Skip to main content

Lle i Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Lle i Chwaraeon

Mae buddsoddiad o £5m mewn cyfleusterau wedi helpu Cymru i ddod yn lle gwell i chwaraeon.

Mae cronfa ‘Lle i Chwaraeon’, sydd wedi cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru i Chwaraeon Cymru yn 2019, wedi cael ei defnyddio i helpu i foderneiddio, diogelu neu greu cyfleusterau newydd ym mhob cwr o’r wlad. 

Defnyddiwyd £4m ar gyfer prosiectau mawr fel gosod mwy o gaeau artiffisial yn eu lle ond sicrhawyd bod £1m ar gael fel cronfa agored y gallai clybiau a sefydliadau cymunedol wneud cais iddi. Rhannwyd yr arian rhwng 118 o brosiectau o 28 o wahanol chwaraeon. 

O drac athletau newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i arwynebau newydd i gyrtiau tennis yn y Rhyl a phafiliwn bowlio newydd yn y Gelli Gandryll, dyma rai o’r prosiectau newydd a gafodd gyllid Lle i Chwaraeon yn 2019. 

Ariannwyd gan Lle i Chwaraeon 

Overhang, Caerfyrddin

Ardal: Sir Gaerfyrddin 
Dyfarnwyd: £35,082

Mae’r gweddïau am ehangu dringo – sy’n gamp yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn 2020 –wedi cael eu hateb yng Nghaerfyrddin lle mae hen eglwys yn cael ei throi’n ganolfan ddringo dan do.

Mae’r eglwys, sydd o fewn pellter cerdded i ganol y dref, yn berffaith ar gyfer dringo oherwydd mae’n gallu cynnwys waliau hyd at 14m o uchder, yn ogystal â digon o ofod ar gyfer clogfeinio. Hefyd bydd y cyfleuster yn cael ei addasu i fod yn addas i bobl ag anableddau.

 

Clwb Bowlio’r Gelli Gandryll

Ardal: Powys 
Dyfarnwyd: £15,000

Prosiect: Bydd y grant Lle i Chwaraeon yma’n helpu’r clwb i adeiladu pafiliwn newydd a fydd yn dod yn lleoliad llawn bwrlwm mewn cymuned wledig lle gall pob cenhedlaeth ddod at ei gilydd i fod yn egnïol a chymdeithasol. Yn ogystal â gwneud bowlio’n fwy apelgar fel camp, ac adfywio adran iau y clwb gobeithio, bydd y pafiliwn newydd hefyd yn cynnig sawl dosbarth ffitrwydd, nosweithiau bingo/gemau, a sesiynau MIND i gael effaith bositif ar les ac iechyd cymdeithasol a meddyliol.

 

Cyngor Sir Benfro

Ardal: Sir Benfro 
Dyfarnwyd: £38,200

Prosiect: Mae cyllid Lle i Chwaraeon wedi cael ei ddyfarnu i’r cyngor fel bod modd creu dau drac beicio newydd drwy goetir Parc Gwledig Maenor Scolton ger Hwlffordd. Bydd un yn llwybr byr addas i deuluoedd a’r ail yn drac ‘pwmpio’ steil BMX ar gyfer beicwyr o bob oedran a bydd yn cynnwys sawl ramp a thro.

 

Clwb Tennis Y Rhyl

Ardal: Sir Ddinbych 
Dyfarnwyd: £25,000

Prosiect: Bydd wyth cwrt tennis bach y mae’n amhosib chwarae arnynt ar hyn o bryd yn cael eu gwella i gyrraedd yr un safon uchel â’r cyrtiau maint llawn gerllaw y mae oedolion yn chwarae arnynt yn y clwb.

Gyda chwe ysgol gynradd ddim ond pellter ergyd gan Andy Murray o’r clwb, mae potensial aruthrol i ddwsinau o blant gymryd rhan yn y gamp ar y cyrtiau sydd o faint delfrydol i blant dan 10 oed.

 

Clwb Gwarchod Bywyd Aberafon

Ardal: Castell-nedd Port Talbot 
Dyfarnwyd: £8,138

Prosiect: Bydd prynu byrddau achub a radios VHF llaw sy’n dal dŵr yn galluogi aelodau’r clwb i ddarparu gwasanaeth diogelwch o safon uchel mewn digwyddiadau nofio dŵr agored a thriathlon dŵr agored sy’n cynyddu mewn poblogrwydd ar hyd arfordir Cymru.

 

Cyngor Cymuned Llandochau

Ardal: Bro Morgannwg 
Dyfarnwyd: £20,000

Prosiect: Bydd cyllid Lle i Chwaraeon yn cael ei ddefnyddio i greu man gemau aml-ddefnydd (MUGA) ar Gaeau Chwarae Coffa Brenin Siôr V lle gellir chwarae pêl droed, pêl fasged, pêl rwyd a hoci i gyd. Mae’r cyngor cymuned wedi sicrhau grant o £44,600 eisoes tuag at y prosiect o gronfa ‘Cymunedau Cadarn’ Cyngor Bro Morgannwg.

 

Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr

Ardal: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 
Dyfarnwyd: £50,000

Prosiect: Bydd cyllid Lle i Chwaraeon, ynghyd â chyfraniadau gan y clwb ei hun, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, yn galluogi i’r trac 300m ar Gaeau Newbridge gael ei newid am un newydd.

Bydd y trac newydd sbon yn cael ei groesawu gan redwyr y clwb a defnyddwyr cymunedol fel ei gilydd. Gyda chanolfan les newydd yn cael ei hadeiladu gyferbyn, mae’r trac hefyd yn cynnig potensial cyfeirio gwych i gleifion ddefnyddio’r trac i wella eu hiechyd a’u lles.Bydd y trac newydd yn cynnwys synwyryddion technoleg glyfar hyd yn oed, a fydd yn galluogi rhedwyr i fonitro eu symudiad.

 

Clwb Gymnasteg Stryd y Gorllewin, Gorseinon

Ardal: Abertawe 
Dyfarnwyd: £17,600

Prosiect: Ar ôl bod wrth galon y gymuned am 40 mlynedd, mae cyfleuster y clwb yng Ngorseinon angen gwaith atgyweirio sylweddol. Bydd y to sy’n gollwng, fframiau’r ffenestri a’r toiledau sydd wedi dyddio i gyd yn cael eu huwchraddio i greu canolfan fodern y gall aelodau’r clwb sydd rhwng tri a 26 oed ei mwynhau, yn ogystal ag ysgolion lleol.

 

Ysgol Uwchradd Hawthorn, Pontypridd

Ardal: Rhondda Cynon Taf 
Dyfarnwyd: £6,445

Prosiect: Bydd basgedi newydd y mae posib eu haddasu ac sy’n addas ar gyfer pob oedran yn cefnogi uchelgais yr ysgol o ehangu’r cyfleoedd pêl fasged i’w disgyblion. Mae’r ysgol yn gobeithio cofrestru tîm i gystadlu yng nghynghrair ysgolion De Cymru a bydd y cyfleusterau gwell o fudd hefyd i Glwb Panthers Pontypridd a Phêl Fasged Cymru, sy’n defnyddio neuadd yr ysgol.

 

Cymdeithas Feicio Glan Morfa (Trac Marsh), Y Rhyl

Ardal: Sir Ddinbych 
Dyfarnwyd: £6,511

Prosiect: Gall beicwyr Trac Marsh edrych ymlaen at ddyfodol gwell diolch i gyllid a fydd yn helpu’r clwb i uwchraddio ei lifoleuadau gwan i oleuadau LED modern. Bydd amgylchedd diogelach, wedi’i oleuo’n well, yn helpu i sicrhau cynnydd dramatig yn y defnydd o’r trac gyda’r nos.

 

Newport Live

Ardal: Casnewydd 
Dyfarnwyd: £30,102

Prosiect: Bydd y cyllid yma’n cefnogi adnewyddu ac ailagor canolfan yr YMCA ym Mhillgwenlli. Bydd y ganolfan yn cael offer modern fel ei bod yn cael cynnig campfa gymunedol a rhaglen o ddosbarthiadau ymarfer, gan ddarparu hwb y mae croeso mawr iddo i iechyd, ffitrwydd a lles yn un o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

 

Campfa Hyfforddiant Personol Keri Mckibbin, Porth Tywyn

Ardal: Sir Gaerfyrddin 

Dyfarnwyd: £17,286

Prosiect: Mae’r ganolfan hyfforddi un stop ym Mhorth Tywyn yn trawsnewid ei gofod awyr agored yn gwrt pêl droed/pêl rwyd/pêl fasged gyda’r holl byst angenrheidiol, llinellau wedi’u paentio, llifoleuadau ac arwyneb proffesiynol. Hefyd mae gan y gampfa gynlluniau ar gyfer rig awyr agored gydag offer hyfforddi crog, barrau mwnci, dringo rhaff ac atodiadau pwysau.

 

Clwb Pêl Droed Brickfield Rangers, Wrecsam

Ardal: Wrecsam 
Dyfarnwyd: £18,720

Prosiect: Bydd prynu llifoleuadau symudol newydd yn galluogi’r clwb i greu ardal hyfforddi newydd gyda llifoleuadau a fydd yn hwb aruthrol i’w dimau iau, hŷn, merched, cerdded, feteran ac anabledd.

 

Antur Parc Margam

Ardal: Castell-nedd Port Talbot 
Dyfarnwyd: £5,154

Prosiect: Prynu chwe threic newydd i bobl ag anableddau eu reidio, yn ogystal ag unrhyw un sy’n teimlo’n llai cyfforddus yn reidio beic dwy olwyn. Bydd cynhwysydd storio’n cael ei brynu ar gyfer y treiciau hefyd, i ategu’r gweithgareddau cynhwysol sy’n cael eu cynnig eisoes yn y parc gwledig, fel canŵio a chaiacio.

 

Undeb Beicio Cymru

Ardal: Casnewydd a Chonwy 
Dyfarnwyd: £12,310

Prosiect: Mae sawl beic unigol a thandem hygyrch, yn ogystal â nifer o feiciau balans, yn cael eu prynu fel bod posib sefydlu dwy ganolfan parafeicio. Bydd un yn Nhrac Athletau Parc Eirias ym Mae Colwyn a bydd y llall yng Nghasnewydd, lle bydd y felodrom dan do a’r trac athletau gerllaw yn cael eu defnyddio.

 

Clwb Tennis Bwrdd y Rhondda

Ardal: Rhondda Cynon Taf 
Dyfarnwyd: £728

Prosiect: Mae cyllid yn cael ei ddefnyddio gan glwb Tonypandy i brynu robot partner ymarfer newydd a fydd yn bwydo peli cyflym a throelli amrywiol i brofi chwaraewyr ar bob lefel.

 

Clwb Nofio Amatur Aberhonddu a’r Cyffiniau

Ardal: Powys 
Dyfarnwyd: £3,528

Prosiect: Mae blociau dechrau sydd mewn cyflwr gwael ac sydd wedi bod yn y pwll am 25 o flynyddoedd yn cael eu newid am rai newydd a fydd o fudd i gael plant yn gyfarwydd â’r blociau dechrau y byddant yn eu defnyddio mewn galas nofio cystadleuol.

Mae gan y blociau newydd gefn y mae posib ei addasu er mwyn ei symud i’r lleoliad cywir i gefnogi pob nofiwr, gan gynnwys y rhai ag anableddau. Mae hyn yn hynod bwysig i’r clwb gan fod ganddo un aelod â pharlys yr ymennydd.

 

Lle i Chwaraeon - rhestr lawn o’r dyfarniadau

  • Clwb Gymnasteg West Street Abertawe £17,600.00
  • Clwb Criced Ynystawe Abertawe £17,582.00
  • Clwb Criced Gorseinon Abertawe £17,238.00
  • Clwb Pêl Droed Amatur Brynawel Abertawe £16,255.00
  • Clwb Achub Bywyd y Mwmbwls Abertawe £15,097.00
  • Bocsio Uwch Clwb Hafod Abertawe £14,997.00
  • Clwb Pêl Droed Tref Pontarddulais Abertawe £14,292.00
  • Clwb Bowls Dyfatty Abertawe £4,000.00
  • Prosiect Lles Kingsway Abertawe £3,500.00
  • Parc Y Werin 2000 Abertawe £1,296.00
  • Clwb Bowls Abertileri Blaenau Gwent £14,035.00
  • CIC Bocsio a Ffitrwydd AB Blaenau Gwent £12,000.00
  • Clwb Pêl Droed Mini ac Iau Glynebwy RTB Blaenau Gwent £8,704.00
  • Clwb Bowls Glynebwy RTB Blaenau Gwent £7,600.00
  • Clwb Criced Glynebwy Blaenau Gwent £6,432.00
  • Clwb Bowls Six Bells Cyf. Blaenau Gwent £4,000.00
  • Cyngor Cymuned Llandochau Bro Morgannwg £20,000.00
  • Clwb Gymnasteg YMCA Y Barri Bro Morgannwg £9,162.00
  • Her Cymru Bro Morgannwg £6,314.00
  • Clwb Trampolinio Bro Caerau Bro Morgannwg £5,000.00
  • Clwb Bowlio Millwood Bro Morgannwg £4,000.00
  • Clwb Bowlio Romilly Y Barri Bro Morgannwg £4,000.00
  • Clwb Bowlio Belle Vue Penarth Bro Morgannwg £4,000.00
  • Motion Control Dance Bro Morgannwg £2,106.00
  • Snowsport Cymru Wales Caerdydd £24,510.00
  • Clwb Rhwyfo Llandaf Caerdydd £10,920.00
  • Jiwdo Honto Caerdydd £7,183.00
  • Clwb Bocsio Catholig Grange Caerdydd £6,600.00
  • ABC Caerau a Threlái Caerdydd £6,396.00
  • Clwb Bowls Sain Ffagan Caerdydd £4,000.00
  • Clwb Bocsio Amatur Llanedeyrn a Phentwyn Caerdydd £2,400.00
  • Clwb Athletau Cwm Rhymni Caerffili £11,222.00
  • Clwb Gymnasteg Islwyn Caerffili £7,668.00
  • Grŵp Van Road Trails Caerffili £6,816.00
  • Newport Live Casnewydd £30,102.00
  • Clwb Athletau Harriers Casnewydd Casnewydd £25,000.00
  • Canolfannau GOL Cyf. Casnewydd £22,360.00
  • CAPD Caerllion Casnewydd £13,520.00
  • Undeb Beicio Cymru Casnewydd £12,310.00
  • Clwb Bocsio Sant Joseph Casnewydd £9,493.00
  • Clwb Criced Malpas Casnewydd £5,000.00
  • Riverside Rovers Casnewydd £4,400.00
  • Clwb Bowlio Caerllion Casnewydd £4,326.00
  • Academi Gymnasteg Cyfyngedig Dinas
  • Casnewydd Casnewydd £3,139.00
  • Clwb Nofio a Pholo Dŵr Dinas Casnewydd Casnewydd £2,080.00
  • Cyrtiau Tennis Cymunedol Castell-nedd
  • Cyfyngedig Castell-nedd Port Talbot £36,988.00
  • Clwb Achub Bywyd Aberafon Castell-nedd Port Talbot £8,138.00
  • Antur Parc Margam Castell-nedd Port Talbot £5,154.00
  • Clwb Trampolinio Flyers Castell-nedd Castell-nedd Port Talbot £5,000.00
  • Clwb Bowls Lles Pontrhydyfen Castell-nedd Port Talbot £4,000.00
  • CAPD Tref Pontardawe Castell-nedd Port Talbot £3,500.00
  • Clwb Sboncen Aberteifi Ceredigion £16,699.00
  • Clwb Saethu Penrhiwpal Ceredigion £11,775.00
  • Clwb Rhwyfo Crannog Ceredigion £6,000.00
  • Cyngor Cymuned Llanddewi Brefi Ceredigion £4,000.00
  • Clwb Pêl Droed Tregaron Turfs Ceredigion £2,545.00
  • Clwb Rygbi Nant Conwy Conwy £15,000.00
  • Clwb Nofio Amatur Bae Colwyn Conwy £5,610.00
  • Cymdeithas Chwaraeon Mochdre Conwy £4,000.00
  • Clwb Pêl Droed Amatur Athletig Dolgellau Gwynedd £15,296.00
  • Clwb Gymnasteg Caernarfon Gwynedd £2,398.00
  • Ysgol Bro Lleu Gwynedd £1,000.00
  • Clwb Bowls Trethomas Merthyr Tudful £12,000.00
  • Clwb Rygbi a Phêl Droed Mini ac Iau Ynysowen Merthyr Tudful £5,000.00
  • Clwb Athletau Pen-y-bont ar Ogwr Pen-y-bont ar Ogwr £50,000.00
  • Clwb Rygbi a Phêl Droed Nantyffyllon Pen-y-bont ar Ogwr £25,000.00
  • Clwb Saethu Targedau Tondu Pen-y-bont ar Ogwr £10,000.00
  • Clwb Athletau Bechgyn a Merched Pencoed Pen-y-bont ar Ogwr £9,800.00
  • Grŵp Dawns Funk Force Pen-y-bont ar Ogwr £4,467.00
  • Clwb Bowls Mynydd Cynffig a’r Pîl Pen-y-bont ar Ogwr £4,000.00
  • Clwb Hwylio Llangors Powys £22,668.00
  • Clwb Bowlio Y Gelli Gandryll Powys £15,000.00
  • Clwb Bowlio Aberhonddu Powys £6,263.00
  • Clwb Bowlio Trefaldwyn Powys £4,000.00
  • Clwb Nofio Amatur Aberhonddu a’r Cyffiniau Powys £3,528.00
  • Sgwad Nofio Perfformiad RhCT Rhondda Cynon Taf £22,225.00
  • Pwyllgor Rheoli Canolfan Gymunedol Brynna Rhondda Cynon Taf £17,000.00
  • Ysgol Uwchradd Hawthorn Rhondda Cynon Taf £6,445.00
  • Clwb Pêl Droed Trefforest Rhondda Cynon Taf £5,000.00
  • Clwb Bowls Cwm Elái Rhondda Cynon Taf £4,960.00
  • Adran Mini ac Iau Clwb Rygbi a Phêl Droed
  • Pontypridd Rhondda Cynon Taf £3,242.00
  • Clwb Tennis Bwrdd Y Rhondda Rhondda Cynon Taf £728.00
  • Clwb Bowlio Parc Gelli Rhondda Cynon Taf £295.00
  • Cyngor Sir Benfro Sir Benfro £38,200.00
  • Clwb Tennis Llandyfái Sir Benfro £16,851.00
  • Clwb Rygbi Pêl Droed Arberth Sir Benfro £10,240.00
  • Ffederasiwn Codi Pwysau Sir Benfro Sir Benfro £10,000.00
  • CAPD Chwaraeon Abergwaun Sir Benfro £9,178.00
  • Clwb Bowls Abergwaun a Gwdig Sir Benfro £4,000.00
  • Academi Gymnasteg Elements Sir Benfro £3,440.00
  • Saethyddwyr Reach Cleddau Sir Benfro £3,218.00
  • Cymdeithas Chwaraeon Hundleton Sir Benfro £2,279.00
  • Clwb Pêl Droed Johnston Sir Benfro £2,200.00
  • Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod Sir Benfro £1,684.00
  • Clwb Achub Bywyd Syrff Porthmawr Sir Benfro £983.00
  • RFC Y Rhyl a’r Fro Cyf. Sir Ddinbych £25,000.00
  • Clwb Tennis Y Rhyl Sir Ddinbych £25,000.00
  • Cymdeithas Feicio Glan Morfa (Traciau Marsh)
  • Cyf. Sir Ddinbych £6,511.00
  • Reidwyr y Ddraig Y Rhyl Sir Ddinbych £4,176.00
  • Prosiect Cornfield Sir Fynwy £25,000.00
  • Clwb Athletau Brynbuga Sir Fynwy £13,649.00
  • Cyngor Sir Mynwy Sir Fynwy £8,000.00
  • Clwb Criced Cas-gwent Sir Fynwy £1,760.00
  • Overhang Sir Gaerfyrddin £35,082.00
  • Canolfan Iechyd a Ffitrwydd Evolution Cyf. Sir Gaerfyrddin £25,000.00
  • Campfa Hyfforddiant Personol Keri Mckibbin Sir Gaerfyrddin £17,286.00
  • Clwb Criced Yr Wyddgrug Sir y Fflint £5,000.00
  • Clwb Bowlio Copperfields Sir y Fflint £4,000.00
  • Ieuenctid Clwb Pêl Droed Maes-glas Sir y Fflint £3,500.00
  • Canolfan Berfformio Dolffiniaid Torfaen Torfaen £15,733.00
  • CAPD Iau Sebastopol Torfaen £15,000.00
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen Torfaen £8,000.00
  • Clwb Bowls Parc Panteg Torfaen £4,000.00
  • Ysgol Gyfun Gwynllyw Torfaen £1,868.00
  • Clwb Gymnasteg Olympus Wrecsam £25,000.00
  • Clwb Pêl Droed Brickfield Rangers Wrecsam £18,720.00
  • Clwb Pêl Droed Ieuenctid Rhosddu Unedig Wrecsam £1,262.00
  • Cyngor Sir Ynys Môn Ynys Môn £40,000.00