Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 17 Chwefror 2023 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Cofnodion cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 17 Chwefror 2023 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd) (Eitemau 5.5-9), Ashok Ahir, Ian Bancroft, Rajma Begum, Hannah Bruce, Dafydd Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale

Staff: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Liam Hull, Jo Nicholas, Rachel Davies, Sarah Walters, Amanda Thompson (cofnodion). Allanol: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Jac Chapman (Cadeirydd y Panel Ieuenctid)

1. Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd y Bwrdd yn drist o glywed y newyddion am farwolaeth sydyn gwraig y Prif Weinidog a byddent yn anfon gair o gydymdeimlad.

2. Datgan buddiannau

•     Ian Bancroft, ynghylch ei swydd fel Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Wrecsam.

•     Roedd Rajma Begum wedi ymuno â grŵp atebolrwydd Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru yn ddiweddar.

•     Roedd priod Martin Veale, Cath Janes, wedi ymuno â Chwpan Rygbi’r Byd (tîm cyfathrebu) yn 1998 ac wedyn tîm y wasg URC, a adawodd yn 2002.

•     Byddai'r Farwnes Tanni Grey-Thompson yn cydgadeirio Yorkshire Cricket tan fis Mawrth.

•     Gadawodd Hannah Bruce, fel aelod o staff Bwrdd Criced Lloegr, y cyfarfod ar gyfer Eitem 5.4.

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 25 Tachwedd 2022

Derbyniwyd y cofnodion fel rhai gwir a manwl gywir.

Materion yn codi:

•     Y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol: roedd eu hadroddiad wedi'i dderbyn, roedd tri argymhelliad yn berthnasol i gynghorau chwaraeon y gwledydd cartref gyda chamau gweithredu i'w cymhwyso i chwaraeon perthnasol yng Nghymru.

•     Panel Ieuenctid: Cyfarfu’r Prif Swyddog Gweithredol â’r Comisiynydd Plant. Awgrymodd amrywiaeth o opsiynau yr oedd y Cadeirydd a JC wedi'u trafod wedi hynny ac y byddent yn symud ymlaen â hwy.

•     Mewn cyfarfod diweddar ar gyfer Actif Dyddiol, roedd y tri Gweinidog yn gefnogol ac wedi gofyn am gynnig cyllido ar y cyd i symud ymlaen gyda hyn ar gyfer pob plentyn oedran ysgol.

4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth – SW(23)01

Nodwyd yr adroddiad gan yr Aelodau ac ychwanegwyd y canlynol:

·       Trwydded y Loteri Genedlaethol: cyfarfod i'w gynnal ar 28 Chwefror a fydd yn manylu ar sut caiff y cyfnod pontio ei weithredu.

·       Camau nesaf yr Uwchgynhadledd Chwaraeon: Dull arweinyddiaeth golegol i'w fabwysiadu wrth ffurfio grŵp gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu. Trafodwyd safle Chwaraeon Cymru gyda safbwyntiau gwahanol ynghylch a ddylai’r sefydliad gymryd rôl ‘sedd gefn neu flaen’. Roedd y Pwyllgor EDI wedi dod i’r casgliad y dylai Chwaraeon Cymru gael rôl gefnogol ond na ddylai fod ar y blaen nac yn ganolog, oherwydd byddai hyn yn helpu lleisiau newydd i gael eu clywed. Awgrymwyd y dylid rhoi mwy o ystyriaeth i’r ffordd orau o ddefnyddio mewnbwn gwirfoddolwyr a rhoi mwy o fanylion am sut mae’r camau nesaf yn cysylltu â strategaeth digwyddiadau ehangach Chwaraeon Cymru.

·       Pwyllgor y Senedd 15 Chwefror: Roedd y Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol yn pryderu bod Chwaraeon Cymru yn cael ei ystyried yn gamarweiniol fel sefydliad sydd â rôl reoleiddiol a byddent yn ysgrifennu at y Pwyllgor i egluro hyn. Teimlwyd bod y cwestiynu yn fwy gwleidyddol ei natur na chanfod ffeithiau.

·       Roedd y system gyllid newydd yn fyw a diolchodd y Prif Swyddog Gweithredol i'r staff am eu hymdrechion. Roedd y contract yn cynnwys cefnogi prosiectau a chynllunio i weithredu gyda chymorth technegol i helpu i fudo data ac i fonitro gweithredu’r system a diogelu data. Byddai adroddiad archwilio mewnol i ddilyn.

·       Roedd yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi trafod effaith gynyddol costau byw ar byllau nofio. Ni fyddai Llywodraeth y DU yn ailddosbarthu pyllau ond byddai’n cynnwys cymorth mewn cynlluniau cyllidebu yn y dyfodol gobeithio. Roedd y Dirprwy Weinidog wedi ychwanegu ei chefnogaeth ac yn deall y mater.

5.   Polisi a Strategaeth

5.1        Adroddiad Cynllun Busnes 2022/23 – SW(23)02

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar gynnydd yn erbyn cynllun busnes eleni. Trafodwyd Atodiad 3 Dangosyddion Llwyddiant Allweddol. Pwyntiau trafod:

•     Mae angen mwy o fanylion i egluro sut cyflawnwyd y canlyniad.

•     Adolygu'r defnydd o'r termau ansoddol a meintiol.

•     Nid oes cofnod y tu hwnt i 2022/23 ar gyfer Iechyd a Lles gan fod y llythyr cylch gwaith yn fanwl gywir am rôl Chwaraeon Cymru ar gyfer presgripsiynau cymdeithasol ac nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eto sut fydd y dyfodol.

•     Mae angen mwy o eglurhad gan yr adran risg a lliniaru ynglŷn â'r defnydd o adnoddau, cydbwysedd gwaith a chapasiti staff i roi'r sicrwydd gofynnol.

•     Er bod yr iaith a ddefnyddir yn feddal ac nad oes rheoleiddio o ran dull, rhaid i Chwaraeon Cymru ddatgan ei hun fel heriwr cadarn.

•     Mae angen ychwanegu mwy i fynd i'r afael â'r Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth yn yr un modd ag ar gyfer cydraddoldeb LGBTQ+ a'r gwaith a wneir ar gyfer TRARIIS.

•     Ychwanegu at yr ystadegau ar gyfer y Gymraeg nifer y bobl sy'n dysgu Cymraeg.

•     Mae angen mwy o eglurder ynghylch y cynnig i bobl ifanc a sut mae'r gwaith yn cael ei dracio.

•     Ni chyfeirir at dracio yn erbyn y fframwaith llywodraethu.

•     Mae'r penawdau'n cyd-fynd â'r llythyr cylch gwaith, ond yr hyn sydd ddim yn cael ei gyfleu'n ddigon cadarn yw sut mae'r cyflawni a'r canlyniadau yn helpu i wneud Cymru'n genedl fwy actif. Byddai hyn yn helpu i egluro rôl Chwaraeon Cymru.

5.2     Cynllun Busnes 2023/24 (Drafft) – SW(23)03

Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu'r cynllun busnes arfaethedig ar gyfer 2023/24. Arhosodd chwe maes blaenoriaeth EDI, Partneriaethau Chwaraeon, Iechyd a Lles, Addysg, y System Chwaraeon Gynhwysol a Chynaliadwyedd Amgylcheddol heb eu newid. Y prosiectau arwyddocaol a argymhellwyd oedd y strategaeth gweithio hybrid, y fframwaith perfformiad sefydliadol, lliniaru’r risgiau i’r sector chwaraeon yn sgil y cynnydd mewn costau byw, buddsoddiad cyfalaf strategol a’r adolygiad o Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.

Awgrymwyd y dylid tynnu sylw at Blas Menai o dan bartneriaethau a newid ysgolion yr 21ain ganrif i gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu. Cymeradwyodd yr Aelodau y cynllun busnes drafft.

5.3     Cyllideb 2023/24 – SW(23)04

Roedd yr adroddiad hwn yn amlinellu'r gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2023/24 yn seiliedig ar setliad drafft Llywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at y broses o bennu’r gyllideb, y rhagdybiaethau allweddol a'r dewisiadau yr oedd y Weithrediaeth wedi’u hystyried wrth ddatblygu'r gyllideb. Atebwyd cwestiynau’r Aelodau ac roedd pryder bod y gyllideb ar gyfer codiad cyflog o 2% yn isel. Cymeradwyodd yr Aelodau y gyllideb.

     5.4     Buddsoddiadau partner 2023/24 – SW(23)05

Amlinellodd yr adroddiad hwn y buddsoddiadau i bartneriaid yn 2023/24. Dangoswyd safle pob partner yn erbyn y fframwaith gallu. Nid oedd Pêl Foli a Rygbi'r Undeb yn bodloni elfennau hanfodol y fframwaith a / neu roedd ganddynt ofynion heb eu bodloni ac ni fyddent yn cael eu cyllido nes bod y gofynion hynny wedi'u bodloni. Nid oedd sefyllfa’r chwaraeon oedd angen dwy rownd o ddata wedi'i chadarnhau'n ffurfiol eto.

Roedd chwaraeon gradd werdd yn seiliedig ar ragdybiaeth o fodloni'r meini prawf erbyn diwedd mis Mawrth ond ni fyddai unrhyw arian yn cael ei roi hyd nes y byddai hyn wedi'i gadarnhau.

Roedd y fframwaith gallu ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar y ‘llywodraethu caled’ (polisïau a gweithdrefnau) yr oedd yn ofynnol i bartneriaid ei gael ar gyfer cyllid. Roedd gwaith yn cael ei ddatblygu ar draws Chwaraeon Cymru a chynghorau chwaraeon eraill y gwledydd cartref i edrych ar lywodraethu (ymddygiad) meddalach a sut gellid ei ddatblygu.

Cymeradwyodd yr Aelodau y buddsoddiadau partner ar gyfer 2023/24

5.4.1 Trafodwyd llythyr ‘Chwaraeon Tîm’ Cymdeithas Bêl-droed Cymru dyddiedig 10/02/23 i ailystyried y model buddsoddi.

Craffwyd ar y broses o fabwysiadu'r model buddsoddi yn drylwyr gan y Bwrdd a hefyd cafodd ei hadolygu gan yr archwilwyr mewnol. Nid oedd yr Aelodau’n barod i ymddiheuro am y rhesymau pam yr oedd Chwaraeon Cymru yn newid y model buddsoddi, a wnaed mewn ymateb i’r llythyr cylch gwaith a’r angen am greu sector chwaraeon mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Yn ogystal, roedd y model buddsoddi wedi’i drafod gyda’r Dirprwy Weinidog a oedd yn fodlon mai hwn oedd penderfyniad Chwaraeon Cymru gyda’r cyfrifoldeb am ei fonitro ac ymateb yn unol â hynny.

Rhaid i bartneriaid fodloni'r meini prawf sydd wedi’u pennu gan y fframwaith gallu cyn buddsoddi. Roedd Chwaraeon Cymru wedi penderfynu bod rhaid i fuddsoddiad adlewyrchu anghenion pobl Cymru fel maent wedi’u datgan, gyda phwyslais arbennig ar blant a phobl ifanc a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ystyfnig o ran cymryd rhan mewn chwaraeon. Fe wnaeth y dull o weithredu helpu hefyd i feithrin gallu'r sefydliadau partner hynny i'w gyflawni. Cefnogwyd partneriaid hefyd drwy sianeli eraill fel Cymru Actif a buddsoddiad cyfalaf.

Cadarnhaodd y Weithrediaeth bod yr holl bwyntiau a godwyd yn y llythyr wedi'u trafod yn flaenorol gyda'r chwaraeon. Ni chodwyd unrhyw bwyntiau newydd, ychwanegol yn y llythyr ac ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth bellach gan y chwaraeon i gefnogi'r pwyntiau a godwyd.

Nododd y Bwrdd bod dull cadarn o gynllunio pontio wedi’i roi ar waith i gefnogi’r holl bartneriaid a bod Chwaraeon Cymru wedi bod yn dryloyw ynghylch meddwl, cynllunio, craffu ar y model, meini prawf, egwyddorion ac amserlenni. Roedd yr holl bartneriaid yn deall hyn mewn da bryd i baratoi eu hunain. Nodwyd nad oedd y llythyr wedi'i lofnodi gan Undeb Rygbi Cymru a bod y pwynt hwn yn cael ei egluro. Roedd y Cadeirydd wedi siarad â’r chwaraeon a grybwyllwyd yn y llythyr ar achlysuron blaenorol ac roedd eu hymatebion wedi bod yn dra gwahanol.

Yr Arolwg Chwaraeon Ysgol oedd un o’r arolygon mwyaf o blant yn y byd ac roedd y data a gasglwyd yn sail i’r broses fuddsoddi. Roedd yr arolwg oedolion blaenorol wedi'i ddisodli gan Arolwg Cenedlaethol Cymru fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Byddai angen i unrhyw ehangu ar gofnodi data gyd-fynd â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a byddai angen adnoddau ychwanegol.

Ailgadarnhaodd y Bwrdd ei ymrwymiad i’r model buddsoddi i gefnogi datblygiad sector chwaraeon mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol yng Nghymru.

5.5     Dull a Sbardunir gan Egwyddorion o Fuddsoddi mewn Partneriaid - Chwaraeon Anabledd Cymru – SW(23)06

Fel y gofynnwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd ym mis Tachwedd 2022, roedd yr adroddiad hwn yn darparu gwybodaeth ychwanegol a dirnadaeth fel sail i’r penderfyniad ynghylch a ddylai Chwaraeon Anabledd Cymru gael ei gynnwys fel Partner Cenedlaethol o fewn y dull Buddsoddi a sbardunir gan Egwyddorion a gymeradwywyd yn ddiweddar. Roedd tri Aelod o’r Bwrdd wedi gweithredu fel “cyfeillion beirniadol” i’r gwaith hwn ac roedd eu mewnbwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth benderfynu ar y ffordd ymlaen. Cadarnhaodd yr wybodaeth ychwanegol a gasglwyd drwy'r ymarfer hwn y dylid ystyried ChAC fel Partner Cenedlaethol, gan gydnabod y rôl unigryw a phenodol y mae ChAC yn ei chwarae wrth gefnogi athletwyr perfformiad uchel sydd ag anabledd.

Tynnwyd sylw at y pwyntiau trafod allweddol a ganlyn;

·       Roedd Aelodau'r Bwrdd yn bryderus ynghylch lefel y newid a nodwyd yn y cyllid i ChAC, y risg bosibl i enw da, ac roeddent eisiau cael mwy o sicrwydd ynghylch sut byddai'r dull gweithredu a sbardunir gan egwyddorion yn gweithio'n ymarferol.

·       Mae gan bob partner gyfrifoldeb i greu chwaraeon mwy cyfartal, amrywiol a chynhwysol. Er bod gan ChAC rôl arweiniol wrth gefnogi pobl anabl i fod yn actif drwy chwaraeon, roedd gan yr holl bartneriaid eraill rôl arwyddocaol i'w chwarae hefyd.

·       Mae ChAC wedi dweud yn flaenorol bod angen i'w rôl yn y dyfodol fod yn wahanol. Yr her gyffredinol yw sut mae ChAC yn addasu i gyflawni'r hyn a ddisgwylir ganddo ar lefel ddangosol is o fuddsoddiad a sut mae partneriaid eraill yn ysgwyddo cyfrifoldeb am gyflwyno chwaraeon a gweithgareddau corfforol i bobl anabl.

·       Rhaid i bob partner fabwysiadu dull croestoriadol o gefnogi'r rhai sy'n wynebu'r rhwystrau mwyaf i fod yn actif. Bydd angen monitro’r effaith groestoriadol yn barhaus oherwydd er bod disgwyl i bob partner greu darpariaeth chwaraeon gynhwysol, mae pryder na fydd hyn yn digwydd mewn gwirionedd – mae’r dull atebolrwydd yn allweddol i reoli hyn.

·       Oes modd darparu cyllid ychwanegol i Bartneriaid Cenedlaethol i gefnogi'r rôl maent yn ei chwarae wrth gefnogi cyfleoedd chwaraeon cynhwysol.

·       Mae'r holl Bartneriaid Cenedlaethol wedi cael manylion y dull newydd bellach drwy sesiynau ymgysylltu a gwybodaeth ddilynol.

·       Nid yw'r sgorio dangosol wedi'i rannu - bydd y broses sgorio derfynol ym mis Ebrill. Ni ddefnyddiwyd llwybr cymhwyso oherwydd bod staff yn defnyddio dull sy'n seiliedig ar berthnasoedd, gallu, cynnydd a dysgu o weithredu. Mae data wedi'u casglu drwy'r dull hwnnw ac nid drwy ffurflen. Awgrymodd staff y dylid cynnwys Aelod o’r Bwrdd fel ‘cyfaill beirniadol’ fel rhan o’r broses sgorio a chraffu.

·       Roedd gwaith pellach yn cael ei gynllunio i gefnogi rhoi’r dull gweithredu sy'n cael ei sbarduno gan egwyddorion ar waith. Er enghraifft, nodwyd y byddai'n ddefnyddiol cael mwy o arbenigedd ariannol i helpu partneriaid i fabwysiadu rhagolygon mwy masnachol.

Cymeradwyodd yr Aelodau’r argymhelliad bod ChAC yn parhau i fod yn Bartner Cenedlaethol o fewn y dull Buddsoddi sy'n cael ei sbarduno gan Egwyddorion, ac eithrio’r elfen perfformiad o’r cyllid, a fyddai’n cael ei diogelu ar gyfer y cylch buddsoddi nesaf er mwyn galluogi ChAC a Chwaraeon Cymru i weithio gyda’i gilydd i nodi rôl ChAC yn y tymor hir yn y cyswllt hwn. 

5.6     Cynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol – SW(23)07

Gofynnodd yr adroddiad am gymeradwyaeth i Gynllun Cynaliadwyedd Amgylcheddol cyntaf Chwaraeon Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Garbon. Byddai angen cymorth allanol i fesur effaith rhai o'r camau gweithredu. Datgarboneiddio oedd cam cyntaf y cynllun ac roedd tracio effaith gostyngiadau carbon yn cynnwys gweithio gartref. Awgrymwyd bod Chwaraeon Cymru yn helpu i gyfeirio clybiau chwaraeon at gymorth pan nad oedd ganddynt y sgiliau i wneud hynny drostynt eu hunain. Cymeradwyodd yr Aelodau y cynllun.

5.7      Proses Adolygu Deilwredig – SW(23)08

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad wedi’i deilwra o’r holl gyrff a noddir. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.

6. Cyllid a Risg

     6.1     Dyhead Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol – SW(23)09

Cymeradwyodd yr Aelodau y dyhead risg wedi'i ddiweddaru nad oedd yn cynnwys unrhyw newidiadau mawr. Ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol roedd risgiau ar gyfer seibrddiogelwch yn parhau gyda lefel dyhead isel a lefel risg weddillol ganolig. Roedd effaith y cynnydd mewn costau byw yn parhau yn risg uchel.      

    6.2     Cyllid 2022/23 - Adroddiad Mis 10 – SW(23)10

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno crynodeb o sefyllfa ariannol Chwaraeon Cymru am y deng mis a ddaeth i ben ar 31 Ionawr 2023. Roedd y ffigurau'n seiliedig ar gyfrifon rheoli mewnol drafft ac nid oeddent yn cynnwys addasiadau ar gyfer gofynion adrodd statudol. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.

7. Adroddiadau Grwpiau’r Bwrdd a’r Pwyllgorau Sefydlog

    7.1     Crynodeb o gyfarfodydd y Grwpiau a’r Pwyllgorau Sefydlog – SW(23)11

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion allweddol a'r penderfyniadau a wnaed gan y cyfarfodydd hyn ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd ym mis Tachwedd. Ysgrifennodd y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg at yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Ionawr i leisio pryderon ynghylch ansicrwydd y cyfnod pan fyddai Archwilio Cymru yn cynnal yr archwiliad o gyfrifon 2022/23, ond ni chafwyd ymateb. Disgwyliwyd y byddai’r cyfrifon yn cael eu cymeradwyo yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi yn hytrach nag ym mis Gorffennaf.

     7.2     Adroddiad Dyletswyddau’r Sector Cyhoeddus – SW(23)12

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r cyfrifoldebau statudol penodol ac yn rhoi diweddariad lefel uchel ar gamau allweddol a'r staff sy'n gyfrifol. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.

     7.3     Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol / Cylch Gorchwyl ARAC – SW(23)13

Roedd yr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn adolygiad o’r Llawlyfr Llywodraethu Corfforaethol a chylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg. Nododd yr Aelodau yr adroddiad.

      8. Unrhyw Fater Arall

•     Byddai Cadeirydd UK Sport, y Fonesig Katherine Grainger, yn ymweld â chyfarfod y Bwrdd ym mis Gorffennaf.

•     Roedd Bwrdd Paralympaidd Prydain yn trefnu eu cyfarfod bwrdd yn Abertawe ym mis Gorffennaf ac efallai y bydd cyfle i gwrdd â hwy yn gymdeithasol.

     9. Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf

12 Mai, 7 Gorffennaf, 22 Medi, 24 Tachwedd 2023

Cymeradwywyd y cofnodion yng nghyfarfod y Bwrdd ar 12 Mai 2023.