Skip to main content

Cynorthwy-ydd Arlwyo Achlysurol

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Cynorthwy-ydd Arlwyo Achlysurol

Am y swydd wag yma 

Adran a Chyflog

Adran - Arlwyo a Chadw Tŷ           

Cyflog - Graddfa 1 - £19,796.85 y flwyddyn 

Oriau gwaith - Cytundeb achlysurol dim oriau penodol  

Pwy ydym ni?

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma. 

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Beth fyddwch yn ei wneud?

Rydym yn chwilio am unigolion profiadol a fydd yn cael eu cyflogi'n achlysurol yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Caerdydd, yn yr Adran Arlwyo a Chadw Tŷ.

Fel Cynorthwy-ydd Gweithrediadau Arlwyo Achlysurol, byddwch yn gweithio ar sail angen.

Byddwch yn gyfrifol am weithio yn ardal goffi'r llawr isaf gan ddarparu a gwerthu coffi barista ynghyd ag eitemau manwerthu eraill. Oherwydd natur y busnes, efallai y bydd gofyn i chi weithio yn y Caffi ar yr ail lawr hefyd a Chadw Tŷ os oes angen.

Beth fydd arnoch ei angen?

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd ag angerdd dros weini coffi da a darparu profiad o’r safon uchaf i gwsmeriaid.          

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Gallwch wneud cais am y swydd yma nawr.

Disgrifiad Swydd Llawn.

Am fwy o wybodaeth am y rôl anfonwch e-bost i [javascript protected email address].

Dyddiad Cau

31/05/2021.

Dyddiad Dros Dro y Cyfweliad

I’w gadarnhau