgeliad nad yw'n addasu)

o ran McCloud.

 

Ychwanegwyd geiriad ychwanegol ynghylch prisio adeiladau a ddefnyddiwyd yn y prisiad pensiwn o dan nodyn 18 yn y ddau gyfrif oherwydd effaith Covid19. Roedd Pwyslais ar Fater wedi'i gynnwys yn Nhystysgrif yr Archwilydd yn y cyfrifon Cyfunol a chyfrifon y Loteri i adlewyrchu hyn. Nid oedd hyn yn unigryw i Chwaraeon Cymru ond ar draws pob sefydliad â phensiynau Awdurdodau Lleol.

 

Cymeradwyodd yr aelodau'r tair set o gyfrifon wedi’u harchwilio a chydnabod eu bod wedi derbyn yr

ISO260s.

 

7.2 Adroddiad Cyllid Ebrill-Gorffennaf 2020 – SW(20)39

 

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2020 yn seiliedig ar gyfrifon rheoli mewnol drafft a heb gynnwys addasiadau ar gyfer gofynion adrodd statudol. Nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

7.3 Trosolwg Hirdymor 2020/2025 – SW(20)40

 

Rhoddodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf am y trosolwg tymor hwy yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bresennol o effaith Covid19. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol amcangyfrifwyd y byddai Plas Menai yn cyflawni 10% o'i refeniw arferol ar y gorau, a SWNC 18%. Yr amcangyfrif gorau ar gyfer 2021/22 o ran y ddwy Ganolfan gyda'i gilydd oedd 60%, ac 80% gyfer 2022/23.

 

Amcangyfrifwyd bod y colledion refeniw presennol ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21 tua £1,298k. Roedd hyn yn cydnabod gwerth hawliadau o dan y JRS a'r mesurau rheoli costau a gymerwyd i leihau gwariant yn ystod y cyfnod o weithgarwch is.

 

Derbyniodd Chwaraeon Cymru gyllideb gyfalaf flynyddol o £345k a fyddai'n cael ei defnyddio i ddiwallu anghenion sylfaenol y Canolfannau a’i weithrediad corfforaethol. Mae'r gyllideb flynyddol hon wedi bod yn annigonol ac ystyried oedran y seilwaith presennol.

 

Ar ddiwedd 2018/19 gwelwyd buddsoddiad cyfalaf newydd o £5m yn y sector a chafodd ei ddosbarthu drwy'r cynllun Lle i Chwaraeon. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol roedd £3m wedi'i nodi at ddibenion tebyg. Roedd ymateb y sector chwaraeon i'r buddsoddiad newydd hwn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac roedd yn caniatáu i welliannau ystyrlon gael eu gwneud. Cafodd rhagdybiaeth o

£5m y flwyddyn dros y 5 mlynedd nesaf ei chynnwys yn yr amcanestyniad.

 

Roedd y Grŵp Adolygu Cyfleusterau eisoes wedi nodi anghenion buddsoddi cyfalaf sylweddol ar

gyfer y ddwy Ganolfan yn ogystal â'r ffrâm gyfalaf cynnal a chadw sylfaenol. Roedd y swm yn yr

 

amcanestyniad yn adlewyrchu amcangyfrifon wedi'u diweddaru i adfer seilwaith y Canolfannau. Roedd Aelodau'r Bwrdd yn pryderu am y risgiau i'r gweithrediad pe na bai modd dod o hyd i'r buddsoddiad hwn, yn enwedig o ran Plas Menai.

 

Roedd y Bwrdd Gweithredol yn parhau i obeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn cytuno i gyhoeddi

Gwarant y Goron a fyddai'n galluogi Chwaraeon Cymru i wneud cyfraniadau pensiwn is ac arbed tua

£450-£500k. Parhaodd y drafodaeth ar gymorth adfer gyda Llywodraeth Cymru ac roedd y Bwrdd

Gweithredol yn ymwybodol y gallai fod angen iddynt ailbwrpasu cyllidebau.

 

7.4 Diweddariad y Gofrestr Risg Gorfforaethol – SW(20)41

 

Cyflwynodd yr adroddiad hwn yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd gan nodi newidiadau i risg ers ei gyfarfod diwethaf ym mis Mehefin. Effaith Covid19 oedd y risg uchaf i'r sefydliad. Roedd dau newid i'w hadrodd:

 

•      Risg o farwolaeth neu anaf difrifol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru (gweithgareddau Chwaraeon Cymru): gan fod y ddwy Ganolfan wedi ailagor yn rhannol roedd y risg hon yn uwch. Yr oedd yn dal yn is na’r lefelau cyn pandemig oherwydd gweithrediadau cyfyngedig

•      Ailgynllunio sefydliadol yn llesteirio cynnydd y Strategaeth newydd: nid oedd y risg hon wedi lleihau oherwydd problemau capasiti a bod rhai swyddi dal yn wag.

 

Trafodwyd risgiau o ran TGCh ac ymosodiadau seiber. Dros y chwarter diwethaf roedd Chwaraeon Cymru wedi wynebu’r nifer isaf erioed o ymosodiadau seiber (gan fod troseddwyr yn canolbwyntio ar gynlluniau iechyd a llywodraeth sy'n gysylltiedig â Covid19 mae’n debyg). Roedd Microsoft Office

365 yn feddalwedd gadarn a gynlluniwyd ar gyfer gweithio o bell a sicrhau bod staff TGCh yn cynnal

diweddariadau/gwaith trwsio yn rheolaidd. Parhaodd hyfforddiant staff a gwyliadwriaeth fewnol i helpu i liniaru'r risg o gamgymeriad dynol.

 

Nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

7.5 Adolygiad Parodrwydd i Dderbyn Risg – SW(20)42

 

Gofynnodd yr adroddiad hwn i'r aelodau drafod a chytuno ar barodrwydd presennol y sefydliad i dderbyn risg. Credai'r aelodau y byddai'n ddefnyddiol cael enghreifftiau o lefelau risg isel, canolig ac uchel er mwyn deall y raddfa'n well. Roedd cyflwyno'r Strategaeth newydd yn golygu cymryd mwy o risg ar ddulliau newydd, y datblygiadau arloesol diweddaraf a gweithio gyda phartneriaid anhraddodiadol newydd. Gofynnodd yr aelodau am roi ystyriaeth bellach i'r parodrwydd cyffredinol i dderbyn risg.

 

CAM GWEITHREDU:            LH i gyflwyno graddfa wedi'i diweddaru yn yr adroddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd.

 

8.  Agenda Ganiatâd

 

8.1 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) – SW(20)43

 

Gofynnodd Cadeirydd ARAC i'r aelodau nodi bod y sgôr gyffredinol ar gyfer Chwaraeon Cymru yn sylweddol. Dyna'r sgôr uchaf y gallai corff cyhoeddus ei gyflawni ac yr oedd yn gyflawniad aruthrol. Nododd yr aelodau yr adroddiad gan ddiolch i'r tîm Cyllid am ei holl waith caled.

 

9.  Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog

 

9.1 Grŵp Llywodraethu Critigol: Ni chafwyd unrhyw gyfarfodydd pellach.

 

9.2 Grŵp Cadernid Strategaeth (SRG) – SW(20)44

 

Roedd SRG wedi cytuno y byddai ei waith eiriolaeth cychwynnol yn canolbwyntio ar bedair thema allweddol:

•      Addysg – gwella rôl sylfaenol chwaraeon yn y cwricwlwm.

•      Iechyd – gwella rôl chwaraeon yn yr agenda iechyd ataliol.

•      Y Ffordd Gymreig – datblygu sefyllfaoedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

•      Chwaraeon i Bawb – gwella dealltwriaeth a phwysigrwydd chwaraeon i bawb (economaidd, cymdeithasol a diwylliannol).

Y cynnig gerbron oedd dull gweithredu fesul cam a oedd yn edrych ar y misoedd nesaf, y cylch gwleidyddol tuag at etholiad nesaf Llywodraeth Cymru ac ymrwymiad hirdymor i eiriolaeth. Roedd yr

adroddiad yn nodi pa feysydd gwaith fyddai'n dod o dan bob un o'r categorïau hynny.

 

Gall mesurau cloi pellach mewn rhai rhanbarthau yng Nghymru effeithio ar gynnydd arolwg ComRes ond nid oedd hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Cafwyd trafodaeth ynghylch y tebygolrwydd o allu dylanwadu ar feysydd polisi a chyhoeddus ar yr un pryd a'r angen i flaenoriaethu.

Nododd yr aelodau'r adroddiad.

 

9.3 Rhaglen Chwaraeon a Gweithgarwch Cymunedol (CSAP)

 

Roedd cyfarfod diwethaf y Bwrdd Prosiect CSAP ar 7 Medi. Cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am Chwaraeon Gogledd Cymru, ynghyd â syniad o sut y byddai'r broses o gyflwyno hynny i weddill Cymru yn mynd rhagddi. Bu oedi gan fod partneriaid awdurdodau lleol yn gorfod rhoi blaenoriaeth i ganolbwyntio ar fusnes sy'n gysylltiedig â pandemig. Byddai adroddiad ffurfiol yn cael ei roi nesaf i'r Bwrdd ym mis Tachwedd.

 

9.4 Grŵp Amrywiaeth – SW(20)45

 

Roedd y Bwrdd wedi cytuno yn ei gyfarfod diwethaf ym mis Mehefin i sefydlu is-grŵp Amrywiaeth i wirio, herio a chefnogi'r sefydliad i sicrhau ei fod yn mynd i'r afael yn rhagweithiol â'r anghydraddoldebau mewn chwaraeon ledled Cymru. Roedd y papur hwn yn amlinellu argymhelliad o gylch gwaith ac aelodaeth y grŵp a fyddai'n cael ei gadeirio gan Leigh Robinson. Dyma pwy fyddai aelodau craidd eraill y grŵp: Alison Thorne, Ashok Ahir, Pippa Britton a Rajma Begum. Byddai cymorth staff yn cael ei roi gan y Pennaeth Perfformiad Corfforaethol a’r Arweinydd Cydymffurfiaeth Reoleiddiol. Byddai aelodau ychwanegol a chymorth allanol yn cael eu cyfethol i'r grŵp pan fo

angen. Cymeradwyodd yr aelodau'r argymhelliad.

 

9.5 Grŵp Adolygu Cyfleusterau (FRG) – SW(20)46

 

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r gwaith a wnaethpwyd ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd ym mis

Mehefin ac yn gwneud yr argymhellion canlynol:

 

•      Cynnig buddsoddiad cyfalaf ar gyfer Plas Menai i'r Dirprwy Weinidog er mwyn mynd i'r afael ag anghenion hirdymor.

•      Chwaraeon Cymru i gadarnhau'n ffurfiol ei fwriad i fwrw ymlaen â phenderfyniad y

Bwrdd i dendro am wasanaethau ymgynghori er mwyn ffurfioli menter rheoli ar gontract allanol/menter ar y cyd ar gyfer Plas Menai.

•      Cynllun cyfathrebu i'w ddiffinio gan nodi rhanddeiliaid allweddol.

 

•      Y Bwrdd Gweithredol a Chadeirydd y Grŵp Adolygu Cyfleusterau i gynnal sgyrsiau gyda phartneriaid posib eraill yn y sector cyhoeddus yng Ngogledd Cymru i benderfynu pa mor hyfyw yw dewisiadau amgen i gontract allanol.

•      Dylid rhoi blaenoriaeth i Blas Menai a dylid gohirio’r gwaith ar SWNC dros dro.

 

Cytunodd yr aelodau’r argymhellion.

 

10. Unrhyw fater arall

 

Ni chodwyd unrhyw faterion.

 

11.Dyddiad y cyfarfodydd nesaf: Dydd Gwener 27 Tachwedd