Skip to main content

AELOD ANNIBYNNOL O’R PWYLLGOR ARCHWILIO A SICRWYDD RISG 

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. AELOD ANNIBYNNOL O’R PWYLLGOR ARCHWILIO A SICRWYDD RISG 

AM Y SWYDD WAG YMA

Tâl - Gwirfoddol (bydd treuliau rhesymol yn cael eu talu)

Hyd: Tymor cychwynnol o 3 blynedd gyda'r opsiwn i ymestyn am dymor pellach o 3 blynedd

Ymrwymiad Amser - Tua 6 diwrnod y flwyddyn

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd. Gallwch gael gwybod mwy am ein strategaethyma.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideoar ein tudalen gyrfaoedd.

EICH CYFRANIAD       

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a fydd yn gallu cyfrannu'n llawn at weithredu’r Pwyllgor yn effeithiol, gan ddarparu goruchwyliaeth i’r Bwrdd a monitro'r trefniadau sydd gan y sefydliad ar waith mewn perthynas â rheoli risg, llywodraethu a'r system o reolaeth fewnol.

Mae'r Pwyllgor yn cwrdd 4 gwaith y flwyddyn (ym misoedd Mawrth, Mehefin, Medi a Rhagfyr fel rheol) gyda chyfleoedd ychwanegol ar gyfer sesiynau datblygu. Fel rheol, cynhelir cyfarfodydd pwyllgor yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd, gydag opsiwn i aelodau ymuno o bell drwy fideo-gynadledda.

EICH DATBLYGIAD

Dyma gyfle datblygiad proffesiynol gwych i gyfrannu at yr agenda chwaraeon ffyniannus yng Nghymru. Byddwch yn derbyn rhaglen sefydlu gynhwysfawr a hyfforddiant rheolaidd fel sy'n briodol.

GYDA PHWY FYDDWCH CHI’N GWEITHIO

Byddwch yn gweithio'n agos gyda Chadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg ynghyd ag aelodau eraill o'r pwyllgor i ddarparu cefnogaeth, craffu a her i'r Weithrediaeth a sicrwydd i'r Bwrdd.

Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda'n Harchwilwyr Mewnol (Deloitte) a’r Archwilwyr Allanol (Archwilio Cymru).

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n Gyfrifwyr â chymhwyster CCAB (neu gyfatebol) sydd â phrofiad yn gweithredu ar lefel strategol o fewn sefydliad a gwybodaeth a dealltwriaeth o ddatganiadau ariannol, yn ddelfrydol gan gynnwys cyfrifon Elusennau a’r sector cyhoeddus

Os oes gennych chi ddealltwriaeth gadarn o'r tirlun rheoleiddio yn sector cyhoeddus Cymru ac os oes gennych chi ymrwymiad cadarn i egwyddorion Nolan, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Os hoffech chi wneud cais am y cyfle hwn anfonwch CV a Llythyr yn Cyd-fynd i [javascript protected email address]

DYDDIAD CAU

18fed Hydref 2021. 

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad

3ydd Tachwedd 2021