Skip to main content

Pecyn Adnoddau Crowdfunder

Cydweithredu â Crowdfunder

Mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Crowdfunder i gynnig ffordd newydd gyffrous i glybiau chwaraeon cymunedol gyllido gwelliannau i gyfleusterau. Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15,000 o arian cyfatebol i gefnogi ymdrechion codi arian y clybiau cymunedol eu hunain. 

Sut mae’n gweithio?

Mae clybiau a sefydliadau yn sefydlu tudalen ar wefan Crowdfunder, sy'n gofyn i bobl roi arian i'r achos neu'r syniad. Mae Crowdfunder yn darparu cymorth a chyngor, gan gynnwys rhywun i dywys pobl drwy'r broses. 

Caiff y prosiect Crowdfunder ei asesu gan Chwaraeon Cymru, a all benderfynu pa lefel o arian cyfatebol y bydd yn gymwys i'w gael yn seiliedig ar yr wybodaeth maent wedi'i nodi.

Os yw'r dudalen Crowdfunder wedi cyrraedd meini prawf penodol, bydd Chwaraeon Cymru yn rhoi arian cyfatebol rhwng 30% a 50% o'r cyfanswm, hyd at uchafswm o £15,000 o arian cyfatebol.Caiff canran Chwaraeon Cymru (30% - 50%) ei phennu yn seiliedig ar botensial prosiect i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau.

Pa fath o brosiectau fydd Chwaraeon Cymru yn eu cefnogi?

Mae'r cynllun ar gyfer clybiau dielw a grwpiau cymunedol sy'n ceisio codi arian ar gyfer gwelliannau 'oddi ar y cae'. Er enghraifft: 

  • Ystafelloedd newid
  • Adnewyddu tai clwb
  • Gwell cyfleusterau cegin i sicrhau mwy o incwm
  • Raciau beiciau a storio
  • Lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i bobl anabl
  • Paneli solar
  • Generaduron
  • Boeleri
  • Ffens newydd

Pa gefnogaeth mae’r sawl sy’n codi arian yn ei chael? 

Bydd clybiau cymunedol sy'n gymwys i gael arian cyfatebol Chwaraeon Cymru hefyd yn derbyn pecyn o hyfforddiant a chefnogaeth i'w tywys ar eu siwrnai Crowdfunder. Bydd hyn yn helpu clybiau i feithrin y sgiliau a'r hyder sy'n ofynnol i helpu gyda'u codi arian ac ymgysylltu â'r gymuned yn y dyfodol. Mae'r pecyn yn cynnwys:

  • Digwyddiadau gweminar ar-lein
  • Platfform dysgu ar-lein pwrpasol i ddangos i bobl sut i ddefnyddio cyllid torfol, a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Chwaraeon Cymru.
  • Mynediad at hyfforddwyr Crowdfunder arbenigol
  • Gwasanaeth fideo rhyngweithiol i helpu gydag ateb cwestiynau syml
  • Canolfan Gymorth ar-lein 24/7 Crowdfunder
  • Digon o ganllawiau ar sut i gynlluniol, creu a gweithredu prosiect Crowdfunder.

Pam cyllid torfol?

Mae'r defnydd o gyllido torfol yn gyffrous oherwydd bydd yn ei gwneud yn ofynnol i glybiau ymgysylltu â'u cymunedau lleol yn fwy nag erioed. Drwy ddefnyddio gwefan Crowdfunder, bydd unrhyw un sy’n addo cyllid nid yn unig yn cefnogi prosiect clwb, ond byddant hefyd yn ennill gwobrau sydd wedi’u cyfrannu gan eu cymuned fusnes leol.

Dyddiadau allweddol:

  • Lansiad: Medi 8fed
  • Gweminarau prosiectau Crowdfunder - Sesiwn Cyntaf: Medi 30ain
  • Cynllun peilot yw’r gronfa hon a bydd yn weithredol tan fis Ebrill 2022.

Adnoddau i hybu’r gronfa i’ch rhwydwaith

Helpwch ni hybu'r gronfa gyda'r adnoddau isod