Skip to main content

Cynllunio i Hyrwyddo

Mae marchnata, cyfathrebu a hyrwyddo effeithiol yn gallu chwarae rhan bwysig mewn helpu clwb chwaraeon cymunedol i ehangu a ffynnu.

Y newyddion da yw bod llawer o ffyrdd i’ch helpu chi i godi eich proffil.

Cynllunio ymlaen

Mae bob amser yn well cynllunio beth rydych am ei wneud a manteisio i’r eithaf ar eich amser a’ch adnoddau, yn hytrach na cheisio ei dal hi ym mhob man a pheidio â chael cymaint o effaith.

Un syniad da yw i chi a’ch gwirfoddolwyr ysgrifennu cynllun marchnata y gallwch gytuno arno gyda’ch gilydd a chadw ato. Does dim rhaid iddi fod yn broses anodd a does dim angen dogfen enfawr. Yn wir, gall fod mor fanwl ag y dymunwch chi, ond dim ond rhai elfennau safonol sydd eu hangen mewn gwirionedd, i’ch helpu chi i ganolbwyntio eich egni.

Cyflwyniad 

Beth am ddechrau gyda’ch cyflwyniad? Dyma olwg gyffredinol ar sefyllfa bresennol eich clwb a’r heriau neu’r materion rydych eisiau rhoi sylw iddynt.              

Gallech wneud dadansoddiad ‘SWOT’ a rhestru eich Cryfderau, Gwendidau, Cyfleoedd a Bygythiadau. Gallai fod yn sesiwn sefydlu syniadau defnyddiol gyda’ch gwirfoddolwyr neu eich aelodau.           

Amcanion  

Nesaf rhaid rhoi sylw i’ch amcanion. Bydd rhaid i chi feddwl am rai amcanion y gall bawb eu cefnogi a bod yn hyderus i weithio tuag atynt. Dylai’r rhain fod yn realistig ac wedi’u hamseru a dylech allu eu mesur i weld a ydych wedi llwyddo. Ai denu 10 aelod newydd erbyn y flwyddyn nesaf yw eich amcan? Neu ddenu £500 o gyllid ychwanegol erbyn mis Ebrill?            

Dylai’r amcanion fod yn:

  • Realistig
  • Penodol
  • Mesuradwy
  • Cyraeddadwy
  • Wedi’u Hamseru

Pwy ydych chi’n ceisio eu cyrraedd?

Efallai eich bod eisiau cyfathrebu â gwahanol grwpiau.

Gallant gynnwys:    

  • Aelodau a gwirfoddolwyr y clwb
  • Rhieni a gofalwyr
  • Cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol neu’r corff rheoli
  • Ysgolion lleol a sefydliadau cymunedol neu bartneriaid eraill

Meddyliwch pa ddull cyfathrebu sydd fwyaf addas i gyrraedd pob cynulleidfa. Er enghraifft, os ydych chi’n ceisio cael busnesau i’ch noddi chi, efallai bod fforymau neu gyfarfodydd y mae arweinwyr busnes yn eu mynychu.

Fformatau eraill

Mae fformatau cyfathrebu hygyrch (sy’n cael eu galw’n fformatau eraill hefyd) yn cyfeirio at y defnydd o sain, braille, iaith arwyddion Prydain, print mawr a llawer o fformatau eraill sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl ag anableddau neu namau.    

Mae’n syniad da cynnwys pobl anabl o’ch cynulleidfa mewn datblygu gwybodaeth mewn fformatau hygyrch. Byddant yn gwybod eu hanghenion a gallant eich helpu chi i ganfod y ffordd fwyaf effeithiol i’w bodloni. Hefyd gallwch ofyn i sefydliadau anabledd am gyngor. I gael rhagor o help gyda hyn a gyda defnyddio lluniau.

Eichstrategaeth

Yn gyffredinol iawn, dylai eich strategaeth gynnwys y cyfeiriad cyffredinol rydych yn llywio eich clwb iddo.

Er enghraifft:

  • Cynyddu nifer eich aelodau neu eich chwaraewyr
  • Gofyn am help a chefnogaeth gan y gymuned
  • Hybu digwyddiad mawr neu gêm fawr (os yw’n costio i fynd iddi ai peidio)
  • Creu incwm o’r tu mewn i’ch clwb
  • Codi arian ar gyfer eich clwb i helpu gyda phrosiect mawr
  • Sicrhau nawdd neu gefnogaeth fasnachol

Bydd rhaid i chi bennu camau gweithredu penodol, gan gynnwys tasgau a neilltuir i unigolion yn ogystal ag unrhyw gyllidebau, os o gwbl. Ceisiwch bennu amserlen ar gyfer y rhain bob amser, fel nad yw’r gwaith yn hwyr.

Hefyd meddyliwch sut byddwch yn gwneud yn siŵr bod y gwaith yn mynd rhagddo ac yn cael ei wneud.

Gwerthuso  

Beth weithiodd yn dda? Beth oedd yn aflwyddiannus? Bydd rhaid i chi feddwl sut byddwch yn gwerthuso eich gwaith a sit byddwch yn penderfynu ar eich camau nesaf.

Os ydych chi wedi bod yn ceisio recriwtio aelodau, er enghraifft, cewch weld a yw eich dulliau’n gweithio drwy ofyn i wynebau newydd sut clywson nhw amdanoch chi,

Rhagor o Wybodaeth             

Mae gan Busnes Cymru lawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys templed Cynllun Gweithredu i Farchnata syml. 

Hefyd mae gan Busnes Cymru wybodaeth am strategaethau marchnata ac ymchwil marchnad a chyrsiau ar bob maes busnes, gan gynnwys marchnata. 

Mae 'Activity Alliance' wedi rhoi pecyn cymorth at ei gilydd i'ch helpu chi ddefnyddio dulliau cyfathrebu er mwyn cyrraedd cynulleidfa eang, gan gynnwys pobl anabl.  Dyma ffordd i wir ddod i nabod eich cynulleidfa er mwyn gallu cynllunio.