Skip to main content

Sut rydych chi’n llwyddo?

Cyfle i ennill £100 i’ch clwb

Bob diwrnod bob wythnos, mae gwirfoddolwyr mewn clybiau a gweithgareddau chwaraeon ledled Cymru’n goresgyn amrywiaeth o heriau er mwyn sicrhau bod eu clwb yn ffynnu a bod pobl yn cael bod yn egnïol.

Mae amrywiaeth o heriau – o gyllid i gyfleusterau, pobl i hyrwyddo – yn profi rôl gwirfoddolwyr ledled Cymru.                   

Mae gennym ni lawer o ‘Eich Straeon Chi’ ar wefan Atebion Clwb, sydd wedi cael eu rhoi at ei gilydd er mwyn cyflwyno cipolwg o’r atebion mae clybiau wedi’u defnyddio i’w helpu i ddatblygu.      

Ond rydyn ni eisiau mwy o enghreifftiau. A phwy well i adrodd y stori na’r gwirfoddolwyr eu hunain?

Gan ddefnyddio un o adrannau Atebion Clwb (cyllid clwb, cyfleusterau, rheoli eich clwb, pobl yn eich clwb, hyrwyddo eich clwb), dywedwch wrthym ni am her rydych chi wedi’i hwynebu a sut rydych chi wedi ei goresgyn.

Ac fe allwch chi fod yn greadigol.

Gwnewch ffilm ar eich ffôn neu eich dyfais dabled, cofnodwch flog sain, ysgrifennwch stori ... chi sydd i ddewis.

Rydyn ni eisiau i’r cynnwys fod yn ddifyr, felly cadwch at funud neu ddau os ydych chi’n creu ffilm.

Dyma rai pethau i’w hystyried:

  • Beth oedd y broblem neu’r mater dan sylw?
  • Beth wnaethoch chi?
  • Beth sydd wedi digwydd o ganlyniad?
  • Beth ydych chi wedi’i ddysgu?
  • Pa gyngor neu awgrymiadau fyddech chi’n eu cynnig i eraill?

Os byddwn yn cofnodi’r stori ar wefan Atebion Clwb, byddwn yn rhoi £100 i’ch clwb.

Does dim cyfyngiad ar y nifer o straeon y gallwch chi eu cyflwyno a bydd panel Atebion Clwb yn penderfynu pa rai sy’n mynd ar-lein.   

Bydd arnoch angen caniatâd pwyllgor y clwb neu arweinydd y gweithgaredd er mwyn i ni allu defnyddio’r stori.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â [javascript protected email address]