Skip to main content

Cofnodion Bwrdd Gorffenaf 2023

Cofnodion cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 7 Gorffennaf 2023 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (4.2-6.2), Rajma Begum, Pippa Britton, Dafydd Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten (1-6.2), Hannah Bruce, Judi Rhys, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale

Staff: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Owen Lewis, Liam Hull, Jane Foulkes, Jessica Williams, Susie Osborne, Sarah Walters a Dan Farmer (4.2), Ellen Todd (3), Amanda Thompson (cofnodion).

Allanol: Y Fonesig Katherine Grainger (Cadeirydd UK Sport), Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Eloise Stingemore (Step to Non Exec)

1.   Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawyd y Fonesig Katherine Grainger i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Ashok Ahir a Jac Chapman.

2.   Datgan buddiannau

Alison Thorne am ei phenodiad i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Rajma Begum, fel cyflogai i WCVA, ni fyddai'n bresennol ar gyfer Eitem 6.1.

3.   Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 12 Mai 2023

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol (fersiwn diwygiedig) fel cofnod manwl gywir.                         

Materion yn codi:

·       Eitem 5.2 Jui Jitsu Prydain: Mae gwaith pellach wedi cael ei wneud i asesu'r effaith ar Gymru a byddai hwn ar gael i'r Bwrdd.

·       Eitem 5.3 Rygbi Cyffwrdd: Nododd Bwrdd Sport Scotland y penderfyniad a wnaed yn Lloegr gan ddweud bod yr argymhelliad yn berthnasol i Loegr yn unig. Byddai Sport Scotland yn edrych ar gais am gydnabyddiaeth pe bai'r gamp yn yr Alban yn cysylltu ag ef. Cytunodd Aelodau Bwrdd Chwaraeon Cymru i wneud yr un peth, gan nodi’r penderfyniad a wnaed yn Lloegr ac aros am ymateb gan y gamp yng Nghymru.

·       Eitem 5.5 Cytundebau Rheoli Cyfleusterau (FMAs): Rhoddodd GW yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cais am eglurhad pellach ar y papur a ystyriwyd yng nghyfarfod mis Mai 2023. Tynnodd y papur sylw at y mater o orfodadwyedd ar un cymal sy'n nodi mai Chwaraeon Cymru (fel corff corfforaethol) fyddai'n cael y cais cyntaf ar asedau o unrhyw newidiadau / gwerthiant asedau gan Ymddiriedolaeth CChC.

Ers mis Mai roedd cyngor cyfreithiol pellach wedi cadarnhau bod y mater ar orfodadwyedd yn ymwneud â’r “rheol dau barti” h.y., ni all person gontractio ag ef ei hun. Er bod opsiynau eraill wedi’u harchwilio, daethpwyd i’r casgliad mai cael y cymal yn yr FMAs oedd y ffordd fwyaf effeithiol o gofnodi cyfraniad ariannol Chwaraeon Cymru a’r dyhead i gael y cais cyntaf ar elw unrhyw werthiant asedau.

Roedd gwerthu asedau yn senario annhebygol ynddi'i hun; fodd bynnag, roedd y cymal yno i gydnabod cefnogaeth ariannol barhaus a hirsefydlog Chwaraeon Cymru - heb gyllid gan Chwaraeon Cymru ni allai Ymddiriedolaeth CChC weithredu. Y casgliad felly oedd cadw'r cymal yn yr FMA.

4.   System Chwaraeon

4.1        Diweddariad UK Sport – Y Fonesig Katherine Grainger

Siaradodd y Fonesig Katherine am ffocws UK Sport ar baratoi a chymhwyso ar gyfer y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd. Roedd perfformiad Tîm Prydain Fawr yn Tokyo wedi bod yn well na’r disgwyl, er gwaethaf y pandemig. Roedd adborth o gylch Paris yn mynegi pryder bod y broses yn cael ei gor-beiriannu a llawer o waith. Ar gyfer cylch Los Angeles, disgwylir buddsoddiad ar yr un lefel ag ar gyfer Paris, ond gyda phroses symlach gobeithio. Gallai chwaraeon ddadlau dros newid pe dymunent.

Yn y cyfarfod diweddar ar gyfer Prif Gynllunio System y prif bryderon a fynegwyd gan sefydliadau chwaraeon oedd yr effaith gynyddol ar gostau byw a'r straen ychwanegol ar arweinyddiaeth (yn enwedig o gofio'r problemau mawr sy'n wynebu chwaraeon yn yr hinsawdd bresennol). Roedd y Cynghorau Chwaraeon yn edrych ar yr hyn y gellid ei wneud i liniaru'r pwysau, fel rhannu gwasanaethau. Byddai hyn yn cael ei drafod nesaf ym Manceinion ar 12 Gorffennaf. Roedd sefydliadau chwaraeon eu hunain ar y blaen yn hyn o beth drwy fod â syniadau clir ar fformat gwahanol.

O ran datblygu llwybrau yn erbyn potensial metel ar gyfer Paris, cytunodd y Fonesig Katherine fod UK Sport wedi mabwysiadu dull mwy hirdymor o weithredu nawr, er bod rhaid ei deilwra ar gyfer rhai chwaraeon a oedd yn gweithio mwy yn y tymor byr. Y gwerth i gymdeithas tra hefyd yn cyflawni perfformiad uchel oedd y flaenoriaeth. Roedd yn fater o ddenu cefnogaeth wleidyddol a hefyd effaith gyhoeddus wedi’i chydbwyso yn erbyn y dull gweithredu tymor hwy.

Trafodwyd symleiddio'r broses fuddsoddi, amseriad cyllid i chwaraeon a'r ffyrdd yr oedd raid iddynt wneud cais amdano. Bu rhywfaint o welliant ac roedd Chwaraeon Cymru yn cyd-fynd â'r cylch buddsoddi perfformiad uchel.

Roedd rhaid gwneud penderfyniadau cyllido ar sail yr wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd. Roedd yn haws pan oedd yr un chwaraeon wedi’u gwarantu ar gyfer pob cylch, fodd bynnag roedd dull tymor hwy o weithredu yn fwy defnyddiol pan oedd chwaraeon newydd yn cael mynediad i'r gemau.

Rhaid gwneud penderfyniadau ar sail yr wybodaeth sydd gennym nawr, yn draddodiadol pan oedd chwaraeon wedi’u gwarantu ar gyfer pob cylch. Golwg tymor hwy a sut mae hynny'n helpu pan fydd chwaraeon newydd yn cyrraedd y Gemau Olympaidd. (??)

Roedd y llwybr i chwaraeon tîm yr un fath ag ar gyfer y campau unigol yn y ffordd yr oedd athletwyr yn hyfforddi ac yn datblygu. Roedd dyfarniad perfformiad yr athletwyr yn cael ei adolygu er mwyn ystyried costau byw, lleoliad daearyddol a ffactorau eraill.

Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol y byddai hwb perfformiad Cymdeithas Olympaidd Prydain ar gyfer Paris wedi’i leoli, gobeithio, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru eto.

4.2        System Chwaraeon Gynhwysol (Datblygu Athletwyr) – cyflwyniad

Cyflwynodd yr Ymgynghorwyr Perfformiad DF a SW ddiweddariad manwl ar y llwybrau a pherfformiad Datblygiad Athletwyr Cynhwysol traws-sefydliadol.

Pwyntiau trafod:

·       Yn y tymor hir, gwelir tystiolaeth o lwyddiant yn nata'r arolwg cenedlaethol, y data o fewn proffiliau defnyddwyr pawb sy'n ymuno â'r llwybr athletwyr a'r wybodaeth o lais yr athletwr a phrofiadau byw. Byddai hyn yn creu astudiaethau achos ac yn sail i fentrau newydd.

·       Cynhaliwyd monitro dwys gyda chwaraeon, gan weithio drwy'r canfyddiadau a nodi'r camau gweithredu a ddisgwylir ganddynt. Roedd dosbarthu ehangach yn fewnol ac yn allanol drwy sesiynau a bwletinau. Byddai chwaraeon yn cael eu dwyn i gyfrif.

·       Byddai'r data a'r wybodaeth a gynhyrchir, gan gynnwys tystiolaeth o'r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad, yn cael eu defnyddio i ddenu cyllid gan Lywodraeth Cymru.

·       Er mwyn creu'r cyfleoedd, y gwerth a’r effaith orau, byddai cydweithredu aml-bartner yn cael ei annog a'i gefnogi.

5.   Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth – SW(23)21

Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol y canlynol at yr adroddiad:

·       Cyfarfu'r Prif Swyddog Gweithredol â Chadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru ac roedd yn obeithiol iawn am ei ddyfodol.

·       Byddai Panel Adolygu Annibynnol URC yn cyfarfod â Chwaraeon Cymru (nid oedd penderfyniad wedi’i wneud eto ynghylch pwy fyddai fwyaf priodol ar gyfer y dasg hon).

·       Roedd Gemau Trefol yr Urdd yn llwyddiannus iawn. Roedd y galw i’w gynnal yn flynyddol yn debygol er bod cyllid ar gyfer digwyddiad eleni wedi’i ganfod o gronfeydd ychwanegol yn ystod y flwyddyn.

·       Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi ymddiheuro’n “ddiamod” i’r rhai a wynebodd wahaniaethu yn y gêm ar ôl i’r Comisiwn Annibynnol dros Degwch mewn Criced (ICEC) ryddhau adroddiad yn canfod tystiolaeth o hiliaeth ar draws y gamp. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach gyda'r gamp.

·       Mynychir digwyddiad TRARIIS ond rhoddir blaenoriaeth i Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru.

·       Trefn gwyno: roedd hwn yn faes gwaith a fyddai'n cael ei drafod mewn sesiwn manwl i'r Bwrdd. Roedd strategaeth genedlaethol ehangach ar gyfer y DU dan arweiniad yr Adran ar gyfer Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ac UK Sport i fod i ddwyn ffrwyth yn ddiweddarach eleni. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn pwyso am gyfarfod o Gynghorau Chwaraeon y DU.

·       Datblygiad Proffesiynol: nodi bod cynrychiolydd o CIMSPA wedi'i neilltuo i weithio gyda Chwaraeon Cymru.

·       Staffio: Roedd LH wedi'i ddyrchafu i swydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Busnes i gydnabod twf y gyfarwyddiaeth a'r meysydd gwaith sy’n cael sylw ganddi.

·       Cynhaliwyd digwyddiad cymdeithasol i’r staff ar 6 Gorffennaf, y cyfle cyntaf i’r staff ddod at ei gilydd ers y pandemig. Dangoswyd y fideo i gyd-fynd ag Adroddiad Blynyddol eleni.

·       Gemau Gwell: Nid oedd gan Chwaraeon Cymru unrhyw farn ffurfiol ar hyn ac eithrio i fynegi pryder am iechyd a lles athletwyr.

·       Buddsoddiad cyfalaf: roedd Dosbarthwyr y Loteri ar fin trafod sut gellid defnyddio adnoddau'r Loteri. Darparwyd y gyllideb gyfredol o £8m gan Lywodraeth Cymru.

6.   Polisi a Strategaeth

6.1        Dull Buddsoddi sy’n cael ei Sbarduno gan Egwyddorion – SW(23)22

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad i'r Aelodau ar weithgareddau allweddol a chamau ailadrodd terfynol y dull buddsoddi sy’n cael ei sbarduno gan egwyddorion, gyda manylion y cynllun gweithredu arfaethedig a symiau buddsoddi partner Cam 1 o fis Ebrill 2024 ymlaen. Roedd yr asesiad terfynol a'r ymarfer sgorio wedi'u cwblhau a byddent yn arwain at ailddosbarthu £2.3m i'r rhwydwaith presennol o 11 Partner Cenedlaethol o fis Ebrill 2024 ymlaen. Yn unol â'r dull sy’n cael ei sbarduno gan ddata, byddai ymrwymiad dangosol am 3 blynedd ar gyfer 2024-2027, sef cyfanswm o tua £618k. Roedd y Bwrdd eisoes wedi cymeradwyo £250k ychwanegol o gyllideb y Loteri i ganiatáu archwilio partneriaethau newydd fel rhan o'r dull sy’n cael ei sbarduno gan egwyddorion o weithredu.

Pwyntiau trafod:

·       Roedd pryder ynghylch sicrhau bod chwaraeon cynhwysol yn cael eu darparu'n briodol gan y chwaraeon eu hunain yn hytrach na bod partneriaid eraill yn gyfrifol amdanynt, er enghraifft, ChAC.

·       Roedd defnydd o'r Gymraeg wedi bod yn rhan o'r asesiad effaith. Byddai unrhyw gynnwys newydd yn dilyn adborth diweddar gan Gomisiynydd y Gymraeg yn cael ei ychwanegu.

·       Byddai angen i sefydliad bach sy'n gymwys ar gyfer swm llawer mwy o fuddsoddiad gyrraedd y lefel gallu ofynnol cyn ei dderbyn.

·       Trafodwyd a ddylid adolygu ffigurau dangosol ar gyfer 2 a 3 yn unol ag unrhyw newid mewn amgylchiadau.

·       Byddai asesiad effaith a lliniaru risgiau yn gwrthsefyll her. Hysbysu swyddogion Chwaraeon Llywodraeth Cymru os oedd angen unrhyw gyfarfodydd trawsadrannol pe bai unrhyw her yn codi.

Cymeradwyodd yr Aelodau y Dull Buddsoddi sy’n cael ei Sbarduno gan Egwyddorion.

6.2        Cynllun Busnes 2023/24 Diweddariad 3 mis – SW(23)23

Rhoddwyd diweddariad ar y meysydd blaenoriaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, System Chwaraeon Gynhwysol, Partneriaethau Chwaraeon, Addysg, Iechyd a Lles a Chynaliadwyedd. Roedd y gofynion o ran adnoddau yn gysylltiedig â buddsoddiad strategol wedi cynyddu’n sylweddol i’r pwynt ei fod hefyd yn dod yn flaenoriaeth Cynllun Busnes, a’r ffrydiau gwaith allweddol oddi tano a fyddai’n cael eu blaenoriaethu dros y 3 i 6 mis nesaf oedd:

  • Gwerthusiad o'r Model Buddsoddi
  • Gweithredu'r dull buddsoddi sy'n seiliedig ar egwyddorion
  • Cadarnhau dull gweithredu ar gyfer partneriaid cyllido nad yw'n cyd-fynd â'r dull presennol o weithredu
  • Adolygu'r Fframwaith Gallu
  • Parhau i ddarparu rhaglen o gyllid cyfalaf
  • Datblygu ymhellach ddull atebolrwydd o weithredu gyda phartneriaid
  • Gweithredu system Buddsoddiadau newydd

Er mwyn osgoi dryswch, byddai'r flaenoriaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn cael ffocws sefydliadol, a'r System Chwaraeon Gynhwysol yn cael ffocws sector ehangach.

Awgrymwyd bod Aelodau'r Bwrdd yn cael eu gweld mewn digwyddiadau y gallent eu mynychu.

7.   Cyllid a Risg   

7.1        Adroddiad Cyllid 2023/24 Mis 2 – SW(23)24

Roedd y papur yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am arian Llywodraeth Cymru a’r Loteri ar gyfer misoedd Ebrill a Mai eleni. Roedd y system Advance Financials newydd yn gweithio'n dda heb unrhyw broblemau mawr. Dechreuodd Archwilio Cymru ar archwiliad eleni ar 26 Mehefin. Roedd gwaith interim cychwynnol wedi’i wneud o amgylch prosesau a oedd yn adlewyrchu’r safon archwilio newydd ISA 315.

Roedd pwysau’n dod i’r amlwg o ran dyfarniadau cyflog gyda Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag adolygiad cyflog anghyfnerthedig ond heb adnoddau ychwanegol. Byddai'r Weithrediaeth yn trafod hyn gyda Gweithrediaeth Cangen y PCS ac wedyn gyda'r Pwyllgor Tâl.

7.2        Diweddariad y Gofrestr Risg Gorfforaethol – SW(23)25

Cyfarfu’r Grŵp Rheoli Risg a Sicrwydd ar 15 Mehefin a newidiwyd y canlynol:

•     Risg newydd yn ymwneud â'r dull buddsoddi sy’n cael ei Sbarduno gan Egwyddorion oherwydd, er bod hyn yn helpu i fynd i'r afael â phatrymau o anghydraddoldebau, byddai'n golygu bod rhai partneriaid yn cael dyraniad llai.

•     Dwy risg lle'r oedd y risg weddillol yn parhau'n uwch na'r dyhead risg pendant: seibrddiogelwch ac effaith costau byw ar gyflawni'r Weledigaeth.

•     Newid i'r naratif yn dilyn penodiad parhaol y Prif Swyddog Gweithredol i’r rôl.

8.   Adroddiadau Grwpiau’r Bwrdd a’r Pwyllgorau Sefydlog

8.1        Crynodeb o gyfarfodydd y Pwyllgorau a’r Is-grwpiau – SW(23)26

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion allweddol a'r penderfyniadau a wnaed gan y cyfarfodydd hyn ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd ym mis Mai:

·       Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg: cyfeiriwch at SW(23)37 isod.

·       Grŵp Buddsoddi Cyfalaf Strategol: diweddariad ar wariant cyfalaf Elitaidd; gordanysgrifio wedi bod i’r Grant Arbed Ynni gyda 300 o geisiadau yn dod i gyfanswm o £5.3m; £300k ychwanegol wedi'i ddyfarnu i brosiect Felodrom Gogledd Cymru.

8.2        Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg – SW(23)27

Dyfarnwyd gradd sicrwydd sylweddol cyffredinol i Chwaraeon Cymru ar gyfer 2022/23. Crynhodd LH y meysydd gwaith gan gynnwys amgylcheddol a'r system grantiau. Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg i Aelodau'r Bwrdd a'r Aelod Annibynnol am eu gwaith dros y cyfnod hwnnw.

9.   Unrhyw Fater Arall

Ni chodwyd unrhyw faterion.

10. Dyddiadau'r cyfarfodydd nesaf

22 Medi (Wrecsam), 24 Tachwedd 2023

16 Chwefror, 17 Mai, 12 Gorffennaf, 20 Medi, 22 Tachwedd 2024

Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod manwl gywir yng nghyfarfod y Bwrdd ar 22 Medi 2023.