Skip to main content
  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Papurau Bwrdd Chwaraeon Cymru
  4. Cofnodion cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 12 Mai 2023 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Cofnodion cyfarfod Bwrdd Chwaraeon Cymru a gynhaliwyd ddydd Gwener 12 Mai 2023 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Pippa Britton (Is Gadeirydd), Ashok Ahir, Ian Bancroft (Eitemau 1-5.6), Hannah Bruce, Dafydd Davies (Eitemau 1–5.5), Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Yr Athro Leigh Robinson, Phil Tilley, Alison Thorne, Martin Veale

STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Jo Nicholas, Owen Lewis, James Owens, Craig Nowell, Liam Hull, Fay Benningwood, Claire Skidmore, Amanda Thompson (cofnodion)

ALLANOL: Neil Welch (Llywodraeth Cymru), Jac Chapman (Panel Ieuenctid), Eloise Stingemore (Step to Non Exec).

1.   Croeso / ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Rajma Begum a Judi Rhys. Llongyfarchodd yr Aelodau Brian Davies ar ei benodiad ffurfiol yn Brif Swyddog Gweithredol.

2.   Datgan budd

Nicola Mead-Batten, mae TLT Solicitors yn gweithredu fel cynghorydd cyfreithiol i Sport England.

3.   Cofnodion y cyfarfod diwethaf dyddiedig 17 Chwefror 2023, cofnod gweithredu a materion yn codi

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod manwl gywir. Materion yn codi:

•     Roedd y staff wedi rhoi adborth cadarnhaol ar y system ariannol newydd.

•     Ni chyhoeddwyd penderfyniad ffurfiol ynghylch Canlyniad Barnett o ran cyllid i gefnogi costau ynni cynyddol pyllau nofio. Roedd Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn parhau i weithio ar hyn.

4.   Adroddiad y Cadeirydd a’r Weithrediaeth – SW(23)14

Tynnwyd sylw at yr eitemau canlynol a’u trafod:

Ymchwiliad Adolygiad Annibynnol URC: Nid oedd y ddau adroddiad cyntaf wedi bod yn gynhwysfawr iawn ond roedd disgwyl i'r trydydd adroddiad gynnwys mwy o fanylion am y cynnydd a wnaed. Byddai dysgu o'r profiad hwn yn bwysig, yn enwedig yng ngoleuni'r hinsawdd anwadal bresennol o ran llywodraethu, safonau a moeseg.

•     Roedd pryder ynghylch gallu clybiau i ymdrin â materion o'r fath.

•     Roedd y broses gwyno, rôl Chwaraeon Cymru yn y maes hwn a phroses ar gyfer staff a allai ddatgelu pryderon o fewn sefydliadau partner neu hyd yn oed deimlo bod staff sefydliadau partner yn gwahaniaethu yn eu herbyn dan ystyriaeth.

•     Roedd y Weithrediaeth wedi egluro rôl anrheoleiddiol Chwaraeon Cymru gyda Phwyllgor y Senedd.

Dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion: Byddai'r panel, gyda chefnogaeth tri aelod o'r Bwrdd, yn adolygu'r sgôr terfynol yn fuan. Roedd mwy o ystyriaethau i'w hystyried a byddai'r penderfyniad ar lefel y buddsoddiad a'r dull gweithredu yn cael ei ddwyn yn ôl ger bron y Bwrdd ym mis Gorffennaf.

Buddsoddiad Cyfalaf: Roedd nifer cynyddol o sefydliadau yn cofrestru yn y cam Mynegi Diddordeb.

Cais Chwaraeon Tîm i newid y model buddsoddi: Cadeiriwyd y cyfarfod gan Is-adran Chwaraeon Llywodraeth Cymru ar 5 Mai. Mae pob un o'r pum camp wedi arwyddo eu cynigion buddsoddi bellach.

Byddai Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol newydd Gemau’r Gymanwlad Cymru yn cyfarfod â Chwaraeon Cymru ar 16 Mai.

Diogelu: Yn disgwyl i DCMS gyhoeddi strategaeth ond nid oedd amserlen benodol ar gyfer hyn. Gwariwyd symiau mawr yn Lloegr ar fesurau diogelu ond nid oedd y lefel honno o adnoddau ar gael yng Nghymru.

Diweddariad ar waith hybrid: Roedd y gweithgor trawslywodraethol a edrychodd ar y mater hwn yn canolbwyntio mwy ar effeithlonrwydd cyfleusterau, tra mai lles a diwylliant oedd blaenoriaeth Chwaraeon Cymru. Roedd y syniadau gwreiddiol wedi newid yn sgîl y sefyllfa costau byw a mwy o staff yn dychwelyd i'r swyddfa. Byddai'r arolwg staff nesaf yn cael ei gyhoeddi dros yr haf. Roedd y gofod yn CGChC wedi'i aildrefnu ond nid o reidrwydd at ddibenion llogi. Roedd disgwyl diweddariad yn ôl ger bron y Bwrdd ym mis Medi.

Cytunwyd i ailenwi’r English Institute of Sport yn UK Sports Institute yn 2019 ac nid oedd disgwyl canlyniad negyddol. Roedd hon yn farchnad gystadleuol gan fod yn well gan rai CRhC fynd at ddarparwyr preifat. Roedd Chwaraeon Cymru yn croesawu’r gallu i ddefnyddio ymarferyddion eraill ac roedd y newid yn helpu i egluro rôl Chwaraeon Cymru ei hun oedd ag enw da.

Byddai recriwtio ar gyfer swydd Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon yn digwydd dros yr haf. Ers ymadawiad y Prif Swyddog Gweithredol blaenorol, roedd y ddau Gyfarwyddwr Cynorthwyol wedi camu i fyny i lenwi'r rôl wag a diolchwyd iddynt am eu cyfraniadau. Diolchwyd i LH am ei waith ar y broses o recriwtio Prif Swyddog Gweithredol.

5.   Polisi a Strategaeth

5.1        Cydnabod Padlfyrddio Yn Sefyll (SUP) Canŵio Cymru – SW(23)15

Yn dilyn trasiedi Padlfyrddio Yn Sefyll (SUP) yng Ngorllewin Cymru ym mis Hydref 2021 ac adroddiad y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) o ganlyniad, gwnaeth y papur hwn dri argymhelliad:

(i)   Cadarnhau y bydd CRhC Canŵio Cymru yn cael cydnabod Padlfyrddio Yn Sefyll fel disgyblaeth Canŵio.

(ii)  Cefnogaeth ariannol untro o hyd at £48k i Ganŵio Cymru i gynorthwyo gyda datblygu diogelwch SUP mewn perthynas ag Adroddiad MAIB.

(iii) Cadarnhau bod Ffederasiwn Syrffio Cymru wedi'i ddadgydnabod o SUP ac wedi cael cynnig cefnogaeth i wella ei lywodraethu drwy broses adolygu cydnabyddiaeth lawn.

Byddai Chwaraeon Cymru yn adolygu ei bolisi cydnabod i sicrhau bod mwy o graffu ar risg a diogelwch a byddai’n gwirio a ddylai’r gamp ddarparu mwy o wybodaeth i’w chyfranogwyr ynghylch y gofynion ar gyfer offer, hyfforddwyr, diogelu, diogelwch ac ati.

Gallai Syrffio Cymru apelio yn erbyn y penderfyniad hwn ond dim ond ar sail y broses ac nid y canlyniad. Fodd bynnag, roedd yr adolygiad wedi'i gynnal gan ymgynghorydd annibynnol ac roedd British Surfing yn ymwybodol mai dyma'r argymhelliad tebygol. Byddai Chwaraeon Cymru yn cefnogi Syrffio Cymru i ddatblygu eu galluoedd i sicrhau bod syrffwyr yn cael eu diogelu. Byddai Chwaraeon Cymru unwaith eto yn pwyso ar Ganŵio Cymru a Syrffio Cymru i gytuno ar Femorandwm o Ddealltwriaeth. Roedd gan y ddwy gamp yn Lloegr un ar waith eisoes a byddai'r ddwy yn cydweithio i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Byddai'r gefnogaeth i Ganŵio Cymru hefyd yn helpu'r gamp i gysylltu â British Canoeing.

Cymeradwyodd yr Aelodau'r argymhellion fel yr amlinellwyd uchod.

5.2        Dadgydnabod Ju Jitsu Prydain – SW(23)16

Yn dilyn Cyfarfod y Bwrdd ym mis Mai 2023, mae’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol wedi cytuno ar y cywiriadau a amlinellir isod. Bydd y newidiadau hyn hefyd yn cael eu cyfathrebu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2023.

Roedd y papur hwn yn argymell dadgydnabod Corff Rheoli Cymdeithas Jiu-Jitsu Prydain (BJJAGB). Cwblhawyd adolygiad cydnabyddiaeth gan Sport England a ddarparodd gefnogaeth a chyfleoedd fel y gallai BJJAGB fodloni'r safonau cydnabod, fodd bynnag ni chyflawnwyd hyn. Cytunwyd ar y penderfyniad i ddadgydnabod BJJAGB gan Banel Cydnabod y DU. Cytunwyd ar yr argymhelliad i ddadgydnabod BJJAGB gan Banel Cydnabod y DU.

Byddai jiu-jitsu fel camp yn parhau i gael ei chydnabod ond, heb CRhC cydnabyddedig ym Mhrydain, ni fyddai Chwaraeon Cymru yn cyllido clybiau jiu-jitsu drwy Gronfa Cymru Actif nac unrhyw ffrwd gyllido arall gan fod jiu-jitsu yn cael ei hystyried yn gamp beryglus.

Gofynnodd yr aelodau am y rhesymeg dros ddadgydnabod ac am weld manylion yr asesiad risg, gan leisio pryderon ynghylch cydraddoldeb a chynhwysiant hefyd. Craffwyd ar y mater yn Lloegr ond nid oedd asesiad effaith penodol i Gymru wedi’i gynnal. Roedd pryder ynglŷn â siomi ymarferyddion jiu-jitsu o Gymru ond nodwyd nad oedd unrhyw glybiau wedi dod ymlaen i ofyn am sefydlu CRhC i Gymru. Fel corff nad yw'n rheoleiddio, dim ond rôl gynghori oedd gan Chwaraeon Cymru.

Byddai’r aelodau'n aros i glywed barn yr holl Fyrddau HCSC eraill cyn gwneud penderfyniad. Byddai'r aelodau'n aros i glywed barn holl Fyrddau eraill Cynghorau Chwaraeon y Gwledydd Cartref cyn cyhoeddi ei benderfyniad.

5.3        Cydnabod Rygbi Cyffwrdd a Chymdeithas Rygbi Cyffwrdd Lloegr – SW(23)17

Roedd y papur hwn yn argymell cymeradwyo cydnabod Rygbi Cyffwrdd fel camp unigryw ac i Gymdeithas Rygbi Cyffwrdd Lloegr gael ei chydnabod fel ei chorff rheoli cenedlaethol yn Lloegr. Gofynnodd yr aelodau am gael gwybod beth oedd barn Undeb Rygbi Cymru a Rygbi’r Gynghrair Cymru cyn gwneud penderfyniad.

5.4        Cyfleuster CGChC yn y Dyfodol – Achos Busnes Amlinellol – SW(23)18

Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan Grŵp Adolygu Cyfleusterau’r Bwrdd a gofynnodd i’r Aelodau ystyried yr Achos Busnes Amlinellol drafft ar anghenion cyfleusterau CGChC yn y dyfodol a chytuno ar y camau nesaf.

•     Roedd llawer wedi’i ddysgu o’r ymweliad â chyfleusterau Sport Ireland yn Nulyn ac roedd cael cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru yno’n fuddiol hefyd.

•     Byddai’r cysyniad hwb yn Iwerddon yr un mor briodol i Gymru.

•     Roedd angen mireinio’r meini prawf ar gyfer dewis safle ar gyfer Opsiwn 4 (adeilad newydd) ymhellach a byddai hyn yn cael ei drafod yn drylwyr yn sesiwn manwl y Bwrdd (dros dro ar 22 Mehefin). Byddai arweiniad / dylanwad gwleidyddol ynghyd â phwysoli blaenoriaethau eraill yn bwysig.

•     Roedd £5m wedi'i gyllidebu dros dro ar gyfer caffael safle.

Cymeradwyodd yr Aelodau yr Achos Busnes Amlinellol drafft a'r camau nesaf.

5.5        Canolfannau Cenedlaethol – Cytundebau Rheoli Cyfleusterau – SW(23)19

Yn dilyn penderfyniad Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru i lunio cytundeb partneriaeth gyda Parkwood Leisure Limited ar gyfer rheoli Plas Menai, cynigiodd cyngor cyfreithiol ei bod yn fwy priodol cael FMAs ar wahân ar gyfer pob eiddo. Y newid allweddol yn yr FMA ar gyfer Plas Menai oedd y cyfeiriad at Parkwood Leisure Limited. Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol eraill. Hysbyswyd y Bwrdd o'r farn gyfreithiol ar orfodadwyedd o ystyried mai Chwaraeon Cymru yw ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Cyngor Chwaraeon Cymru. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol mewn perthynas â hawliad Chwaraeon Cymru o ran enillion unrhyw werthiant yn y dyfodol, o dan adran 4.4. Nid oedd y cyngor cyfreithiol hwn yn newydd ac fe’i hysbyswyd yn flaenorol i Chwaraeon Cymru pan lofnodwyd cytundeb 2018.

Cymeradwyodd yr Aelodau yr FMAs ar wahân.

CAM GWEITHREDU: Yn unol â chais yng nghyfarfod Ymddiriedolaeth CChC, byddai cyngor cyfreithiol ychwanegol yn cael ei geisio i egluro pam na fyddai Cymal 4.4 efallai'n orfodadwy a goblygiadau'r mater hwnnw.

5.6        System Chwaraeon Gynhwysol – cyflwyniad

Nododd yr aelodau gynnwys y cyflwyniad. Pwyntiau trafod:

•     Er mwyn gwella cynhwysiant mae'n rhaid i bartneriaid gydweithio mwy a bydd angen i Chwaraeon Cymru wneud mwy i sicrhau bod hynny'n digwydd. Mae ISS wedi bod yn ddarn cymhleth o waith ac mae angen cynnal momentwm a chymhelliant.

•     Mae'n cymryd amser i greu uchelgais a newid y meddylfryd.

•     Angen ysgogi uchelgais i wneud pethau'n wahanol, wedi'i gydbwyso yn erbyn dychryn partneriaid drwy ofyn am rywbeth trawsnewidiol a all fod yn frawychus neu'n llethol.

•     Awgrym o brosiect rheoli newid peilot gyda CRhC i ryddhau amser staff a lleihau eu costau, gan alluogi i fwy o'r cyllid fynd i weithgareddau rheng flaen.

•     Annog y sector chwaraeon i gefnogi ysgolion i feithrin hyder athrawon, ond heb unrhyw beth penodol sy'n rhoi mwy eto i staff addysgu ei wneud. Byddai Chwaraeon Cymru yn cyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru cyn gwyliau’r haf

5.7        Diogelwch Seibr / Data - cyflwyniad

Nododd yr aelodau gynnwys y cyflwyniad. Y prif bryder oedd y risg uchaf o ymosodiad seibr yn dod ‘drwy’r drws cefn’ drwy un o’r un ar ddeg CRhC yn CGChC. Roedd y rhain i gyd yn cael cefnogaeth gan Ddatrysiadau Technoleg i wahanol raddau ac roedd y staff wedi darparu cymaint o gefnogaeth â phosibl. Byddai diogelu pob un o’r un ar ddeg CRhC yn llawn yn costio £300k ychwanegol. Roedd hwn yn parhau i fod yn fater heriol pan oedd Chwaraeon Cymru eisiau i’r sector chwaraeon cyfan fod mor ddiogel â phosibl.

6.   Cyllid

Ni chyflwynwyd unrhyw bapurau ffurfiol. Rhoddwyd diweddariad byr i ddweud bod Chwaraeon Cymru ymhell o fewn y terfyn cario drosodd blynyddol o 2% a bod y gwariant cyfalaf terfynol ar gyfer 2022/23 yn agos iawn at y targed.

O ran y gronfa bensiwn, yn draddodiadol roedd bob amser ddiffyg sylweddol bob blwyddyn ond byddai 2022/23 mewn sefyllfa unigryw o ddangos gwarged ymddangosiadol. Roedd y staff yn ymgynghori ag actiwarïaid i ddeall y ffenomen hon yn well. Profwyd yr un sefyllfa mewn sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus.

7.   Adroddiadau Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd – SW(23)20

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion allweddol a'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfodydd hyn ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd ym mis Chwefror.

•     Bwrdd Prosiect Partneriaeth Chwaraeon: Roedd cynnydd wedi'i wneud yng Ngorllewin Cymru ond roedd pethau wedi bod yn siomedig o araf yn y gweddill ac yn arbennig o heriol gyda rhai partneriaid a oedd yn gwrthwynebu newid. Fodd bynnag, ers ysgrifennu'r adroddiad, roedd cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud yng Nghanolbarth y De. Byddai cyfarfod lefel Prif Weithredwr yn cael ei gynnal ym mis Mehefin gyda Phrif Weithredwyr awdurdod lleol Gwent a byddai Ian Bancroft yn bresennol hefyd. Y gobaith oedd y byddai Canolbarth Cymru yn mynegi eu ffordd ymlaen erbyn y dyddiad cau ar ddechrau mis Mehefin.

•     Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg: Roedd yr adroddiadau sy'n weddill gan yr archwilwyr mewnol Deloitte LLP wedi'u derbyn a'u dosbarthu i aelodau ARAC.

8.   Unrhyw Fater Arall

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

9.   Dyddiadau’r Cyfarfodydd Nesaf

7 Gorffennaf, 22 Medi (Wrecsam), 24 Tachwedd 2023

Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 7 Gorffennaf 2023.