Skip to main content

Cofnodion Bwrdd Tachwedd 2023

Cyfarfod o Fwrdd Chwaraeon Cymru ar ddydd Gwener 24 Tachwedd 2023 yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

YN BRESENNOL: Y Farwnes Tanni Grey-Thompson (Cadeirydd), Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Dafydd Davies, Delyth Evans, Nicola Mead-Batten, Yr Athro Leigh Robinson, Judi Rhys, Martin Veale, Rajma Begum, Philip Tilley, Nuria Zolle, Chris Jenkins, Rhian Gibson; Hannah Bruce

STAFF: Brian Davies (Prif Swyddog Gweithredol), Graham Williams, Emma Wilkins, Rachel Davies, Owen Hathway, Owen Lewis, James Owens, Jess Williams, Cath Shearer (eitem 5.3), Wendy Yardley (cofnodion)

Arsylwyr o Blith y Staff: Stephen DeAbreu

Allanol: (Dirprwy Weinidog, Dawn Bowden AS), Eloise Stringemore (Step to Non-Exec), Bethan Davies (Athletwraig dros Gymru a Chydlynydd, Athletau Cymru), Neil Welch (Llywodraeth Cymru)

1. Croeso / Ymddiheuriadau am absenoldeb

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Dim ymddiheuriadau. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau newydd, sef Ian Bancroft (Is Gadeirydd), Chris Jenkins, Rhian Gibson a Nuria Zolle, yn ffurfiol. Croesawodd hefyd y Dirprwy Weinidog (DW) i'r cyfarfod. Llongyfarchwyd Chris Jenkins ar ei benodiad diweddar yn Llywydd Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad (CGF) ac i Wendy Yardley ar ei phenodiad fel Cynorthwy-ydd Gweithredol.

Gan fod amser yn brin i’r DW, newidiwyd trefn yr agenda (symudwyd eitem 5.3 i’w thrafod yn gyntaf). Eglurodd y DW ei bod yma i wrando ar y Bwrdd ac i ddweud diolch wrth bawb am yr holl waith oedd wedi cael ei wneud hyd yma. Fodd bynnag, mae’r sector cyfan bellach yn wynebu heriau sylweddol ac, oherwydd y darlun economaidd ynghyd â datganiad y Canghellor yn yr hydref, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’w hamgylchiadau mwyaf heriol ers datganoli. Mae sgyrsiau anodd wedi’u cynnal gyda Chwaraeon Cymru ynghylch cyllidebau, a byddwn yn gweithio mor agos â phosibl i leihau’r effaith. Bydd dewisiadau anodd o'n blaen.

Diolchodd y Cadeirydd i'r DW a dywedodd ein bod ni i gyd yn awyddus i wneud yn siŵr bod pŵer chwaraeon yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf.

2. Datgan budd (os yw'n newydd)

Chris Jenkins – Llywydd CGF (Ffederasiwn Gemau’r Gymanwlad)

Rhian Gibson – Cyfarwyddwr Clwb Rygbi Pontypridd

Ian Bancroft – Prif Swyddog Gweithredol CBS Wrecsam, mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau ar Bartneriaethau Chwaraeon

3. Cofnodion y cyfarfodydd diweddaf

3.1 Cofnodion, Log Gweithredu, Tracwyr Penderfyniadau a Materion yn Codi

Ers y cyfarfod diwethaf ar 22 Medi, cymeradwywyd a chyhoeddwyd y cofnodion wedi’u cywiro o 12 Mai 2023 ar-lein. Mae British Ju Jitsu wedi gweithredu ar y cyfle i gyflwyno tystiolaeth bellach mewn apêl. Felly, mae dadgydnabod / cydnabod yn yr arfaeth. Mae angen adolygu'r broses “Cydnabod” yn gyffredinol. Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod gwir a manwl gywir. Nid oedd unrhyw faterion yn codi. Pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.

4. Adroddiad y Cadeirydd a'r Weithrediaeth – SW(23)38

Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol y canlynol at yr adroddiad:

  • Adolygiad URC – cwblhawyd adroddiad Rafferty mewn 7 mis ac mae bellach wedi'i gyhoeddi ar wefannau URC a Sport Resolutions. Mae'n cynnwys nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys sefydlu corff Goruchwylio. Roedd URC eisoes wedi cysylltu â Chwaraeon Cymru ynghylch sefydlu'r grŵp hwnnw. Nid yw Chwaraeon Cymru yn cyllido URC o hyd gan fod amodau heb eu bodloni o hyd ac mae’n rhaid i’r Undeb eu bodloni. Trafododd aelodau'r Bwrdd bwysigrwydd llywodraethu da yn gyffredinol a'i bod yn bwysig dysgu gwersi o'r sefyllfa a'u rhoi ar waith.
  • Ymddeoliadau Staff a chyhoeddiadau: Rhewi posibl ar recriwtio ar ôl y newyddion am gyllid gan Lywodraeth Cymru.

5. Polisi a Strategaeth

5.1 Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) – ymchwil SW(23)39

Rhoddodd OH gyflwyniad i'r Bwrdd. Dechreuodd y gwaith a gomisiynwyd yn 2018 ac er i Covid darfu ar y gwaith, ailddechreuwyd yr ymchwil yn 2020. Mae canlyniadau’r arolwg cyflwr y genedl wedi’u cyhoeddi bellach ac maent yn dangos elw anhygoel o £4.44 am bob £1 o fuddsoddiad cyhoeddus mewn chwaraeon. Yn ogystal, mae manteision cydlyniant cymdeithasol chwaraeon yn amlwg hefyd ac mae effaith gwirfoddoli mewn chwaraeon yn werth tua £430m. Roedd rhai sylwadau gan y Bwrdd yn cynnwys y ffaith ei bod yn amlwg bod elw cymdeithasol yn bwysig, a bod angen i ni ei adlewyrchu rywsut mewn ffurf ar gyfrifyddu cymdeithasol gyda phartneriaid. Dywedodd y DW ei bod yn wybodaeth ddefnyddiol, ac y byddai'n bwydo'n ôl i adrannau eraill o fewn Llywodraeth Cymru. Mae cais am gyfarfod â gwahanol Weinidogion wedi cael ei anfon eisoes gan Chwaraeon Cymru.

5.2 Cyllideb 2024-25 SW (23)40

Roedd Cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ar ddydd Mawrth 28 Tachwedd a gofynnwyd i Chwaraeon Cymru gynhyrchu asesiadau risg effaith ar gyfer sawl senario o doriadau i’r gyllideb erbyn diwedd y diwrnod gwaith heddiw. Bydd yr effaith yn sylweddol, a bydd ystod o opsiynau’n cael eu cynhyrchu gan y Weithrediaeth i'r Bwrdd eu hystyried. Mae cyfathrebu cynnar gyda'r sector yn bwysig a byddai cyfarfodydd ar-lein a thrafodaethau Bwrdd ychwanegol yn cael eu trefnu.

5.3 Llais / Panel yr Athletwyr SW(23)41

Diolchodd Cath Shearer (CS) i'r Bwrdd am ganiatáu iddi hi a Bethan Davies (BD) ddod i'r cyfarfod i roi rhywfaint o gyd-destun a chefndir i’r prosiect panel athletwyr ynghyd â darparu profiad athletwr. Roedd y panel athletwyr wedi'i hen sefydlu bellach gyda chynrychiolaeth weddol dda. Mae'n darparu ar gyfer sgyrsiau agored a gonest ond maent yn ceisio gwella ei amrywiaeth ethnig gyda dulliau rhagweithiol o weithredu gydag athletwyr. Mae gan y Panel gysylltiad cryf â Thîm Cymru a chynigiodd RB gefnogaeth hefyd.

Gadawodd y Dirprwy Weinidog y cyfarfod am 1015.

5.4 Dull Buddsoddi – System Chwaraeon Llewyrchus SW(23)42

Rhoddodd OL gyflwyniad ar y trydydd grŵp a'r grŵp olaf o Bartneriaid yr oedd angen pennu eu methodoleg buddsoddi. Mae nifer y partneriaid a fyddai'n gymwys i wneud cais yn fach, sef tri ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd pob un ohonynt yn chwarae rhan unigryw wrth ddarparu ar gyfer sicrhau bod chwaraeon yng Nghymru yn ffynnu. Cymeradwyodd y Bwrdd yr argymhelliad.

5.5 Diweddariad ar Gynllun Busnes 2023-24 SW(23)43

Manylion allweddol o'r cyflwyniad - lansio'r Hwb Adnoddau Amgylcheddol; Lansio Citbag; Gwybodaeth Partneriaid o'r dyfarniad costau byw.

Dim meysydd o bryder sylweddol wedi’u nodi na’u codi, fodd bynnag, bu rhywfaint o drafodaeth ar y gwelliannau sydd eu hangen i gynhyrchu incwm masnachol ar draws y sector. Croesawyd y ffocws parhaus ar addysg a chyfeiriwyd hefyd at y potensial i fowldio ein ffocws Amgylcheddol a chafodd gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei grybwyll hefyd.

6. Cyllid a Risg

6.1 Cyfrifon Statudol – SW(23)44

Mae'r Cyfrifon bellach wedi'u cymeradwyo yn dilyn cadarnhad gan Archwilio Cymru nad oedd unrhyw anghysondebau pensiwn. Llongyfarchodd MV (Cadeirydd ARAC) yr holl staff a oedd yn gysylltiedig â’r cyfrifon.

6.2 Cyllid 2022 / 23 Adroddiad Mis 5 – SW(23)45

Cymeradwyodd y Bwrdd y Rhagolwg o danwariant a thrafodwyd y terfyn arian cario drosodd o 2% sy'n cyfateb i tua £650k. Mae Chwaraeon Cymru wedi’i wahardd rhag cadw cronfeydd wrth gefn, felly a ddylem ofyn am gynnydd cario drosodd.

Cam Gweithredu – EW i ofyn am eglurder ar derfyn cario arian drosodd LlC.

6.3 Cofrestr Risg Gorfforaethol SW(23)46

I bob pwrpas, cododd y toriad yn y gyllideb y risg honno i fod yn fater sy’n cael sylw. Dywedodd PT bod Parkwood Leisure (Plas Menai) wedi'i ddosbarthu fel isel ond y dylid parhau i adolygu hynny oherwydd y pwysau ariannol cyffredinol. Cais wedi'i wneud i'r Bwrdd - mae arnom ni angen Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch a Hyrwyddwr Diogelu.

Cam Gweithredu – Hyrwyddwr Iechyd a Diogelwch a Hyrwyddwr Diogelu

6.4 Adolygiad Llywodraethu'r Bwrdd – diweddariad

Byddai trafodaeth yn y cyfarfod nesaf o’r Bwrdd.

7. Adroddiadau Grwpiau a Phwyllgorau Sefydlog y Bwrdd

7.1 Crynodeb o Bwyllgorau ac Is-grwpiau'r Bwrdd – SW(23)47

Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion allweddol a'r penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfodydd hyn ers cyfarfod blaenorol y Bwrdd ym mis Medi. Nododd yr Aelodau yr adroddiad, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

8. Unrhyw Fater Arall

Ymchwilio i gynnal cyfarfod Bwrdd mewn lleoliad yng Ngorllewin Cymru yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

9. Dyddiad y cyfarfodydd nesaf: 16 Chwefror 2024

17 Mai, 12 Gorffennaf, 20 Medi, 22 Tachwedd 2024

Roedd y cofnodion wedi’u trefnu i gael eu cymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod nesaf ar 16 Chwefror 2024.

Cymeradwywyd y cofnodion gan y Bwrdd ar 16 Chwefror 2024.