Skip to main content

Y GANOLFAN ATHLETAU DAN DO GENEDLAETHOL

  1. Hafan
  2. Cynnwys
  3. Y GANOLFAN ATHLETAU DAN DO GENEDLAETHOL

Agorodd y ganolfan nodedig yn 2000 ac mae wedi’i lleoli ar gampws chwaraeon Prifysgol Metropolitan Caerdydd yng Nghyncoed. Costiodd £7m i’w hadeiladu a chafodd ei chyllido gan grant gwerth £5.6m gan y Loteri Genedlaethol drwy Chwaraeon Cymru. Mae drws nesaf i drac awyr agored.

Mae gan y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol, sy’n cael ei hadnabod fel NIAC yn gryno, y canlynol:

  • trac cystadlu 200m llawn gydag ymylon
  • darn syth 60m naw lôn
  • darn syth 140m chwe lôn ar wahân
  • pyllau Naid Drebl a Hir ar gyfer cystadlu a hyfforddi
  • pyllau Neidio â Pholyn ar gyfer cystadlu a hyfforddi
  • pwll Naid Uchel ar gyfer cystadlu a hyfforddi 
  • rhwydi ymarfer ar gyfer pob camp daflu
  • labordy biomecaneg gydag offer llawn
  • ardal driniaeth ar gyfer Meddygaeth Chwaraeon/Ffisiotherapi
  • ardal hyfforddi â phwysau benodol
  • campfa cryfder a siapio

Mae gan y cyfleuster offer llawn i safon ryngwladol a lle i eistedd i 690 o wylwyr. 

Mae chwaraeon eraill yn cynnal digwyddiadau a hyfforddiant yn NIAC yn rheolaidd gan ei bod wedi cael ei chynllunio i gartrefu campau fel pêl rwyd, pêl fasged, pêl foli a mwy. 

Gwasanaethau Perfformiad Uchel

Ceir gwasanaethau meddygaeth chwaraeon yn NIAC gyda ffisiotherapi a thylino ar gael ar y safle. Mae ardaloedd triniaeth, campfa cryfder a siapio, baddon rhew ar ochr y trac a labordy biomecaneg gydag offer llawn yn sicrhau bod athletwyr elitaidd yn cael y gefnogaeth orau un.

Hefyd, mae Athrofa Chwaraeon Cymru’n cefnogi rhaglen elitaidd Athletau Cymru yn llawn gyda gwasanaethau fel maeth perfformiad, seicoleg perfformiad a ffordd o fyw yn perfformio. Mae ein hymarferwyr ni’n ymweld yn aml â NIAC neu gall athletwyr wneud apwyntiadau i fynd i Athrofa Chwaraeon Cymru.

Pwy sy’n hyfforddi yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol yng Nghaerdydd?

Dros y blynyddoedd, mae’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol wedi datblygu i fod yn lleoliad i baratoi ar gyfer ennill medalau.

Pan agorodd drysau’r cyfleuster am y tro cyntaf, daeth yn ail gartref yn fuan iawn i stabl hyfforddi Linford Christie, oedd yn cynnwys Jamie Baulch, Darren Campbell a Katharine Merry. Hefyd roedd Colin Jackson a Christian Malcolm i’w gweld yma’n wythnosol yn ymarfer yn galed.

Heddiw, mae’r Paralympiad sydd â medal aur, Aled Sion Davies, ymhlith y rhai sy’n perffeithio eu crefft yma, ac mae hefyd yn bencadlys hyfforddi i lawer iawn o sêr newydd.

Rhagor o Wybodaeth

Ewch i: http://www.cardiffmet.ac.uk/about/sport/Pages/National-Indoor-Athletics-Centre-(NIAC).aspx

Contact

Cardiff Metropolitan University
NIAC
Cyncoed Campus
Cyncoed Road
Cardiff
CF23 6XD

029 2041 6777