Skip to main content

Crowdfunder - Erthyglau a Chyfryngau Cymdeithasol

Testun gwefan ac e-farchnata 

Erthygl fer 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Crowdfunder i gynnig ffordd newydd gyffrous i glybiau chwaraeon cymunedol gyllido gwelliannau i gyfleusterau. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15,000 o arian cyfatebol i gefnogi ymdrechion codi arian y clybiau cymunedol eu hunain ar wefan www.crowdfunder.co.uk.  

Mae’r enghreifftiau o'r mathau o brosiectau a allai dderbyn cefnogaeth yn cynnwys gwelliannau i ystafelloedd newid, adnewyddu clybiau, lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i'r anabl, a gosod paneli solar yn eu lle. 

Ewch i'r wefan i gael gwybod mwy.  

Erthygl hir 

Mae Chwaraeon Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Crowdfunder i gynnig ffordd newydd gyffrous i glybiau chwaraeon cymunedol gyllido gwelliannau i gyfleusterau. 

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig hyd at £15,000 o arian cyfatebol i gefnogi ymdrechion codi arian y clybiau cymunedol eu hunain ar wefan www.crowdfunder.co.uk.  

Mae’r enghreifftiau o'r mathau o brosiectau a allai dderbyn cefnogaeth yn cynnwys gwelliannau i ystafelloedd newid, adnewyddu clybiau, gwella cyfleusterau cegin i alluogi cynhyrchu incwm, raciau a storfa beiciau i gefnogi teithio actif, lifftiau a rampiau ar gyfer gwell mynediad i'r anabl, a gosod paneli solar, generaduron neu foeleri yn eu lle. 


Gan fod Chwaraeon Cymru eisiau sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfleoedd i fod yn actif drwy chwaraeon, bydd prosiectau sy'n anelu at fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn cael eu blaenoriaethu. Bydd Chwaraeon Cymru yn gweithredu graddfa symudol o fuddsoddiad cyllid cyfatebol - rhwng 30% a 50% - yn seiliedig ar botensial prosiect i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Mae mwy o wybodaeth am sut mae hyn yn gweithio ar gael ar wefan Crowdfunder.


Mae'r defnydd o gyllido torfol yn gyffrous oherwydd bydd yn ei gwneud yn ofynnol i glybiau ymgysylltu â'u cymunedau lleol yn fwy nag erioed. Drwy ddefnyddio gwefan Crowdfunder, bydd unrhyw un sy’n addo cyllid nid yn unig yn cefnogi prosiect clwb, ond byddant hefyd yn ennill gwobrau sydd wedi’u cyfrannu gan eu cymuned fusnes leol.


Bydd clybiau cymunedol sy'n gymwys i gael arian cyfatebol Chwaraeon Cymru hefyd yn derbyn pecyn o hyfforddiant a chefnogaeth i'w tywys ar eu siwrnai Crowdfunder. Bydd hyn yn helpu clybiau i feithrin y sgiliau a'r hyder sy'n ofynnol i helpu gyda'u codi arian ac ymgysylltu â'r gymuned yn y dyfodol. 

Ewch i'r wefan i gael gwybod mwy.