Skip to main content

Partneriaeth Girlguiding yn agor drysau i griced

  1. Hafan
  2. Extra Time Oct 2022
  3. Partneriaeth Girlguiding yn agor drysau i griced

Fe ffurfiodd Girlguiding Cymru gyswllt â Chriced Cymru yr haf yma mewn ymgais i gyflwyno’r gamp i ferched ifanc ledled y wlad.

Dyma'r bartneriaeth ddiweddaraf gan Girlguiding Cymru, sydd wedi helpu i agor drysau i bêl droed, rygbi, golff, pêl rwyd, hoci, pêl foli a dawns ar gyfer eu 11,000 o aelodau ifanc.

Gan gydweithio â Chriced Cymru, cynhyrchodd Girlguiding Cymru – mudiad sy’n cael ei gefnogi gan fyddin o 3,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru – becyn y gellir ei lawrlwytho o’r enw Yr Her Criced.

Mae’n cynnig gemau amrywiol, posau, ymarferion creadigol a heriau sgiliau, i gyd yn gysylltiedig â’r gamp. Unwaith y bydd yr holl heriau wedi'u cwblhau, mae'r merched yn ennill eu bathodyn Her Criced.

Mae'r her olaf yn gofyn i ferched chwarae criced wedi'i drefnu - drwy sesiwn blasu criced - yn eu clwb criced lleol.

Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd y pecyn eisoes wedi'i lawrlwytho 383 o weithiau gan grŵp neu uned Girlguiding Cymru ac roedd 931 o fathodynnau wedi'u dosbarthu!

“Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd rhan a rhoi cynnig arni i gael y bathodyn.”

“Mae’n cymryd amser ac ymdrech i gynhyrchu llyfryn da ac mae hwn yn wych oherwydd mae’n cael merched allan yna ac yn eu symud nhw tuag at gymryd rhan mewn criced,” meddai Sadie Mansfield, Swyddog Rhaglenni Actif yn Girlguiding Cymru.

“Mae’n rhaid iddyn nhw gymryd rhan a rhoi cynnig arni i gael y bathodyn.”

Gan adeiladu ar y cyflwyniad hwnnw i’r gamp, mae merched hefyd wedi gallu symud ymlaen i’r rhaglen All Stars sydd wedi’i threfnu gan Griced Cymru ar gyfer plant rhwng pump ac wyth oed ac wedyn Dynamos i rai wyth i 11 oed.

Yn bartner hefyd i Chwaraeon Cymru, mae Girlguiding Cymru wedi ymrwymo i ddarparu anturiaethau, cyfeillgarwch a chyfleoedd i’w 1,100 o grwpiau neu unedau sy’n cynnwys y Rainbows, y Brownies, y Guides ac adrannau hŷn.

Mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhan fawr o’r ddarpariaeth honno ac mae’r pwyslais ar griced yr haf yma’n adlewyrchu’r ffordd mae’r gamp wedi dod yn hygyrch ac wedi sicrhau proffil uchel ar draws y ddau ryw.

“Mae criced yn addysgu llawer o sgiliau gwahanol – cydsymudiad, taflu, dal, batio, bowlio a gwaith tîm. Gall helpu gyda chwaraeon eraill hefyd,” ychwanegodd Sadie.

“Y prif beth ydi bod y merched yr haf yma wedi mwynhau chwarae yn fawr. Ar ôl Covid, fe wnaeth eu cael yn ôl allan ac i fod yn actif. Roeddwn i'n casáu'r syniad bod merched yn dal i fod y tu mewn, dim ond yn gwneud pethau ar-lein, fel rydyn ni wedi'i weld yn ystod y ddau haf diwethaf.

“Rydw i’n meddwl bod y diddordeb mewn criced ymhlith y merched wedi bod yn uchel iawn. Dydyn nhw ddim wir yn cael y cyfle i chwarae llawer o griced mewn ysgolion yn aml iawn.

“Nid rhaniad bechgyn a merched ydi hynny. Mae’n gamp nad ydi plant yn cael llawer o gyfle i’w chwarae yn yr ysgol.

“Ond cyn gynted ag y gwnaethon nhw roi cynnig ar y gamp, fe wnaethon nhw sylweddoli y gallai fod yn rhywbeth iddyn nhw ac y bydden nhw eisiau parhau i’w wneud efallai.”